Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

24 Mawrth 2021


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN : Canllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch; Grant Cam 2 y Gronfa Adferiad Diwylliannol; “Dewch inni Lunio’r Dyfodol: gweithio mewn partneriaeth i ail-greu dyfodol cadarn i’r economi ymwelwyr yng Nghymru”; Mwy na £2.8 miliwn i gefnogi prosiectau yng nghanolbarth a gorllewin Cymru; Grantiau sy’n Gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig; Llywodraeth Cymru’n diweddaru Cynllun Rheoli’r Coronafeirws; Wrthi’n paratoi at ailagor dy fusnes? Mae arwyddion Ar Agor/Ar Gau ar gael i ti am ddim; YMCHWIL - Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth COVID-19 / Proffiliau Twristiaeth Rhanbarthol a Lleol; Diweddariad strategaeth brechu COVID-19 Mawrth 2021; Coedwig Genedlaethol Cymru – Eich Barn a'ch Lleisiau; BWYD A DIOD O GYMRU: Gweithdai ar gyfer y sector manwerthu a lletygarwch – paratoi i agor; SGILIAU A HYFFORDDIANT: Cyfrifon Dysgu Personol; Model Cymdeithasol o Anabledd – beth mae amdan a pham mae'n bwysig; Twristiaeth Hygyrch; Newyddion yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch: Y cyngor diweddaraf ar siarad gyda’ch gweithwyr am atal y coronafeirws / Canllawiau a diweddariadau COVID-19 yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch /  Coronafeirws (COVID-19): E-bost ffug nad yw HSE yn gyfrifol amdano; Stopio Cosbi Corfforol yng Nghymru; Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19.


Canllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch

Wrth i ni edrych tuag at ailagor yn raddol, mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r canllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch.

I'ch helpu i benderfynu pa gamau i'w cymryd, mae Rheoliadau Coronafeirws yn gofyn i chi gynnal asesiad risg COVID-19 penodol, yn union fel y byddech ar gyfer peryglon eraill sy'n gysylltiedig ag iechyd a diogelwch. Rhaid cynnal yr asesiad risg hwn mewn ymgynghoriad â staff a chynrychiolwyr (undeb llafur cydnabyddedig neu gynrychiolydd a ddewisir gan weithwyr) a bod ar gael i'r staff.

Mae HSE (Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch) yn darparu templedi defnyddiol i'ch helpu i gynnal asesiad risg COVID-19 penodol a fydd yn mynd â chi drwy'r hierarchaeth o reolaethau o'r mwyaf i'r lleiaf effeithiol.  Ceir trosolwg o hierarchaeth rheolaethau yn Atodiad 1 o'r canllawiau Twristiaeth a Lletygarwch.  Byddwch hefyd yn dod o hyd i ddolenni o fewn canllawiau Llywodraeth Cymru i ganllawiau sy’n benodol ar gyfer y sector a chanllawiau diwydiant sy'n cynnwys rhagor o fanylion gan gynnwys Canllawiau UKH Cymru.


Grant Cam 2 y Gronfa Adferiad Diwylliannol

Bydd ail gam y Gronfa Adferiad Diwylliannol yn agor ar gyfer ceisiadau o'r wythnos sy'n dechrau ar 6 Ebrill ac yn cau ar 20 Ebrill. Bydd amseriad y Gronfa ar gyfer gweithwyr llawrydd yn cael ei gyhoeddi ar wahân.

Bydd y cyllid ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 30 Medi 2021.

Gellir gweld y meini prawf ar gyfer ymgeisio cyn iddo agor drwy'r Gwiriwr Cymhwysedd.

Dysgwch fwy ar wefan Busnes Cymru.


