Rhifyn 40

Chwefror 2021

English

 
 
 
 
 
 

Cohes3ion 

Mae prosiect COHES3ION Interreg yn helpu partneriaid o bob rhan o Ewrop i integreiddio blaenoriaethau lleol a rhanbarthol yn eu polisïau arloesi ac yn eu Strategaethau Arbenigo SMART (S3). Darganfyddwch fwy am y prosiect a chofrestrwch ar gyfer y digwyddiad lledaenu yma

Cohes3ion
HAC

Atebion arloesol i fynd i'r afael â her amaethyddol

Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cronfa gwobr o £100,000 ar gael i gefnogi darpar entrepreneuriaid i ddarparu atebion arloesol a all fynd i'r afael â heriau allweddol yn y sector amaethyddol.

Wedi'i gynllunio gan M-Sparc, mae Agri-Hack yn dod â phobl ynghyd o bob rhan o amaethyddiaeth a'r sector digidol, technoleg a data i ddatrys heriau.

Darllenwch fwy yma

Aelodaeth gyswllt o Horizon Ewrop

Horizon Ewrop sy'n olynu Horizon 2020 fel rhaglen ymchwil ac arloesi flaenllaw nesaf yr Undeb Ewropeaidd, rhwng 2021 a 2027 gyda chyllideb o tua €95.5 biliwn.

Fel Gwlad Gyswllt, bydd ymchwilwyr, busnesau a sefydliadau eraill yng Nghymru yn gallu cymryd rhan ym mhob un o agweddau Horizon Ewrop ar delerau cyfatebol â'r rheini o aelod-wladwriaethau.

Darganfyddwch fwy 

Horizon Europe
Advances 95 Cymraeg Cover

Advances Wales Rhifyn 95

Mae'r rhifyn hwn o Advances Wales yn cynnwys datblygiad prawf wrin arloesol

ar gyfer olrhain diet, proses gweithgynhyrchu cynaliadwy ar gyfer

amnewidyn siwgr a dyfais sy'n troi casgenni bach cwrw safonol yn

gynwysyddion deallus wedi'u digideiddio.

Edrychwch ar y rhifyn diweddaraf yma

innovation - edrychwch

Digwyddiad Ar-lein - Pwysigrwydd Rhanbarthau'r UE i Arloesedd Cymru – Dull Ymarferol

2 Mawrth 2021, 10.00 – 11.30 

I nodi diwrnod cenedlaethol Cymru, Dydd Gŵyl Dewi, rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni mewn trafodaeth am Arloesi yng Nghymru a chydweithio â phartneriaid yr UE.

Bydd y digwyddiad yn gyfle i:

  • glywed am asedau arloesedd Cymru,
  • ddarganfod sut mae arloesedd Cymru wedi ymateb i Covid,
  • weld a chlywed sut rydym yn datblygu a dyfnhau ein cydweithrediadau â phartneriaid rhanbarthol yr UE.

Cofrestrwch yma 

Gweminar: Beth yw Geovation a beth gall e wneud i’ch busnes

17 Mawrth 2021, 10:00 - 11:15

Mae Llywodraeth Cymru â’r Rhaglen Geovation y Arolwg Ordnans wedi dod ynghyd i gynnig Gweminar i gyflwyno’r Rhaglen Cymorth Busnes gystadleuol o Geovation.

Geovation yw prif cynigydd o’r gwerth Arloesi Agored yn y Sector Cyhoeddus.

Cofrestrwch yma 

IPO Webinar: Rheoli a lliniaru yn erbyn Risgiau Eiddo Deallusol  

18 Mawrth 2021, 11.00-12.00  

Gall asedau IP a Hawliau Eiddo Deallusol gyflwyno cyfleoedd ar gyfer twf i fusnes. Bydd y gweminar hon yn archwilio rhai o'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r cyfleoedd hynny a sut y gallai busnes reoli a lliniaru yn eu herbyn. Bydd y gweminar yn cynnwys Yswiriant IP gyda SafeguardIP a Phecyn Cymorth newydd y Gadwyn Gyflenwi gan yr IPO.

Edrychwch ar galendr digwyddiadau'r IPO yma

Gweminar Paratoadol - Cyllido Ynni Diwydiannol

24 Mawrth 2021, 10:00 – 11:00

Nod y sesiwn yma yw i ddiweddaru a pharatoi darpar ymgeiswyr. Bydd y weminar byr yma yn cynnig mewn welediad wrth safbwynt Llywodraeth Cymru â’r Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC). Bydd y Knowlege Transfer Network yn cynnig trosolwg o’r Cymorth Cyllid sydd ar gael trwy’r ffynhonnell yma ac eraill sydd ar gael (ee Innovate UK SMART)

Y gynulleidfa i’r gystadlaethau yma yw Ynni a Gweithgynhyrchu.

Mwy o wybodaeth yma

Sicrhau bod Llywodraethu Aml-lefel yn Gweithio ym maes Arbenigo Clyfar (S3)

25 Mawrth 2021, 10.00–11.45 GMT

Mae prosiect COHES3ION Interreg yn helpu partneriaid o bob rhan o Ewrop i integreiddio blaenoriaethau lleol a rhanbarthol yn eu polisïau arloesi ac yn eu Strategaethau Arbenigo SMART (S3), er mwyn cael mwy o effaith a gwella’u perfformiad.

 Ymunwch â’n panel o arbenigwyr blaenllaw a fydd yn trafod sut i:

  • gynyddu effaith gyffredinol S3
  • gwella’r cysylltiadau rhwng rhaglenni gweithredol yn yr amgylchedd ymchwil, datblygu ac arloesi ac yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat
  • hyrwyddo polisi a model llywodraethu aml-lefel

Cofrestrwch yma

Cyfarfod Cymorth Cyllid Ar-lein 

21 Ebrill 2021

Mae’r Llywodraeth Cymru, Innovate UK, Y Knowledge Transfer Network a Innovate UK Edge (Enterprise Europe Network) yn cynnal Cyfarfod Cymorth Arloesi Wyneb yn Wyneb i helpu Cwmnïoedd yng Nghymru well paratoi eu hunan ar gyfer:-

  • Cynnig am cyllid YaD
  • Cynnal Prosiectau Ymchwil a Datblygu mwy effeithiol
  • Ymelwa ar y canlyniadau

Mae’n debyg bod nhw mynd i’w glustnodi yn fuan iawn.

Archebwch eich lle

 
 

AMDANOM NI

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu mwy o swyddi a swydd gwell trwy economi gryfach a thecach.  Byddwn yn gwella ac yn diwygio’n gwasanaethau cyhoeddus ac yn cael gwared ar anghysondeb yn y ddarpariaeth.  Trwy weithio gyda’n gilydd dros Gymru, byddwn yn creu cyfle i bawb ac yn adeiladu gwlad unedig, cysylltiedig a chynaliadwy. 

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gov.wales

Dilyn ar-lein: