Bwletin Newyddion: Arian ychwanegol ar gyfer busnesau Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth; Canllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch; Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau drwy ymgyrch newydd; Hwb ariannol o £680m ar gyfer ymdrechion COVID Cymru

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

3 Mawrth 2021


bk

Arian ychwanegol ar gyfer busnesau Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £30 miliwn ychwanegol ar gyfer busnesau twristiaeth, lletygarwch a hamdden sydd wedi teimlo effeithiau cyfyngiadau’r coronafeirws.

Cadarnhawyd hefyd, gan ddibynnu ar ganlyniad yr adolygiad nesaf ar 12 Mawrth, y gallai gwerth £150 miliwn o grantiau gael eu neilltuo i fusnesau, gan gynnwys micro-fusnesau, trwy gynllun Ardrethi Annomestig (NDR) Llywodraeth Cymru os caiff cyfyngiadau’r coronafeirws eu estyn.

Yn y rownd ddiweddaraf, bydd £30m o gymorth y Gronfa Cadernid Economaidd yn cael ei dargedu er lles busnesau bach, canolig a mawr yn y sector lletygarwch, hamdden a thwristiaeth ac i fusnesau yn y gadwyn gyflenwi gysylltiedig.

Mae’r arian yn cael ei dargedu at fusnesau sy’n cyflogi deg neu fwy o staff fel cydnabyddiaeth o’r costau gweithredu cymharol uchel y mae’r busnesau hyn yn gorfod eu hysgwyddo.

Ond os caiff y cyfyngiadau eu hestyn yn yr adolygiad ar 12 Mawrth, byddai’r £150m fyddai’n cael ei neilltuo yn golygu y byddai pob busnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden a siopau nad ydyn nhw’n hanfodol yn cael taliad ychwanegol o hyd at £5k, waeth faint o weithwyr a gyflogir ganddynt.

O heddiw ymlaen, bydd busnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden yn cael mynd ar y gwiriwr cymhwysedd a’r gyfrifiannell sydd ar wefan Busnes Cymru i'w helpu i weithio allan pa gymorth y gallent fod yn gymwys iddo yn y rownd ddiweddaraf hon a deall y manylion sydd eu hangen i wneud cais. Bydd yr ail gyfnod ymgeisio am Gronfa Penodol i'r Sector yn agor ddydd Mawrth 9 Mawrth 2021 tan 8pm ddydd Gwener 12 Mawrth 2021.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd, Ken Skates:

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un hynod o anodd i bawb ac rydym yn ymwybodol o'r heriau sylweddol sy'n wynebu ein sector lletygarwch, twristiaeth a hamdden.

“Ffocws y rownd ariannu ddiweddaraf hon gyda’i £30m o arian ychwanegol ar gyfer busnesau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth yw’r busnesau bach, canolig a mawr yn y sector a’r nod penodol o ddiogelu cymaint o swyddi â phosibl.

“Cefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau gan gynnwys i’r sector lletygarwch, hamdden a thwristiaeth drwy gydol y pandemig fu'r un fwyaf hael o holl wledydd y DU, ac rwy'n falch ein bod wedi gallu rhoi dros £1.9bn yn uniongyrchol yng nghyfrifon banc ein busnesau.

“Gyda chyfyngiadau'n debygol o barhau am ychydig amser eto rydym wrthi'n adolygu ein hopsiynau ar gyfer darparu cymorth pellach. Mae’n dda gen i gadarnhau nawr y byddwn yn neilltuo £150m o gymorth ychwanegol i fusnesau sy’n talu ardrethi annomestig os caiff y cyfyngiadau eu hestyn yn adolygiad nesa’r coronafeirws ar 12 Mawrth, gan gynnwys i ficro-fusnesau.”

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid;

“Mae'r pandemig wedi cael effaith anghymesur ar y sector lletygarwch, hamdden a thwristiaeth a'r bobl y mae'n eu cyflogi.

