Bwletin Newyddion: Aros yn lleol – Cymru yn cymryd y camau cyntaf i lacio’r cyfyngiadau symud; £150 miliwn ychwanegol i gefnogi busnesau yng Nghymru; Ailagor llety gwyliau hunangynhaliol; Addo - addewid i gadw Cymru'n ddiogel tra'n aros yn lleol

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

12 Mawrth 2021


Covid

Aros yn lleol – Cymru yn cymryd y camau cyntaf i lacio’r cyfyngiadau symud

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi y bydd rheol interim i aros yn lleol yn cael ei chyflwyno o yfory (dydd Sadwrn 13 Mawrth) ymlaen yn lle’r cyfyngiadau aros gartref. Bydd y rheol hon yn rhan o becyn o fesurau i ddechrau ar broses raddol a phwyllog o lacio’r rheoliadau llym sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws.

Bydd sicrhau bod plant yn dychwelyd i’r ysgol er mwyn cael dysgu wyneb yn wyneb yn parhau i gael blaenoriaeth ond bydd y cyfyngiadau mewn rhannau eraill o’n cymdeithas yn cael eu llacio’n raddol hefyd.

Bydd y rheol newydd i aros yn lleol yn golygu y bydd pobl yn cael gadael eu cartrefi a theithio o fewn eu hardal leol – o fewn pum milltir fel arfer. Bydd cyfleusterau chwaraeon awyr agored lleol yn cael eu hagor hefyd.

Bydd y rheol fras 5 milltir yn cael ei hesbonio mewn canllawiau – efallai y bydd angen i bobl sy'n byw mewn rhai rhannau o Gymru, yn enwedig ardaloedd gwledig, deithio ymhellach na phum milltir er mwyn mynd i siopa a manteisio ar wasanaethau cyhoeddus eraill.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

"Diolch i'r ymdrechion gwych mae pawb wedi'u gwneud, gallwn ni newid ychydig ar y cyfyngiadau presennol, a bydd y newidiadau hynny’n cael eu cyflwyno'n raddol dros yr wythnosau nesaf.

"Yn gyffredinol, mae nifer yr achosion o’r coronafeirws yn parhau i ostwng; mae llai o bwysau ar ein GIG, ac mae’n rhaglen frechu yn parhau i fynd o nerth i nerth.

"Ond ein cyngor clir iawn yw nad yw'r feirws wedi diflannu – yr amrywiolyn hynod heintus o Gaint yw'r straen amlycaf yng Nghymru, a chyn gynted ag y byddwn ni’n dechrau cymysgu eto, bydd y feirws yn dod yn ei ôl hefyd.

"Gyda phob un o’r camau rydyn ni'n eu cymryd er mwyn cael byw bywyd mwy normal unwaith eto, ni sy'n gyfrifol am yr hyn fydd yn digwydd nesaf. Er y byddwn ni’n croesawu mwy o ryddid i symud o gwmpas yn lleol ac i gwrdd â theulu a ffrindiau, allwn ni ddim mentro peidio â bod yn wyliadwrus."

O ddydd Sadwrn 13 Mawrth ymlaen:

  • Ni fydd mwy na phedwar o bobl o ddwy aelwyd yn cael cyfarfod yn yr awyr agored yn eu hardal leol, gan gynnwys mewn gerddi. Nid yw plant o dan 11 oed a gofalwyr yn cyfrif tuag at y terfyn hwnnw. Ni ddylai pobl gymysgu dan do a dylent gadw pellter cymdeithasol.
  • Caiff cyfleusterau chwaraeon awyr agored ailagor, gan gynnwys cyrtiau tenis, cyrsiau golff a lawntiau bowlio. Caiff uchafswm o bedwar o bobl o ddwy aelwyd gymryd rhan mewn gweithgareddau gan ddefnyddio cyfleusterau chwaraeon lleol.
  • Bydd ymweliadau dan do â chartrefi gofal yn cael ailddechrau, ar gyfer un ymwelydd dynodedig yn unig, gyda chaniatâd y cartref gofal.

O ddydd Llun 15 Mawrth ymlaen:

  • Bydd pob disgybl cynradd a disgyblion sy’n astudio ar gyfer cymwysterau yn cael dychwelyd i’r ysgol. Bydd gan ysgolion yr hyblygrwydd i ddod â disgyblion blwyddyn 10 a blwyddyn 12 yn eu hôl, er mwyn eu helpu i symud ymlaen i gam nesaf eu dysgu, a bydd mwy o ddysgwyr yn dychwelyd i golegau. Bydd hyblygrwydd hefyd i ysgolion gynnal sesiynau ailgydio ar gyfer pob disgybl arall. Bydd pob dysgwr yn dychwelyd ar ôl gwyliau’r Pasg.
  • Bydd siopau trin gwallt a siopau barbwr yn cael ailagor ar gyfer apwyntiadau, ond dim ond er mwyn torri gwallt.

O ddydd Llun 22 Mawrth ymlaen:

  • Bydd y camau cyntaf yn cael eu cymryd i ailagor busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol. Bydd cyfyngiadau ar werthu eitemau nad ydynt yn hanfodol yn cael eu codi ar gyfer y siopau hynny sydd ar agor ar hyn o bryd.
  • Bydd canolfannau garddio’n ailagor hefyd.

Bydd £150 miliwn ychwanegol ar gael tan ddiwedd mis Mawrth i gefnogi’r busnesau hynny nad ydynt yn cael agor eto. 

Bydd yr arian ychwanegol yn golygu y bydd busnesau yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a hamdden, a busnesau manwerthu nad ydynt hanfodol, yn gymwys i gael taliad ychwanegol o hyd at £5,000 os ydynt yn talu ardrethi annomestig. 

Yn ystod trydedd wythnos y cyfnod adolygu, byddwn yn pwyso a mesur y dystiolaeth ddiweddaraf cyn cadarnhau newidiadau ar gyfer gwyliau'r Pasg. Os bydd yr amodau iechyd cyhoeddus yn parhau i fod yn ffafriol, o 27 Mawrth ymlaen:

  • Bydd y cyfyngiadau aros yn lleol yn cael eu codi er mwyn caniatáu i bobl deithio yng Nghymru.
  • Bydd llety gwyliau hunangynhwysol yn ailagor ar gyfer un aelwyd.
  • Bydd gweithgareddau wedi'u trefnu yn yr awyr agored ar gyfer plant yn cael ailddechrau.
  • Bydd llyfrgelloedd yn ailagor.

Wrth gynnal yr adolygiad ar 1 Ebrill, bydd y llywodraeth yn ystyried a ellir ailagor yr holl siopau eraill a gwasanaethau cyswllt agos ar 12 Ebrill, yn yr un modd ag yn Lloegr.

Ychwanegodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

"Mae angen help pawb arnon ni wrth inni ddechrau llacio'r cyfyngiadau hyn. Mae angen i bob un ohonon ni ddilyn y rheolau, i gadw pellter cymdeithasol, arfer hylendid dwylo da a gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do.

"Rydyn ni i gyd eisiau gweld Cymru'n ailagor ac am gael byw bywyd mwy normal unwaith eto. Mae hynny o fewn golwg – ond dim ond os gallwn ni gadw'r feirws dan reolaeth. ’Does dim un ohonon ni am inni orfod ailgyflwyno cyfyngiadau llym a dadwneud y cynnydd rydyn ni wedi'i wneud. Dim ond drwy gydweithio y gallwn ni helpu i gadw Cymru'n ddiogel."

Mae’r newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno ar ôl yr adolygiad statudol rheolaidd o'r rheoliadau coronafeirws sy’n cael ei gynnal gan Weinidogion Cymru, gan ddefnyddio’r dystiolaeth wyddonol a meddygol ddiweddaraf oddi wrth Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau (SAGE), Cell Ymgynghorol Technegol (TAC) Llywodraeth Cymru, a chyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru.

Yn ei sesiwn friffio i'r wasg amser cinio heddiw, nododd y Prif Weinidog hefyd::

Wrth i ni edrych ymlaen at ddiwedd mis Ebrill, a os byddwn yn parhau i weld  y darlun iechyd cyhoeddus yn gwella, byddwn yn gallu ystyried beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi pobl i gwrdd â'n gilydd a'r hyn y gallwn ei wneud i barhau i ailagor ein heconomi, er enghraifft, drwy edrych ar letygarwch awyr agored, y sector priodasau a champfeydd."


£150 miliwn ychwanegol i gefnogi busnesau yng Nghymru

Mae £150 miliwn arall ar gael i gefnogi busnesau Cymru i ddelio ag effaith barhaus y coronafeirws.

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r cyllid yn cael ei gadarnhau wedi yr adolygiad o reoliadau heddiw.

Bydd y cymorth ychwanegol yn helpu busnesau yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth, hamdden a manwerthu nad ydynt yn hanfodol sy'n talu ardrethi annomestig a bydd yn ychwanegiad i’r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau.

Bydd hyn yn golygu y bydd busnesau cymwys sydd â gwerth ardrethol o dan £12,000 yn derbyn taliad grant ychwanegol o £4,000.

Bydd cwmnïau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £500,000 yn derbyn £5,000.

Bydd y cyllid, a fydd yn helpu busnesau gyda'u costau hyd at 31 Mawrth, ar gael i gwmnïau waeth faint o weithwyr sydd ganddynt ac yn sicrhau bod microfusnesau yn elwa o'r cymorth.

Bydd awdurdodau lleol, sydd wedi bod yn hanfodol drwy gydol y pandemig o ran trosglwyddo arian i fusnesau yn gyflym, yn gweinyddu ac yn dosbarthu'r taliadau hyn.

Nid oes angen i fusnesau sy'n talu ardrethi annomestig ac sydd eisoes wedi cael taliad ers y bwlch tân ym mis Hydref weithredu. Fodd bynnag, dylai busnesau nad ydynt wedi cofrestru gyda'u hawdurdod lleol gymryd camau yn awr i sicrhau eu bod yn cael y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo.

Mae'r cyhoeddiad heddiw yn adeiladu ar y gwyliau ardrethi i fusnesau cymwys yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru sydd wedi'i ymestyn am 12 mis arall.

Ar y cyd â chynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach presennol Llywodraeth Cymru, mae hyn yn sicrhau y bydd mwy na 70,000 o fusnesau yn parhau i beidio dalu unrhyw ardrethi o gwbl yn 2021-22.

Ers dechrau'r pandemig, mae dros £1.9bn o gymorth gan Lywodraeth Cymru wedi cyrraedd busnesau ledled Cymru. Bu hyn yn hanfodol i ddiogelu cwmnïau drwy'r cyfnod hynod anodd hwn a diogelu 160,000 o swyddi.

Mae cymorth Llywodraeth Cymru yn ychwanegol at yr hyn sydd ar gael gan Lywodraeth y DU.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:

"Mae'r cyhoeddiad heddiw o £150 miliwn mewn cymorth ychwanegol yn hanfodol i'n hymdrechion parhaus i helpu busnesau ledled Cymru drwy gyfnod heriol iawn.

"Fel Llywodraeth, rydym wedi ymateb yn gyflym i ddiogelu cwmnïau a swyddi Cymru drwy ein pecyn cymorth sy'n werth mwy na £2 biliwn. Rydym hefyd wedi cyhoeddi ein bod yn ymestyn y pecyn rhyddhad ardrethi 100% ar gyfer y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch am 12 mis arall.

"O ganlyniad i'n camau gweithredu uniongyrchol, rydym wedi gallu neilltuo mwy o gyllid i gefnogi busnesau nag a gawsom gan Lywodraeth y DU.

"Rwyf hefyd am ddiolch i awdurdodau lleol unwaith eto am eu hymrwymiad i gael arian i fusnesau cyn gynted â phosibl. Mae eu hymroddiad wedi bod yn gwbl hanfodol dros y flwyddyn ddiwethaf o ran sicrhau bod busnesau'n cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo.

"Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu cwmnïau a bywoliaethau wrth i waith anhygoel ac ymrwymiad i frwydro yn erbyn y feirws barhau ledled Cymru."


Ailagor llety gwyliau hunangynhwysol

Bydd opsiynau ar gyfer ailagor  a’r penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yn ystod yr adolygiad nesaf o'r rheoliadau ar 25 Mawrth.

Gellir archebu ar gyfer gwyliau o 27 Mawrth, gan wneud hynny ar eich menter eich hun, a dylid gwirio gyda darparwr y llety cyn archebu.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Gwestai a llety arall â gwasanaeth (e.e. Gwely a Brecwast, hosteli ac ati) sy'n darparu ystafelloedd en-suite ac sy’n gallu darparu prydau bwyd drwy wasanaeth ystafell.
  • Llety arall sy'n gwbl hunangynhwysol (e.e. bythynnod hunanarlwyo, fflatiau, ac ati).
  • Glampio neu unrhyw lety arall gyda chawod/baddon ensuite, toiledau a chyfleusterau cegin.
  • Carafán gwyliau a Charafannau teithiol (gan gynnwys tymhorol), cartrefi modur a champerfans  lle mae ganddynt eu cawod, toiled a chyfleusterau cegin eu hunain.

Bydd angen i Safleoedd Carafanau sicrhau bod canllawiau'r diwydiant ar waredu gwastraff a rennir a mannau dŵr yn cael eu dilyn yn llym.

Bydd yr holl gyfleusterau a rennir, ar wahân i ddŵr a mannau gwaredu, yn aros ar gau gan gynnwys toiledau, blociau cawod, golchdy, clybiau nos, pyllau nofio.

Gall Bariau, Bwytai a Chaffis weithredu gwasanaeth tecawê yn unig.

Dim ond i aelodau o'r un aelwyd a'u swigen gymorth y gellir gosod llety.


Addo - addewid i gadw Cymru'n ddiogel tra'n aros yn lleol

Wrth i ni weld cyfyngiadau'n cael eu llacio ychydig ledled Cymru o'r penwythnos hwn, ac er nad ydym mewn sefyllfa o hyd i groesawu ymwelwyr yn ôl i Gymru eto, croesewir gallu ail-ddarganfod ychydig yn fwy o’n hardal leol.

Gan ragweld y bydd mwy o bobl yn mwynhau'r awyr agored ac mewn partneriaeth â'n cydweithwyr yn yr amgylchedd, rydym wedi dyfeisio ymgyrch i atgyfnerthu ymddygiadau cadarnhaol, wedi'u hanelu i ddechrau at y rheini ohonom yng Nghymru a fydd yn ymweld â mannau agored ac yn eu mwynhau.

Mae ymgyrch Addo yn gofyn i bobl Cymru wneud addewid ar y cyd – gofalu am ei gilydd, gofalu am y tir epig hwn a gofalu am ein cymunedau.  Ffocws yr ymgyrch hon fydd tynnu sylw at bwysigrwydd y Cod Cefn Gwlad a mynd i'r afael â rhai o'r materion a welsom llynedd, megis taflu sbwriel, gwersylla anghyfreithlon a phroblemau parcio. Bydd Addo yn cael ei gyflwyno mewn ffordd gyson, gyfeillgar, groesawgar a chynnes i ganolbwyntio ar fanteision treulio amser yn yr awyr agored ac i helpu i leihau'r pwysau ar ein mannau agored a'n tirweddau.

Bydd yr ymgyrch yn cael ei chyflwyno yng Nghymru i ddechrau a bydd yn cynnwys cymysgedd o hysbysebion digidol, cysylltiadau cyhoeddus, negeseuon y tu allan i'r cartref mewn gorsafoedd gwasanaeth allweddol yn ogystal â hysbysebu ar fysiau.  Bydd yr ail gam yn cynnwys teledu, radio a bydd yn cael ei ymestyn i dargedu ymwelwyr o ymhellach i ffwrdd.

Mae asedau ar gael ar y llyfrgell asedau i chi eu lawrlwytho a'u defnyddio o fewn eich sianeli cymdeithasol a'ch marchnata eich hun i gefnogi'r ymgyrch Addo.  Bydd deunydd creadigol yr ymgyrch hefyd ar gael i'w gweld cyn bo hir - gan roi blas o'r arddull, y naws a'r negeseuon. Gwiriwch yn ôl yn rheolaidd gan bydd mwy o asedau'n cael eu hychwanegu dros yr wythnosau nesaf.

Gellir llofnodi'r addewid ar https://www.croeso.cymru/cy/addo.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram