Symud Cymru i Lefel Rhybudd 3: Y Prif Weinidog yn nodi’r cynlluniau ar gyfer llacio cyfyngiadau COVID ymhellach
Heddiw, mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, yn nodi cyfres o fesurau a fydd yn symud Cymru i Lefel Rhybudd 3 yn llawn erbyn 17 Mai, os bydd yr amodau o ran iechyd y cyhoedd yn parhau'n ffafriol.
Unwaith eto, nododd y Prif Weinidog y flaenoriaeth sy’n cael ei rhoi i sicrhau y bydd pob plentyn a myfyriwr yng Nghymru yn dychwelyd i addysg wyneb yn wyneb ddydd Llun 12 Ebrill.
Bydd yr holl wasanaethau manwerthu a chysylltiad agos nad ydynt yn hanfodol yn cael ailagor o ddydd Llun 12 Ebrill, a bydd y rheolau hefyd yn cael eu newid i ganiatáu i bobl deithio i mewn ac allan o Gymru o weddill y Deyrnas Unedig a'r Ardal Deithio Gyffredin. Mae’r newidiadau yn dal i fod yn ddibynnol ar weld parhad yn yr amodau sy’n ffafriol o ran iechyd y cyhoedd.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn nodi newidiadau pellach y mae'n bwriadu eu cadarnhau yn yr adolygiad ar 22 Ebrill, gan ddibynnu ar yr amodau o ran iechyd y cyhoedd ac ar gael cadarnhad terfynol gan y Gweinidogion. Byddai'r newidiadau hyn yn cynnwys ailagor atyniadau awyr agored a lletygarwch awyr agored, gan gynnwys mewn caffis, tafarndai a bwytai ddydd Llun 26 Ebrill.
Erbyn dechrau mis Mai, mae'r cynlluniau'n cynnwys caniatáu i weithgareddau awyr agored a drefnwyd ymlaen llawer ar gyfer hyd at 30 o bobl gael eu cynnal, ac i gampfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd ailagor ar gyfer hyfforddiant unigol neu un-i-un, ond nid dosbarthiadau ymarfer corff.
Mae'r newidiadau'n parhau â’r dull fesul cam a gynlluniwyd gan Lywodraeth Cymru o lacio cyfyngiadau’r coronafeirws, gan ystyried amrywiolyn Caint, sy’n hynod heintus, sef y ffurf o’r feirws sydd fwyaf amlwg yng Nghymru erbyn hyn.
Mae’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn parhau i wella. Yn gyffredinol, mae nifer yr achosion o’r coronafeirws yn ein cymunedau yn syrthio ac mae'r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn lleddfu.
Dywedodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog:
“Diolch i wir ymdrech tîm ym mhob cwr o Gymru, mae nifer yr achosion o’r coronafeirws yn parhau'n sefydlog, ac mae'r rhaglen frechu yn parhau i symud yn gyflym. O ganlyniad, mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i barhau â'i dull gofalus, cam wrth gam, o lacio'r cyfyngiadau.
“Mae'r adolygiad rydym wedi'i gwblhau'r wythnos hon yn golygu y gallwn barhau â'n rhaglen o ailagor yr economi ymhellach a llacio'r cyfyngiadau sydd ar waith.”
Os bydd yr amodau o ran iechyd y cyhoedd yn parhau'n ffafriol, o ddydd Llun 12 Ebrill, bydd modd bwrw ati i lacio fel a ganlyn:
- Bydd pob plentyn yn gallu dychwelyd i’r ysgol ar gyfer addysg wyneb yn wyneb, bydd pob dysgwr ôl-16 yn dychwelyd i ganolfannau addysg bellach a hyfforddiant, a bydd campysau prifysgolion yn gallu agor ar gyfer dysgu cyfunol wyneb yn wyneb/ar-lein i bob myfyriwr;
- Gall yr holl siopau sy'n weddill ailagor, gan gwblhau’r broses o ailagor siopau manwerthu nad ydynt yn hanfodol yn raddol;
- Gall yr holl wasanaethau cysylltiad agos sy'n weddill agor, gan gynnwys gwasanaethau symudol;
- Bydd cyfyngiadau teithio ar deithio i mewn ac allan o Gymru yn cael eu codi. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau ar deithio i wledydd y tu allan i'r Ardal Deithio Gyffredin heb esgus rhesymol yn parhau. Mae'r Ardal Deithio Gyffredin yn golygu'r Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon;
- Gall ymweliadau i gael gweld lleoliadau priodas ailddechrau drwy apwyntiad;
- Gall canfasio yn yr awyr agored ar gyfer etholiadau ddechrau.
Fel y nodir hefyd yn ein Cynllun Rheoli’r Coronafeirws diwygiedig, mae nifer bach o ddigwyddiadau peilot yn yr awyr agored ar gyfer rhwng 200 a 1,000 o bobl yn cael eu cynllunio. Bydd y rhain yn adeiladu ar y digwyddiadau peilot a gynhaliwyd fis Medi diwethaf. Byddant yn cynnwys digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon ledled Cymru, gan gynnwys digwyddiad mewn stadia o bosibl. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Cyngor Mwslimiaid i ystyried sut y gallant hefyd gynnwys digwyddiadau i helpu pobl i ddathlu Eid ar ddiwedd Ramadan. Byddai pob digwyddiad yn amodol ar gael cytundeb yr awdurdod lleol ac o ran iechyd y cyhoedd.
Mae'r llacio pellach yn dod wedi i ddisgyblion cynradd a llawer o fyfyrwyr hŷn yr ysgolion uwchradd a myfyrwyr colegau ddychwelyd yn llwyddiannus i ddysgu wyneb yn wyneb, ac wedi i fanwerthu nad yw’n hanfodol gael ei ailagor yn raddol, gan gynnwys agor siopau trin gwallt a barbwyr.
Mae Gweinidogion bellach yn dweud y gallai’r cyfyngiadau gael eu llacio ymhellach yn ystod yr wythnosau nesaf ar yr amod bod sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn parhau'n ffafriol. Mae'r rhain yn gyson â'r dull gofalus a graddol a nodir yn y Cynllun Rheoli Coronafeirws: Lefelau Rhybudd Diwygiedig yng Nghymru sydd wedi’i ddiweddaru.
Ddydd Llun 26 Ebrill:
- Bydd atyniadau awyr agored, gan gynnwys ffeiriau a pharciau thema, yn cael ailagor;
- Gall lletygarwch awyr agored ailddechrau, gan gynnwys mewn caffis, tafarndai a bwytai. Bydd lletygarwch dan do yn parhau i fod dan gyfyngiadau.
Ddydd Llun 3 Mai:
- Gellir cynnal gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu ar gyfer hyd at 30 o bobl unwaith eto;
- Gall derbyniadau priodasau ddigwydd yn yr awyr agored, ond byddant hefyd wedi’u cyfyngu i 30 o bobl.
Ddydd Llun 10 Mai:
- Gall campfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd ailagor. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant unigol neu un-i-un ond nid dosbarthiadau ymarfer corff;
- Bydd aelwydydd estynedig unwaith eto yn caniatáu i ddwy aelwyd gwrdd a chael cyswllt dan do.
Bydd paratoadau'n cael eu gwneud i ganiatáu i'r llacio canlynol gael ei ystyried yn yr adolygiad ar 13 Mai gan Lywodraeth nesaf Cymru, os yw amodau iechyd y cyhoedd yn parhau'n ffafriol.
Ailagor/ailddechrau'r canlynol, o wythnos gyntaf y cylch newydd, h.y. Dydd Llun 17 Mai:
- Gweithgareddau dan do i blant;
- Canolfannau cymunedol;
- Gweithgareddau dan do wedi'u trefnu ar gyfer oedolion, a fydd wedi’u cyfyngu i uchafswm o 15 o bobl. Mae hyn yn cynnwys dosbarthiadau ymarfer corff.
Ar ôl 17 Mai, ystyried galluogi lletygarwch dan do, a'r llety ymwelwyr sy'n weddill i ailagor, cyn Gŵyl Banc y Gwanwyn ddiwedd mis Mai.
Mae'r rhain yn ddyddiadau dangosol er mwyn rhoi amser i'r sectorau gynllunio a pharatoi – bydd penderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud ar y rhain yn nes at yr amser, unwaith y bydd effaith llacio cyfyngiadau eraill wedi'i hasesu ac ar yr amod bod y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn caniatáu i’r llacio ddigwydd.
Ychwanegodd y Prif Weinidog:
“Mae'r aberth rydyn ni i gyd wedi'i wneud yn cael effaith gadarnhaol yn y frwydr yn erbyn Coronafeirws. Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn hynod anodd i bob un ohonom ac eto hoffwn ddiolch i bawb am eu hymdrechion.
“Mae'r ymdrechion hyn wedi ein galluogi i lacio’r cyfyngiadau'n raddol er mwyn cyflwyno mwy o agweddau ar fywyd normal yn raddol.
“Gyda'r tywydd yn gwella a mwy o gyfleoedd i weld teulu a ffrindiau, mae rhesymau dros deimlo’n optimistaidd. Fodd bynnag, ni allwn bwyso ar ein rhwyfau eto. Mae angen i bob un ohonom fod yn wyliadwrus o hyd, a pharhau i wneud ein rhan i gadw'r clefyd angheuol hwn dan reolaeth.”
Rhaid i fusnesau twristiaeth a lletygarwch roi pob mesur rhesymol ar waith i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r feirws ac ni ddylent dderbyn cwsmeriaid os ydynt yn ymwybodol eu bod yn torri’r rheolau ar gyfyngiadau teithio.
Coronafeirws (COVID-19) Canllawiau i Fusnesau Twristiaeth a Lletygarwch
Wrth i ni edrych ar ailagor yn raddol, mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r canllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch.
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen yr holl ganllawiau i ddeall y mesurau i'w hystyried i ail-agor y busnes yn ddiogel.
Bwriad y mesurau ychwanegol canlynol yw rhoi cyngor pellach i fusnesau llety hunangynhwysol a rhaid eu hystyried yn unol â Chanllawiau UKHospitality Wales a'r Canllawiau Twristiaeth a Lletygarwch.
Dylai busnesau hefyd ystyried, lle bo'n briodol:
- Cryfhau eu polisi ar waredu gorchuddion wyneb yn ddiogel ar gyfer staff ac ymwelwyr
- Cyflwyno mesurau i staff ac ymwelwyr, ar ôl cyrraedd, megis cymryd profion tymheredd, gofyn i bobl ddiheintio eu dwylo a gofyn cwestiynau ynghylch a ydynt yn arddangos unrhyw symptomau.
- Ystyried llif y gwesteion/ymwelwyr a sut i osgoi cymysgu unrhyw aelwyd drwy gadw gwesteion/ymwelwyr ar wahân wrth iddynt symud o amgylch y safle drwy gydol eu hymweliad/arhosiad, gan roi sylw arbennig i fannau cyhoeddus caeedig fel lifftiau, grisiau a choridorau
- Cyfarwyddo gwesteion/ymwelwyr i symud drwy fannau cyhoeddus caeedig cyn gynted â phosibl, ac i osgoi gweiddi neu ganu mewn ardaloedd o'r fath
- O fewn llety, sicrhau bod gwesteion yn cadw'r drysau i'w hystafelloedd ar gau bob amser, ar wahân i'r adeg pan fyddant yn mynd i mewn ac yn gadael.
- Sicrhau fod trefn bob yn ail ar gyfer gwasanaeth ystafell/dosbarthu gwasanaeth golchi ac ati i ystafelloedd, er mwyn osgoi gwesteion yn agor drysau ac yn dod allan ar yr un pryd.
- Adolygu eu gweithdrefnau digwyddiadau ac achosion brys er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r egwyddorion cadw pellter corfforol cyn belled ag y bo modd, gan gynnwys ystyried sut i leihau cymysgu cartrefi wrth ymgasglu mewn mannau ymgynnull tân.
Mae rhestr o Gwestiynau Cyffredin mewn perthynas â Coronafeirws hefyd yn cael ei diweddaru'n rheolaidd ar Llyw.Cymru.
Hawlio’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws
Gallwch nawr gyflwyno eich ceisiadau am gyfnodau ym mis Mawrth. Rhaid eu gwneud erbyn dydd Mercher 14 Ebrill 2021.
Gallwch hawlio cyn, yn ystod neu ar ôl i chi brosesu eich cyflogres. Os gallwch chi, mae'n well gwneud hawliad unwaith y byddwch yn siŵr o union nifer yr oriau y bu eich cyflogeion yn gweithio fel nad oes rhaid i chi newid eich hawliad yn nes ymlaen. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|