“Dewch inni Lunio’r Dyfodol: gweithio mewn partneriaeth i ail-greu dyfodol cadarn i’r economi ymwelwyr yng Nghymru

Mae cynllun adfer newydd ar gyfer y sector twristiaeth, lletygarwch a digwyddiadau bellach wedi'i gyhoeddi. Wedi'i ddatblygu mewn ymgynghoriad â'r Tasglu Twristiaeth ac wedi'i lywio gan sgwrs eang â grwpiau, rhanddeiliaid a busnesau pwysig eraill ar draws y sector, mae'r cynllun yn cynnwys fframwaith partneriaeth a rennir o themâu hanfodol y bydd ymyriadau'n cael eu hadeiladu o'u cwmpas i gefnogi busnesau drwy adferiad tymor byr i ganolig. Mae'r 8 thema hanfodol yn cynnwys:

  1. Cefnogi busnesau.
  2. Gwerthfawrogi pobl.
  3. Ailagor yn ddiogel.
  4. Ailennyn hyder defnyddwyr.
  5. Ysgogi a rheoli galw.
  6. Datblygu economïau ymwelwyr lleol.
  7. Trawsnewid y sector i fod yn fwy cydnerth.
  8. Datblygu cynlluniau adfer wedi’u teilwra.

O ystyried y llwybr ansicr tuag at adferiad i'r diwydiant, y bwriad yw i'r cynllun hwn esblygu, gan ddarparu pont bwysig yn ôl i'r Cynllun Strategol ar gyfer y sector "Croeso i Gymru: Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr 2020-2025".

Mae'r cynllun yn argymell y dylid ffurfio Grŵp Gorchwyl a Gorffen i ddatblygu cynllun gweithredu mwy tactegol gan gynnwys mwy o fanylion y tu ôl i'r ymyriadau a’r arweinwyr cyflawni y cytunwyd arnynt. Rhoddir ystyriaeth bellach i sut y caiff y grŵp hwn ei ffurfio a'r Cylch Gorchwyl cysylltiedig.

Hoffai Croeso Cymru ddiolch i'r diwydiant am eu cyfraniad amhrisiadwy i lunio'r cynllun hwn, ac edrychwn ymlaen at barhau â'r sgyrsiau hyn dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.


Cynlluniau ar gyfer clwstwr technoleg newydd yng Nglynebwy yn mynd rhagddynt

Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru i greu clwstwr technoleg newydd cyffrous yng Nglynebwy yn symud ymlaen yn sgil buddsoddiad mewn technoleg 5G, campws newydd ar gyfer profion seiber a llety newydd ac arloesol ar gyfer busnesau.

Drwy brosiect newydd o’r enw Datgloi 5G Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn dod â chysylltedd symudol 5G i gefnogi cynlluniau peilot ar draws y byd addysg, trafnidiaeth, twristiaeth a ffermio ym Mlaenau Gwent a gerllaw yn Sir Fynwy.  Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Mwy na £2.8 miliwn i gefnogi prosiectau yng nghanolbarth a gorllewin Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu mwy na £2.8 miliwn i sbarduno prosiectau pwysig yng nghanolbarth a de-orllewin Cymru a fydd yn cefnogi’r rhanbarth i adfer o effeithiau economaidd y coronafeirws.

Bydd pob un o’r chwe awdurdod lleol yn yr ardal yn derbyn £380,000 ar gyfer cynlluniau seilwaith sy’n cyd-fynd ag amcanion economi fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrdd fel yr amlinellir yn y Genhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi a lansiwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.  Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Grantiau sy’n Gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig

Cyhoeddodd y Prif Weinidog ar 12 Mawrth grantiau ychwanegol sy'n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig.  Bydd y cymorth ychwanegol yn helpu busnesau yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth, hamdden a manwerthu heb fod yn hanfodol sy’n talu ardrethi annomestig a bydd yn gweithredu fel taliad ychwanegol i’r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau.

Bydd y cyfnod ymgeisio yn cau am 5pm ar 31 Mawrth 2021.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion


Llywodraeth Cymru’n diweddaru Cynllun Rheoli’r Coronafeirws

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru Cynllun Rheoli’r Coronafeirws, gan nodi sut a phryd y bydd mwy o bobl a busnesau'n gallu ailddechrau eu gweithgareddau yn y ffordd fwyaf diogel sy’n bosibl.

Fis Rhagfyr, cyhoeddodd y Prif Weinidog y Cynllun Rheoli’r Coronafeirws: Lefelau Rhybudd i Gymru, oedd yn nodi sut y byddai'r mesurau cenedlaethol yn cael eu cyflwyno mewn ffordd fwy rhagweladwy yn seiliedig ar fframwaith o bedair lefel rhybudd.

Mae'r cynllun wedi'i ddiweddaru i ystyried rhaglen frechu Cymru sy’n mynd rhagddi’n gyflym, a hefyd ymddangosiad amrywiolyn Caint. Y ffurf heintus iawn hon yw’r ffurf fwyaf cyffredin o’r feirws drwy Cymru erbyn hyn.  Mae hefyd yn adlewyrchu'r risg y bydd amrywiolynnau coronafeirws newydd, a fydd efallai’n gallu gwrthsefyll y brechlyn, yn cael eu mewnforio i Gymru gan bobl sy'n mynd ar wyliau neu deithiau tramor.

Bydd y cynllun newydd yn helpu Llywodraeth Cymru i barhau i lacio'r cyfyngiadau tra bod sefyllfa iechyd y cyhoedd yn dal i fod yn gadarnhaol – mae’r cyfraddau wedi gostwng yn sylweddol ledled Cymru, diolch i holl waith caled ac aberth pobl yn ystod misoedd y gaeaf. Mae’n nodic yfres o ddangosyddion y bydd Llywodraeth Cymru yn eu dadansoddi a’u hasesu, ochr yn ochr â chyngor arbenigol proffesiynol a gwybodaeth gan bartneriaid lleol, i benderfynu sut y bydd y cyfyngiadau’n cael eu llacio.

Os bydd arwyddion cryf bod y cyfraddau heintio’n cynyddu, mae'r cynllun hefyd yn nodi sut y gallai fod angen arafu’r camau llacio, eu hatal dros dro neu, yn y sefyllfa waethaf, ailgyflwyno cyfyngiadau.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Wrthi’n paratoi at ailagor dy fusnes? Mae arwyddion Ar Agor/Ar Gau ar gael i ti am ddim

Oeddet ti’n gwybod bod modd archebu arwyddion ‘Ar Agor/Ar Gau’ dwyieithog am ddim drwy wefan Helo Blod? Gyda chyfyngiadau yn llacio yn raddol ar draws Cymru a busnesau yn paratoi i ailagor i’r cyhoedd mae’n amser gwych i archebu!

Os wyt ti neu dy staff yn siarad Cymraeg, gallet ti archebu laniard a bathodyn sy’n dangos i dy gwsmeriaid ac ymwelwyr pwy sy’n gallu siarad neu sy’n dysgu Cymraeg.

Ond mae Helo Blod yn cynnig llawer iawn mwy na hyn. Gallwn gynnig cyfieithu, gwirio testun a chyngor ymarferol am ddim ar sut i farchnata a hyrwyddo dy fusnes a gwneud y Gymraeg yn fwy amlwg yn dy siop, caffi, bwyty, llety, atyniad i ymwelwyr ac ar dy wefan a chyfryngau cymdeithasol.  Cer draw i Llyw.Cymru/HeloBlod i ddarganfod mwy.


YMCHWIL:

Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth COVID-19

Mae'r adroddiad diweddaraf ar deimladau defnyddwyr a bwriadau tripiau o farchnad y DU ar gael ar wefan VisitBritain.  Mae hyn yn dangos hyder o ran gallu cymryd gwyliau yn y DU gan ddechrau codi o fis Mehefin ymlaen, a bod 17% wedi cynllunio a 12% eisoes wedi archebu eu taith dros nos ddomestig nesaf.

Proffiliau Twristiaeth Rhanbarthol a Lleol

Mae crynodeb o ystadegau twristiaeth allweddol ar lefelau rhanbarthol a lleol ar gyfer 2017-2019 ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.  Mae'r adroddiadau hyn yn dwyn ynghyd ganfyddiadau o arolygon twristiaeth allweddol, gyda dadansoddiad ychwanegol yn ôl ardaloedd rhanbarthau ac awdurdodau lleol yng Nghymru.


Diweddariad strategaeth brechu COVID-19 Mawrth 2021

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd rydym yn ei wneud o ran brechu poblogaeth Cymru ac adolygiad o'n dull brechu bellach wedi'i gyhoeddi ar Llyw.Cymru


Coedwig Genedlaethol Cymru – Eich Barn a'ch Lleisiau

Cynhaliwyd cyfres o sesiynau trafod ar-lein 10-12 Mawrth i roi cyfle i bobl drafod Coedwig Genedlaethol Cymru.   

Agorodd y Prif Weinidog y digwyddiad tri diwrnod ar-lein gyda'r cyhoeddiad am brosiect arddangos newydd i gynyddu nifer safleoedd enghreifftiol Coedwigoedd Cenedlaethol ledled Cymru.  Coetiroedd fydd y rhain yn ogystal â'r rhai ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru sydd eisoes yn gallu ddangos canlyniadau'r Goedwig Genedlaethol a fydd yn cydnabod yr amser, yr ymdrech a'r brwdfrydedd y mae cynifer o bobl yn eu rhoi i reoli ein coetiroedd gwych. 

Yn ogystal â hyn bydd cyllid ar gael i wella coetiroedd i safon Coedwigoedd Cenedlaethol yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer ardaloedd coetiroedd newydd.  Bydd rhagor o fanylion yn dilyn dros y misoedd nesaf.

Bydd recordiadau o'r cyflwyniadau a sesiwn holi ac ateb y panel o ddigwyddiad 10-12 Mawrth ar gael yn fuan ar restr chwarae YouTube Coedwig Genedlaethol Cymru.


BWYD A DIOD O GYMRU:

Gweithdai ar gyfer y sector manwerthu a lletygarwch – paratoi i agor

Mae Cymru. Cyrchfan Bwyd yn brosiect sy'n arbenigo mewn cefnogi busnesau manwerthu a lletygarwch i ddod o hyd i fwyd a diod o Gymru, eu gweini a'u gwerthu.  Mae’n cynnig nifer o sesiynau dosbarth meistr yn ystod y misoedd nesaf a allai helpu busnesau i wella eu bwydlen neu wella eu pwynt gwerthu unigryw.  Ewch i wefan Sgiliau Bwyd Cymru i weld digwyddiadau sydd ar y gweill – byddant yn cael eu diweddaru dros yr wythnosau nesaf.

Gallant hefyd gynnig ymgyngoriadau un-i-un wedi'u hariannu'n llawn felly os ydych yn chwilio am gymorth neu gyngor cysylltwch â Sgiliau Bwyd Cymru.


SGILIAU A HYFFORDDIANT:

Cyfrifon Dysgu Personol

Helpwch eich staff presennol i ennill y cymwysterau a'r sgiliau sydd eu hangen ar eich busnesau drwy gwrs coleg hyblyg am ddim.  Dysgwch fwy a chofrestrwch eich diddordeb drwy'r Porth Sgiliau.

Am wybodaeth ddiweddaraf am sgiliau, recriwtio a chymorth hyfforddiant i'ch busnes, yn ogystal â chymorth arall fel Lles i gyflogwyr a gweithwyr, ewch i’n tudalennau Sgiliau.


Model Cymdeithasol o Anabledd – beth mae amdan a pham mae'n bwysig

Yn ddiweddar, cynhyrchodd tîm ymgyrch Dewch i Drafod Parch Llywodraeth Cymru ei animeiddiad cyntaf - ffilm fer o’r enw Dewch i ni Godi’r To’ i ddarlunio’r Model Cymdeithasol o Anabledd.  Mae'r ffilm yn ymwneud â Sam, person sydd ddim yn anabl mewn byd sy'n llawn defnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae'r animeiddiad yn dilyn Sam wrth iddo geisio gwneud argraff gyntaf dda yn ei swydd newydd. Mae'n ffilm ysgafn gyda neges ddifrifol, a dyma dim ond ddechrau ein taith i chwalu rhwystrau a chofleidio'r Model Cymdeithasol.

Mae gwylio'r animeiddiad yn ffordd wych o ddechrau meddwl am y rhwystrau sy'n gallu effeithio'n anfwriadol ar gwsmeriaid a staff a'r hyn y gallwch ei wneud i wneud twristiaeth Cymru yn hygyrch i bawb.

Dysgwch fwy am ganllawiau model cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar Borth Sgiliau Busnes - Cyflogaeth Pobl Anabl lle byddwch, ymhlith gwybodaeth ddefnyddiol arall, yn dod o hyd i Cymru Fwy Cyfartal: Canllaw Ymarferol i Gyflogwyr i Gyflogi Pobl Anabl


Twristiaeth Hygyrch

Y mae ITSO (y Sefydliad Twristiaeth Gymdeithasol Rhyngwladol), yn dwyn ynghyd randdeiliaid o'r sectorau twristiaeth cymdeithasol, cynaliadwy ac undod o bob rhan o'r byd, i hyrwyddo twristiaeth hygyrch a chyfrifol.  Mae ITSO wedi cyhoeddi ei Argymhellion yn ddiweddar i helpu darparwyr twristiaeth i groesawu pobl ag anableddau yn ystod argyfwng iechyd fel COVID-19


Newyddion yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch:

  • Y cyngor diweddaraf ar siarad gyda’ch gweithwyr am atal y coronafeirws - Canllawiau wedi’u diweddaru i’ch helpu i gynnal sgyrsiau gyda’ch gweithlu am ddarparu cymorth a chadw mesurau rheoli ar waith.
  • Canllawiau a diweddariadau COVID-19 yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch - Y canllawiau a'r wybodaeth ddiweddaraf sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws, yn ogystal â chynnwys a gyhoeddwyd yn flaenorol.
  • Coronafeirws (COVID-19): E-bost ffug nad yw HSE yn gyfrifol amdano - Efallai eich bod wedi derbyn e-bost ffug gydag enw’r HSE arno yn rhoi gwybod i chi am 'achosion o dorri rheolau iechyd a diogelwch', 'codi cwynion i lefel uwch' neu rywbeth tebyg. Mae HSE yn ymchwilio i'r negeseuon e-bost hyn ac yn eich cynghori i'w dileu. Peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni a peidiwch ag agor unrhyw ffeiliau sydd ynghlwm wrthynt. Am fwy o fanylion ewch i wefan yr HSE


Stopio Cosbi Corfforol yng Nghymru

O 21 Mawrth 2022, mae'r gyfraith yng Nghymru yn newid.  Bydd cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru, gan gynnwys yn y cartref.  Gall cosb gorfforol olygu taro, pwnio, slapio ac ysgwyd, ond mae mathau eraill hefyd. Y nod cyffredinol yw helpu i ddiogelu hawliau plant a rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru. 

Unwaith y bydd y gyfraith yn dechrau bydd Cymru yn ymuno â dros 55 o wledydd ledled y byd sydd eisoes wedi gwahardd cosbi plentyn yn gorfforol.

Mae hyn yn berthnasol i'r diwydiant Twristiaeth gan y bydd y gyfraith yn berthnasol i bawb sydd yng Nghymru – trigolion ac ymwelwyr.  Bydd Llywodraeth Cymru yn lansio ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus yn ddiweddarach eleni, gan gynnwys hysbysebion teledu, radio, yn ddigidol a hysbysfyrddau, i godi ymwybyddiaeth o'r newid yn y gyfraith.

I wybod mwy, ewch i Llyw.Cymru/StopioCosbiCorfforol neu e-bostiwch StopioCosbiCorfforol@llyw.cymru os oes gennych unrhyw ymholiadau.


Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru

Gweler isod rai o'r ymgynghoriadau diweddaraf. Mae ymgynghoriad yn rhoi cyfle i chi ddweud eich dweud ar ddatblygiadau newydd gan Lywodraeth Cymru.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram