Bwletin Newyddion: Cymru yn symud i lefel rhybudd 2; New international travel rules for Wales confirmed by First Minister; Canllawiau a rhestrau gwirio coronafeirws (COVID-19) ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

14 Mai 2021


Covid

Cymru yn symud i lefel rhybudd 2

A lefelau’r coronafeirws yn dal i fod yn isel a’r cyfraddau brechu yn parhau i fod yn well nag yn unrhyw ran arall o’r DU, mae Prif Weinidog Cymru wedi cadarnhau heddiw y bydd Cymru yn symud i lefel rhybudd 2 ddydd Llun.

O 6 y bore ar ddydd Llun, Mai 17, bydd busnesau lletygarwch dan do yn cael ailagor, bydd lleoliadau adloniant dan do hefyd yn ailagor, a chaiff mwy o bobl fynd i gweithgareddau wedi’u trefnu dan do ac yn yr awyr agored.

Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi cadarnhau y bydd teithio rhyngwladol yn ailddechrau o ddydd Llun, ond caiff mesurau diogelu ychwanegol eu rhoi ar waith ar gyfer y rheini sy’n dychwelyd o rai gwledydd er mwyn atal y coronafeirws rhag dod yn ôl i mewn i Gymru.

Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gymorth ariannol ychwanegol i fusnesau y mae cyfyngiadau’r coronafeirws yn dal i effeithio arnynt – bydd modd iddynt hawlio hyd at £25,000 yn rhagor i helpu gyda’u costau.  

Hwn oedd cyhoeddiad cyntaf y llywodraeth newydd, gan arwyddo rhan gyntaf pecyn gwerth £200m sydd wedi’i neilltuo i helpu busnesau sy’n dioddef yn sgil y pandemig.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Diolch i waith caled pawb a’r ymdrechion rydych chi’n dal i’w gwneud, fe allwn ni gymryd cam arall tuag at lacio cyfyngiadau’r coronafeirws a symud i lefel rhybudd 2 ddydd Llun.

“Bydd modd i letygarwch dan do ailagor, cam y bydd llawer ohonon ni’n ei groesawu wrth inni edrych ymlaen at fwynhau diod, pryd o fwyd a chwmni ffrindiau a theulu mewn caffi neu dafarn.

“Drwy ddal ati i gadw’r rheolau a gweithredu ein rhaglen frechu lwyddiannus, rydyn ni’n gwneud cynnydd da iawn o ran rheoli’r feirws a chadw’r cyfraddau yn isel

Ond dydy’r pandemig ddim drosodd – mae’r amrywiolyn newydd o India sy’n peri pryder yn dro arall yn stori’r pandemig hwn nad oedden ni am ei weld, ac rydyn ni’n ei fonitro’n ofalus."

Mae’r newidiadau i gyfyngiadau’r coronafeirws, a ddaw i rym ddydd Llun 17 Mai, yn cynnwys:

  • Gall lleoliadau lletygarwch dan do ailagor - gall chwe pherson o hyd at chwe aelwyd (heb gynnwys plant o dan 11 oed) archebu
  • Gall pob llety gwyliau ailagor yn llawn
  • Gall lleoliadau adloniant, gan gynnwys sinemâu, neuaddau bingo, alïau bowlio, canolfannau chwarae dan do, casinos, arcedau difyrion a theatrau ailagor. Gall sinemâu, theatrau, neuaddau cyngerdd a meysydd chwaraeon werthu bwyd a diod cyn belled â’i fod i’w fwyta a’i yfed wrth eistedd i wylio’r perfformiad;
  • Gall atyniadau dan do i ymwelwyr ailagor, gan gynnwys amgueddfeydd ac orielau;
  • Gall hyd at 30 o bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau dan do wedi’u trefnu a hyd at 50 o bobl mewn gweithgareddau awyr agored wedi’u trefnu. Mae hyn yn cynnwys derbyniadau priodas a the angladd.

Os bydd yr amodau o ran iechyd y cyhoedd yn aros yn gadarnhaol, bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf yn ystyried y canlynol:

  • Newidiadau pellach o ran cwrdd â phobl mewn cartrefi preifat;
  • Cynyddu nifer y bobl a all gwrdd yn yr awyr agored a nifer y bobl a all fynd i weithgareddau a digwyddiadau wedi’u trefnu, gan gynnwys derbyniadau priodas, i 50 dan do a 100 yn yr awyr agored;
  • Caniatáu i ddigwyddiadau mwy o faint gael eu cynnal dan do ac yn yr awyr agored.

Datganiad Ysgrifenedig: Adolygiad o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 gellir eu gweld ar Llyw.Cymru.


Lefel rhybudd 2 (o ddydd Llun 17 Mai)

Mae gwybodaeth am y mesurau sy'n berthnasol ar lefel 2 ar gael:


Y Prif Weinidog yn cadarnhau rheolau newydd i Gymru ar deithio rhyngwladol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau heddiw y bydd teithio rhyngwladol yn ailddechrau i bobl yng Nghymru o ddydd Llun 17 Mai.

Fel rhan o’r newidiadau i reoliadau’r coronafeirws yng Nghymru, bydd pobl sy’n byw yng Nghymru yn cael teithio i rai cyrchfannau tramor heb fod angen iddynt dreulio cyfnod mewn cwarantin ar ôl dychwelyd.

Ond bydd camau diogelwch ychwanegol yn cael eu cyflwyno i helpu i atal achosion newydd o’r coronafeirws rhag cael eu mewnforio i Gymru. 

Bydd system goleuadau traffig, fel sydd gan Loegr a’r Alban, yn cael ei chyflwyno. Bydd gwledydd yn cael eu rhoi mewn categori gwyrdd, oren neu goch, gan ddibynnu beth yw'r cyfraddau coronafeirws yn y gwledydd hynny.

Mae cwarantin gorfodol ar waith ar gyfer pawb sy'n dychwelyd i'r DU o wledydd ar y rhestrau oren a choch. Rhaid i bawb sy'n dychwelyd ar ôl teithio dramor gael prawf PCR.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Bydd Cymru, fel rhannau eraill o'r DU, yn ailddechrau teithio rhyngwladol. Ond diogelu iechyd pobl yw ein prif flaenoriaeth o hyd, ac rydym am wneud popeth yn ein gallu i atal y coronafeirws rhag cael ei ailfewnforio i Gymru.

"Ni fydd hyn fel teithio yn y gorffennol. Bydd pawb sy’n teithio dramor yn gorfod cael prawf ar ôl cyrraedd adref, a bydd gofyn i lawer o bobl dreulio cyfnod mewn cwarantin ar ôl dychwelyd. Bydd dirwyon sylweddol yn cael eu rhoi i'r rhai nad ydynt yn dilyn y gofynion cyfreithiol.

"Nid yw rhai gwledydd yn caniatáu i bobl o'r DU deithio yno eto. Fy nghyngor cryf i yw mai dyma'r flwyddyn i aros gartref a mwynhau popeth sydd gan Gymru i'w gynnig."

O dan y rheolau teithio rhyngwladol:

  • Nid yw pobl sy’n cyrraedd o’r gwledydd sydd ar y rhestr werdd yn gorfod treulio cyfnod mewn cwarantin ar ôl dychwelyd i Gymru, ond mae’n rhaid iddynt archebu a thalu am brawf PCR gorfodol cyn neu ar yr ail ddiwrnod wedi iddynt ddychwelyd. Bydd pob teithiwr ac aelodau eu haelwydydd hefyd yn cael eu hatgoffa bod profion llif unffordd ychwanegol ar gael i fonitro eu hiechyd.
  • Mae'n ofynnol i bobl sy'n cyrraedd o’r gwledydd sydd ar y rhestr oren dreulio cyfnod o 10 diwrnod mewn cwarantin gartref ar ôl dychwelyd. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol. Mae gofyn hefyd iddynt archebu profion PCR gorfodol ar gyfer yr ail ddiwrnod a’r wythfed diwrnod, a thalu am y profion hynny. Yn wahanol i Loegr, nid yw Cymru'n gweithredu cynllun profion rhyddhau, lle gellir cymryd prawf ychwanegol ar y pumed diwrnod i leihau'r cyfnod cwarantîn. Y rheswm am hyn yw bod tua 30% o bobl sy'n datblygu Covid-19 yn gwneud hynny ar ôl y pumed diwrnod.
  • Mae'n ofynnol i bobl sy'n cyrraedd o wledydd sydd ar y rhestr goch dreulio 10 diwrnod llawn mewn cwarantin ar ôl cyrraedd man dynodedig yn y DU, a hynny mewn cyfleuster a reolir gan y llywodraeth - 'gwesty covid' - ar eu cost eu hunain, gan ddechrau o £1,750 y pen. Yn Lloegr neu yn yr Alban y mae holl bwyntiau mynediad y DU ar gyfer pobl sy’n cyrraedd o wledydd ar y rhestr goch, sy'n golygu y bydd angen i drigolion Cymru sy'n dychwelyd o'r gwledydd hynny fynd i gwarantin y tu allan i Gymru. Mae hefyd yn ofynnol i deithwyr archebu profion PCR gorfodol ar yr ail ddiwrnod a’r wythfed diwrnod a thalu am y profion hynny.

Bydd pobl nad ydynt yn dilyn y rheolau ar gyfer gwledydd ar y rhestr goch yn wynebu hysbysiadau cosb benodedig o £10,000.

Rhaid i drigolion Cymru hefyd gydymffurfio â'r gofynion ar gyfer ymwelwyr ag unrhyw wlad y maent yn bwriadu teithio iddi. Gall cyfyngiadau fod ar waith, gan gynnwys tystiolaeth o frechu, profion, cwarantin a’r rhesymau dros ddod i’r wlad.

O ddydd Llun 24 Mai ymlaen, bydd tystysgrifau statws brechu ar gael i bobl yng Nghymru sydd wedi cael dau ddos o’r brechiad ac sydd angen teithio ar frys i wlad lle mae gofyn iddynt ddangos prawf o’u brechiadau Covid.

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

"Rydyn ni'n galw ar bobl i feddwl a oes angen iddyn nhw deithio dramor ar hyn o bryd. Dylem fod yn ofalus ynghylch mynd dramor yng ngoleuni'r risg barhaus o coronafeirws a phresenoldeb amrywiolynnau sy'n peri pryder mewn llawer o wledydd.

"Fy neges glir i bawb yw hyn – dewiswch Gymru fel cyrchfan eleni.”


NODYN ATGOFFA - Canllawiau a rhestrau gwirio coronafeirws (COVID-19) ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch

Wrth i ni edrych ar ailagor yn raddol, sicrhewch eich bod yn ymwybodol ac yn dilyn Canllawiau UKHospitality Cymru yn ogystal a chanllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch. (Gwyliwch y ffilm fer hon i'ch helpu  i ymgyfarwyddo ar canllawiau).

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen yr holl ganllawiau i ddeall y mesurau i'w hystyried i ail-agor y busnes yn ddiogel.

Os ydych yn rhedeg busnes lletygarwch, mae'n ofyniad cyfreithiol cadw cofnodion eich hun o gwsmeriaid, staff ac ymwelwyr i gefnogi gwasanaeth Prawf, Olrhain, Diogelu GIG Cymru.  Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi gyflwyno system electronig neu bapur sy'n cofnodi enw, manylion cyswllt ac amser cyrraedd pob cwsmer (ac eithrio plant). Nid yw gofyn i gwsmeriaid ddefnyddio Ap y GIG yn ddigon ac nid yw'n eithrio busnes rhag casglu'r wybodaeth hon

Mae rhestrau gwirio ar gael sy'n amlinellu'r mesurau allweddol ar gyfer Cadw Cofnodion, ynghyd â Chadw Pellter Cymdeithasol a Hylendid, y dylech eu rhoi ar waith i gadw eich staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr yn ddiogel. 

Dylai busnesau hefyd:

  • Gwneud y mwyaf o awyru a gwella llif aer drwy agor ffenestri a chynnal drysau mewnol agored (ond nid drysau tân) lle bo hynny'n bosibl.
  • Rhaid i staff sy'n gweithio ym mhob man dan do ac yn yr awyr agored sy'n agored i'r cyhoedd wisgo mygydau (oni bai bod ganddynt esgus rhesymol). Rhaid i'r mygydau gael eu gwisgo gan staff sy'n gweini bwyd a diod i gwsmeriaid a phan fydd staff yn symud o amgylch y safle. Rhaid i'ch cwsmeriaid hefyd wisgo mygydau wyneb pan nad ydynt yn eistedd i fwyta neu yfed wrth eu bwrdd dyranedig.

Gallwch hefyd ddefnyddio'r Cerdyn Gweithredu Busnes sy'n rhoi gwybodaeth i chi am sut i gadw COVID-19 allan o'ch safle, pa gamau i'w cymryd pan fydd gweithiwr neu gwsmer yn profi'n bositif a sut y gallwch leihau lledaeniad COVID-19 yn eich busnes. Mae’r wybodaeth hyn hefyd wedi'i rannu fel canllawiau i swyddogion gorfodi gyda thimau Iechyd yr Amgylchedd a Thimau Rheoli Digwyddiadau mewn Awdurdodau Lleol i'w defnyddio wrth iddynt ymweld â busnesau lletygarwch.  

Mae adnoddau pellach yn cynnwys:


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram