|
Dyma ail pedwerydd ar bymtheg rhifyn ein cylchlythyr i gadw'ch bys ar bỳls y datblygiadau diweddaraf wrth inni weithredu Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru. Gwnaethom gyhoeddi a mabwysiadu'r Cynllun ar 12 Tachwedd 2019. Wrth inni weithredu'r cynllun gyda'r rheini sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau, hoffem glywed eich barn chi felly cysylltwch â ni neu rhannwch y cylchlythyr hwn â'ch rhwydweithiau. I'r rheini ohonoch sydd heb ddarllen y cylchlythyr hwn o'r blaen, mae fersiynau blaenorol ohono i'w gweld yma. Fe welwch y manylion cysylltu wrth droed y cylchlythyr.
Ym mis Rhagfyr comisiynwyd Arolwg Defnyddwyr i'n helpu i gasglu gwybodaeth am ymwybyddiaeth o Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru a sut y cafodd ei ddefnyddio yn y 12 mis ers ei fabwysiadu. Rydym yn bwriadu cynnal arolwg pellach yn ystod y cyfnod monitro tair blynedd cyntaf hwn. Bydd hyn yn ein galluogi i gasglu tueddiadau wrth ddefnyddio'r Cynllun a'i ddeunyddiau ategol, a barn defnyddwyr am sut mae'n perfformio o ran cyflawni ei amcanion. |
|
|
Yn yr arolwg cyntaf roeddem yn casglu gwybodaeth am ymwybyddiaeth o'r Cynllun a'r polisïau unigol. Gofynnwyd hefyd i ymatebwyr pa rai o'r dulliau ategol yr oeddent yn ymwybodol ohonynt ac a oeddent wedi defnyddio unrhyw rai ohonynt. Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr naill ai'n nodi eu bod yn awdurdod gwneud penderfyniadau neu'n gorff cynghori. Roedd tua 60% o'r ymatebwyr wedi bod yn defnyddio'r Cynllun wrth wneud penderfyniadau. Rhoddodd yr arolwg wybodaeth ddefnyddiol inni hefyd am ba offer yr oeddent wedi bod yn eu defnyddio a sut roedd defnyddwyr yn ymateb i'n dulliau cyfathrebu. Diolch i bawb am gwblhau'r arolwg ac am roi'r adborth gwerthfawr hwn inni.
Mae Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth £2.3 miliwn yng nghymunedau arfordirol Cymru i gefnogi'r diwydiant bwyd môr, seilwaith harbyrau a'r amgylchedd morol. Mae’r £1.3 miliwn wedi’i ddyrannu i Gynllun Cadernid Sector Bwyd Môr Cymru. Bydd modd cyflwyno ceisiadau o dan y cynllun rhwng 17 a 31 Mawrth. |
|
|
Bydd y Cynllun Seilwaith Arfordirol ar Raddfa Fach, sy’n werth £1 filiwn, ar gael i holl Awdurdodau Porthladdoedd ac Awdurdodau Lleol o amgylch Cymru, a byddant yn gallu gwneud cais am grantiau o hyd at £100,000 ar gyfer buddsoddiad cyfalaf. Bydd y cynllun hwn yn cynnig manteision amgylcheddol a gweithredol, ynghyd â manteision o ran diogelwch, i bawb sy’n defnyddio porthladdoedd a harbyrau Cymru drwy wella perfformiad cyffredinol, cynaliadwyedd, diogelwch, a lles diwydiannau a'r cyhoedd.
Gallwch gael mwy o wybodaeth yma.
Rydym yn parhau i weithio i gefnogi'r newid i economi carbon isel gan gynnwys datblygu technolegau adnewyddadwy morol. Mae Llywodraeth Cymru yn rhan o'r Rhaglen Tystiolaeth a Newid ar gyfer Gwynt ar y Môr sy'n gweithio i gefnogi datblygiad ynni gwynt ar y môr ledled y DU ac rydym yn cyfrannu at adolygiad o'r rhwydwaith trosglwyddo ar y môr. |
|
|
Yng Nghymru, rydym yn gweithio i ddatblygu Canllawiau Lleoliadol ar gyfer ynni’r tonnau a’r ffrwd lanw ac ar wahân, rydym wedi dechrau archwilio'r broses o nodi Ardaloedd Adnoddau Strategol i gefnogi datblygiad cynaliadwy'r sector. Er mwyn cefnogi’r broses o gydsynio prosiectau ynni adnewyddadwy a mynd i'r afael â materion mewn ffordd gydgysylltiedig a strategol, rydym yn cydweithio drwy Ynni Môr Cymru a'r Is-grŵp Cynghori ar Wyddoniaeth a Thystiolaeth (SEAGP) a sefydlwyd yn ddiweddar i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o faterion ac atebion tystiolaeth i helpu i gydsynio yn unol â pholisi Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru. Dysgwch fwy am SEAGP ar wefan Llywodraeth Cymru.
Ar 11 Chwefror, cynhaliodd Grŵp y Penderfynwr Cynllunio Morol, sy'n cynnwys Awdurdodau Cyhoeddus Perthnasol sy'n defnyddio Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru wrth wneud penderfyniadau, gyfarfod rhithwir. Trafododd y grŵp weithrediad y Cynllun a'r defnydd ohono a'r canllawiau gweithredu, dulliau monitro ac adrodd a'r offer ategol sydd ar gael i helpu'r Awdurdodau i weithredu'r Cynllun. Mae crynodeb o'r cyfarfod i'w weld yma. |
|
|
Yng nghyfarfod diwethaf y Grŵp, roedd y rhai a oedd yn bresennol wedi gofyn am ddogfen y gallent ei rhannu â'u hymgeiswyr yn ymwneud â pholisïau perthnasol Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru a fyddai'n berthnasol i weithgareddau effaith isel. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu ffeithlun sy'n edrych ar pryd a sut y gallai polisi cynllunio morol fod yn berthnasol i geisiadau cynllunio ar y tir.
Mae ffeithlun arall hefyd sy'n dangos sut mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn gweithio ochr yn ochr â Dyfodol Cymru: Cynllun Cenedlaethol 2040.
Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James AS, wedi cyhoeddi Cymru’r Dyfodol - y Cynllun Cenedlaethol 2040, sy’n nodi cyfeiriad ar gyfer datblygu yng Nghymru at 2040 i helpu i wireddu datgarboneiddio, gwydnwch ecosystemau a thwf economaidd cynhwysol a theg. Mae diweddariad i Bolisi Cynllunio Cymru hefyd wedi’i gyhoeddi sy’n adlewyrchu diweddariadau deddfwriaethol, polisi a chanllawiau diweddar. Mae rhagor o fanylion ar gael yma. |
|
|
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn datblygu datganiad sefyllfa ar reoli gwaddodion morol ac arfordirol yn gynaliadwy. Mae gwaddodion yn elfen sylfaenol o'r amgylchedd morol ac arfordirol ac yn adnodd naturiol gwerthfawr sy'n darparu amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau ecosystem yr ydym yn dibynnu arnynt. Mae angen rheoli gwaddodion morol ac arfordirol yn gynaliadwy er mwyn sicrhau bod y manteision sy'n deillio o'r adnodd naturiol hwn yn cael eu cynnal ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. |
|
|
Bydd y datganiad sefyllfa yn helpu i: gefnogi'r gwaith o gyflawni deddfwriaeth, cynlluniau a pholisïau perthnasol; hysbysu partneriaid o ddull CNC a dylanwadu ar ddulliau arfer gorau. Y gynulleidfa ar gyfer y canllawiau yw staff CNC a chwsmeriaid allanol. Sefydlwyd grŵp arbenigol i ddrafftio'r datganiad sefyllfa gan gynnwys arbenigwyr CNC, gydag adolygiad ychwanegol gan gymheiriaid wedi'i sicrhau drwy lunio grŵp cefnogi gydag ystod ehangach o arbenigwyr mewnol ac allanol. Y bwriad yw cwblhau'r datganiad sefyllfa erbyn dechrau haf 2021.
Cysylltwch a ni
Os oes gennych gwestiynau am y bwletin hwn neu am unrhyw beth arall, cysylltwch â ni trwy'r blwch negeseuon e-bost neu ewch i'n gwefannau.
|
|