“Mae'r gronfa newydd hon, a’r arian ychwanegol y byddwn yn ei neilltuo pe bai’r cyfyngiadau’n cael eu hestyn, yn ymateb i gam diweddaraf y pandemig ac yn arwydd o’n hymrwymiad di-dor i'r sector, gan eu helpu i oroesi'r cyfnod anoddaf hwn nes eu bod mewn sefyllfa i ailagor eu drysau'n ddiogel eto.”

Mawr oedd croeso Kate Nicholls, Prif Weithredwr UKHospitality (UKH) i becyn grantiau diweddaraf Llywodraeth Cymru i’r diwydiant:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrando unwaith eto ar ein cynigion adeiladol ar gyfer mwy o gymorth a bydd yr arian newydd yn gwneud cyfraniad amlwg at barhau i arbed swyddi lleol a busnesau lleol tan 31 Mawrth mewn cymunedau ledled Cymru tra phery’r cyfnod clo.”


Canllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch

Wrth i ni edrych tuag at ailagor yn raddol, mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r canllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch.

I'ch helpu i benderfynu pa gamau i'w cymryd, mae Rheoliadau Coronafeirws yn gofyn i chi gynnal asesiad risg COVID-19 penodol, yn union fel y byddech ar gyfer peryglon eraill sy'n gysylltiedig ag iechyd a diogelwch. Rhaid cynnal yr asesiad risg hwn mewn ymgynghoriad â staff a chynrychiolwyr (undeb llafur cydnabyddedig neu gynrychiolydd a ddewisir gan weithwyr) a bod ar gael i'r staff.

Mae HSE (Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch) yn darparu templedi defnyddiol i'ch helpu i gynnal asesiad risg COVID-19 penodol a fydd yn mynd â chi drwy'r hierarchaeth o reolaethau o'r mwyaf i'r lleiaf effeithiol.  Ceir trosolwg o hierarchaeth rheolaethau yn Atodiad 1 o'r canllawiau Twristiaeth a Lletygarwch.  Byddwch hefyd yn dod o hyd i ddolenni o fewn canllawiau Llywodraeth Cymru i ganllawiau sy’n benodol ar gyfer y sector a chanllawiau diwydiant sy'n cynnwys rhagor o fanylion gan gynnwys Canllawiau UKH Cymru.


Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau drwy ymgyrch newydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch newydd i hyrwyddo'r cymorth pwysig sydd ar gael i fusnesau i'w helpu i ddelio â phwysau parhaus coronafeirws, a chynllunio ar gyfer dyfodol mwy llewyrchus.

Bydd yr ymgyrch 'Yn Gefn i Chi' yn annog cwmnïau ar hyd a lled Cymru i fanteisio ar y cyngor a'r arweiniad sgiliau a chyflogaeth sydd ar gael drwy’r Porth Sgiliau i Fusnes ar-lein.

Mae amrediad o gymorth ar gael, fel cymorth i ddatblygu galluoedd staff a chyngor gyda rhaglenni recriwtio a hyfforddi. Bydd hyn yn helpu busnesau i symud ymlaen drwy bandemig y coronafeirws a ffynnu yn y dyfodol.

I ddysgu mwy am y rhaglenni sydd ar gael, ffoniwch y Porth Sgiliau i Fusnes ar 03000 6 03000 neu ewch i Porth Sgiliau Busnes Cymru.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Hwb ariannol o £680m ar gyfer ymdrechion COVID Cymru

Bydd gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael hwb ariannol o fwy na £682m i gefnogi eu hymdrechion COVID dros y misoedd nesaf, mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi.

Mae’r pecyn yn cynnwys mwy na £635m ar gyfer y GIG a chynghorau lleol i’w helpu i gefnogi pobl Cymru dros y chwe mis nesaf.

Rydym hefyd yn cryfhau cymorth i brentisiaethau, sy’n rhan hanfodol o’n heconomi, gyda buddsoddiad ychwanegol o £16.5m ac yn darparu £18.6m ychwanegol i gynnal darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus hanfodol.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram