Newyddlen Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

16 Mawrth 2021

 
 
Bwyd i Feddwl

Mae hi'n galonogol gweld rhaglen frechu Covid19 y GIG yn cael ei chyflwyno ar draws Cymru a gweddill y DU. Rydyn ni’n diolch o waelod calon i bawb sydd wedi bod wrthi am eu hymdrechion aruthrol. Yn gyntaf oll, mae hyn yn newyddion gwych i iechyd y genedl, ond nawr rhaid troi ein meddyliau at sut y gall y brechiad helpu i lacio'r cyfyngiadau ac agor y byd busnes, hamdden a lletygarwch yng Nghymru. Er na wyddom yr union amserlen ar hyn o bryd, bydd angen i'r diwydiant bwyd a diod gynllunio a pharatoi'n ofalus ac mewn ffordd gydweithredol ar gyfer ailagor busnesau lletygarwch, a than hynny, mae llawer o fusnesau bwyd a diod yng Nghymru'n dal i ofyn am gymorth.

FDWIB - Andy Richardson

Cafwyd rhagor o newyddion cadarnhaol yn ddiweddar pan cyhoeddodd Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, y weledigaeth ar gyfer dyfodol sector bwyd a diod Cymru, gyda'r nod o greu diwydiant blaengar o gynaliadwy.

Mae ffigurau blaenllaw o'r diwydiant bwyd a diod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru wrth iddynt amlinellu’r cynlluniau i osod arferion cynaliadwy wrth galon yr agenda i adfer y diwydiant yn sgil Covid. Trwy gydweithio, y gobaith yw y gall y llywodraeth a'r diwydiant greu un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf cynaliadwy a chymdeithasol gyfrifol yn y byd i gyd.

Ond rydyn ni'n cydnabod bod sialensiau dybryd yn dal i wynebu'r sector bwyd a diod. Ers 1 Ionawr, mae allforio wedi bod yn brofiad dysgu i'r llywodraeth a'r diwydiant fel ei gilydd. Mae cynnyrch o darddiad anifeiliaid a phlanhigion yn arbennig wedi bod yn sialens i fusnesau, yn enwedig yn achos allforion grwpio.

Ar hyn o bryd yng Nghymru, rydyn ni'n allforio tua 10% o'n bwyd a diod. Er gwaetha'r sialensiau sy'n gysylltiedig ag allforion ar hyn o bryd, rwy'n ffyddiog bod yna rhagor o gyfleoedd i’w cael i allforio bwyd a diod Cymreig, gan gynnwys i'r bobl hynny sydd wedi cael eu taro'n galed gan golli'r farchnad lletygarwch, a rhaid i Gymru elwa ar unrhyw drafodaethau a chytundebau masnachu sydd ar y gweill. Mae angen i ni sicrhau fod gennym strategaeth ar bolisi rhyngwladol, bod yn glir ynghylch ymhle mae gennym fantais gystadleuol, a bod â chynlluniau ymatebol ac amddiffynnol o fewn y strategaethau allforio yma.

At hynny, ymhen ychydig wythnosau bydd y rheolau ar fewnforio o'r Undeb Ewropeaidd yn newid hefyd. Mae anawsterau'n debygol o godi ynghylch mewnforio cynnyrch o darddiad anifeiliaid. Dylai busnesau fod yn craffu ar eu cadwyni cyflenwi a sut mae mewnforion yn effeithio arnynt, a blaengynllunio yn seiliedig ar hynny. Bydd yna fygythiadau i'r gadwyn gyflenwi yn ogystal â chyfleoedd, a rhaid i ni fod yn barod amdanynt.

Rydyn ni i gyd yn ffeindio'n ffordd mewn byd newydd a phan fydd busnesau'n deall y newidiadau sydd wedi bod, bydd cyfran yn penderfynu gwneud pethau mewn ffordd wahanol. Rhaid i ni fod yn hyblyg yn y ffordd rydym yn mynd ati i ddeillio â'r sialensiau a'r cyfleoedd sy'n codi, a gweithio gyda'n gilydd fel diwydiant i ddeall a ffeindio'r ffordd ymlaen.

Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Y newyddion am Covid-19 a diwedd Cyfnod Pontio'r UE i fusnesau bwyd a diod

FDWIB - News

Y newyddion diweddaraf o'r diwydiant

FDWIB - News from the industry

Camau allweddol diweddar gan y Bwrdd

 

  • Mae'r Bwrdd wedi dechrau paratoi ei strategaeth ar gyfer y cam nesaf yn nhwf y diwydiant.
  • Mae aelodau wedi helpu i lywio ymgyrch gwerthoedd brand cynaliadwy Llywodraeth Cymru a'r weledigaeth strategol ar gyfer dyfodol y diwydiant bwyd a diod.
  • Trafododd y Bwrdd oblygiadau Covid a Brexit, a sut mae'r rhain yn effeithio ar fusnesau Bwyd a Diod yng Nghymru. Mae’r Bwrdd yn dal i godi’r pwyntiau allweddol sy’n dod o’r trafodaethau hyn gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru.
  • Trafodwyd y Cytundebau Masnach Rydd sy'n cael eu harwain gan Lywodraeth San Steffan, ac mae'r cyfleoedd a'r bygythiadau ar gyfer bwyd a diod o Gymru'n dal i gael eu hystyried.
  • Cafodd y Bwrdd gyflwyniad gan y Clwstwr Diodydd ar lwyddiant ymgyrch Diodydd Cymreig y Nadolig a'r cynlluniau ar gyfer rhaglen o ddigwyddiadau Diodydd Cymreig trwy gydol 2021.
  • Rhoddodd Sgiliau Bwyd Cymru/Lantra ddiweddariad i aelodau'r Bwrdd ar ei ddarpariaeth cymorth a hyfforddiant i'r diwydiant, gan gynnwys sgiliau masnach, e-ddysgu a chymorth fesul un i fusnesau.
  • Mae'r Bwrdd yn rhannu dolenni at wybodaeth, cefnogaeth a phecynnau cymorth trwy Twitter a LinkedIn

Cwrdd â'r Bwrdd:

Rhian Hayward MBE, Prif Weithredwraig Campws Arloesi a Menter Aberystwyth

FDWIB - Meet the Board

Un o Abertawe ydw i'n wreiddiol, ond ar ôl treulio 20 mlynedd yn byw yn ne-ddwyrain Lloegr ac UDA, rwy'n byw yng nghefn gwlad y canolbarth ger Aberystwyth erbyn hyn. Ym maes y biowyddorau mae fy nghefndir academaidd, a dyna lle treuliais i rhan gynnar fy ngyrfa, ar ôl graddio o Goleg y Brenin yn Llundain â gradd Bioleg, a mynd ymlaen i gwblhau doethuriaeth mewn epidemioleg afiechydon heintus ym Mhrifysgol Rhydychen. Fe weithiais mewn nifer o fusnesau biodechnoleg newydd cyn symud i Aberystwyth.

Ymunais i â Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru yn 2020 ar ôl gweld y potensial sydd yna yng Nghymru i ddod yn 'genedl bwyd' go iawn - gyda brand cadarn a phresenoldeb byd-eang i’n bwyd a’n diod. Mae fy rôl wrth ddatblygu Campws Arloesi yn Aberystwyth - â Chanolfan Bwyd y Dyfodol yn rhan ohoni - ynghyd â'm profiad o'r sialensiau y mae cwmnïau'n eu hwynebu wrth iddynt ddechrau a datblygu, yn golygu fy mod i’n gallu gwneud cyfraniad pwysig at agenda arloesi'r Bwrdd. Rwy'n gwybod pa mor drawsnewidiol y gall technoleg a phrosesau newydd fod wrth ddod â chynnyrch diddorol i'r farchnad.

Rwy'n angerddol hefyd ynghylch gweithio ar draws Cymru a thynnu’r profiad sydd gennym ym mhob rhan o'r wlad ynghyd, ac rwy'n credu y gall Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru helpu i gyfrannu at y nod yna.

Wrth gwrs, mae yna sialensiau clir a dybryd yn wynebu'r diwydiant yn sgil pandemig y coronafeirws o hyd. Er bod y cyfyngiadau'n hollol angenrheidiol i amddiffyn iechyd y cyhoedd, mae rhannau o'r sector bwyd a diod yn cael eu taro'n ddifrifol o ran eu gallu i weithredu a chreu refeniw a fydd yn cynnal y llu o fusnesau yn y gadwyn gyflenwi yng Nghymru ar ôl i'r argyfwng ddod i ben.

Ond mae yna gyfleoedd pwysig hefyd, yn enwedig i bethau sy'n cael eu 'creu a'u tyfu' yng Nghymru, ac wrth farchnata cynnyrch gwirioneddol Gymreig i farchnadoedd domestig yn ogystal â rhai tramor.

Yn fy rôl fel aelod newydd o'r Bwrdd, rwy'n awyddus i dynnu sylw'r Bwrdd at brofiadau cefn gwlad Cymru, a helpu i godi ymwybyddiaeth o'r sylfaen werthfawr o wybodaeth sydd gennym yn ein prifysgolion yng Nghymru. Bydd gwelliannau pellach i'r cyfnewid gwybodaeth rhwng prifysgolion a'r sector bwyd a diod yn cyflymu arloesedd.

Wrth i ni ddod drwy sialensiau'r pandemig a Brexit, gallwn gynorthwyo'r Llywodraeth i greu map ffordd hirach i ddatblygu ein cynnig bwyd a diod yng Nghymru. Mae angen i ni edrych sut y gallai llwyddiant edrych yn y tymor byr, canolig a hir er mwyn helpu i lywio'r newid a'r gwelliant yna. 

Cadwch mewn cysylltiad am ddiweddariadau ar Twitter a LinkedIn Ymunwch â'n Grŵp Facebook i rannu gweithluoedd. Cysylltwch â ni trwy e-bost yn Chair.FDWIB@llyw.cymru

 
 
 

AMDANOM NI

Y newyddion diweddaraf, gwybodaeth a chymorth i sector bwyd a diod Cymru, gan Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@FoodDrinkWIB

 

Dilynwch ni ar LinkedIn:

Food and Drink Wales Industry Board

 

Dilynwch ni ar Facebook:

Welsh food and drink workforce collaboration