Newyddlen Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

4 Chwefror 2021

 
  040221 FDWIB Header W

Ers 1 Ionawr, mae busnesau bwyd a diod wir wedi dechrau teimlo effeithiau Brexit a'r rheolau newydd. Er bod y prif newidiadau’n ymwneud ag allforio cynnyrch, mae mewnforion wedi cael eu taro hefyd i ryw raddau. Yn y pendraw, mae'r diwydiant a'r llywodraeth ar siwrnai dysgu wrth i wirionedd Brexit afael. Y peth pwysig nawr yw bod y diwydiant a'r llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd i glustnodi'r sialensiau a mynd i'r afael â nhw, a’u bod yn gwireddu unrhyw gyfleoedd a fydd yn codi dros yr wythnosau nesaf hefyd.

FDWIB - Andy Richardson

Gall fod yn anodd canolbwyntio ar y cyfleoedd ar hyn o bryd, ond dros yr wythnosau nesaf bydd y Bwrdd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a San Steffan i ddatblygu cyfleoedd allforio ar sail y cytundebau masnachu newydd sy'n cael eu negodi, a all fod yn achubiaeth i rai busnesau bwyd a diod Cymreig.

Mae Brexit wedi dod ar adeg pan fo llawer o fusnesau bwyd a diod yng Nghymru'n dal i ddioddef o ganlyniad i'r pandemig, ac ni ddylem byth anghofio pa mor heriol yw’r cyfnod hwn i'n diwydiant, a bod rhaid i ni wneud popeth y gallwn ni i gynorthwyo'r rhai sydd wedi cael eu taro gwaethaf gan y 'storm berffaith' yma. Yn wir, dros y dyddiau diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cymorth pellach i helpu'r busnesau hynny â'u costau gweithredu.

Cofiwch gysylltu os yw'ch busnes yn wynebu sialensiau o'r math yma, mae hi'n bwysig ein bod ni'n codi'r manylion yma â'r Llywodraeth, a'n bod ni'n gweithio gyda'n gilydd i sicrhau y gallwn fynd i'r afael â'r sialensiau niferus, a'u goresgyn.

Fel Bwrdd, rydyn ni'n deall y sialens ddeublyg aruthrol sy'n wynebu ein diwydiant, ond rhaid i ni sicrhau hefyd ein bod ni'n edrych ymlaen tua chyfleoedd a thwf yn y dyfodol.

Fel arfer, os hoffech chi gysylltu â fi'n uniongyrchol i drafod y materion y mae'ch busnes neu'ch sector yn eu hwynebu, e-bostiwch Chair.FDWIB@llyw.cymru

Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Y newyddion am Covid-19 a diwedd Cyfnod Pontio'r UE i fusnesau bwyd a diod

040221 FDWIB Latest

Y newyddion diweddaraf o'r diwydiant

040221 FDWIB News

Camau allweddol diweddar gan y Bwrdd

231020 FDWIB Board
  • Mae'r Bwrdd wedi cynnal cyfarfodydd gyda'r Llywodraeth i bledio'r achos dros gynorthwyo busnesau bwyd a diod yn ystod y pandemig ac yn sgil ymadael â'r UE.
  • Mae'r Bwrdd yn parhau i gyfarfod â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan (ar faterion nad ydynt yn ddatganoledig) i hyrwyddo ac amddiffyn buddiannau bwyd a diod. Mae hyn yn cynnwys gwireddu unrhyw gyfleoedd sy'n gysylltiedig â chytundebau masnach a marchnadoedd allforio newydd.
  • Adolygodd y Bwrdd ei gynlluniau, ei offer a’i sianeli cyfathrebu ei hun â'r nod o hyrwyddo mwy o ddialog a chysylltiad â'r diwydiant er gwaetha'r cyfyngiadau sydd mewn grym.
  • Trafodwyd effaith ymadael â'r UE ar fasnach a busnesau bwyd, gyda ffocws penodol ar faterion a thariffau allforio ar gyfer busnesau bwyd a diod yng Nghymru.
  • Mae'r Bwrdd yn rhannu dolenni at wybodaeth, cefnogaeth a phecynnau cymorth trwy Twitter a LinkedIn.

Adolygiadau Prentisiaethau Bwyd a Diod Cymru – Ar Agor Nawr

040221 FDWIB Apprenticeship

Mae'r Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod am glywed gan brentisiaid, cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant, cyrff dyfarnu, aseswyr a rhanddeiliaid eraill yng Nghymru yn rhan o'i hymgynghoriad cyhoeddus pedair wythnos o hyd ar yr adolygiad o Lwybrau Prentisiaeth Bwyd a Diod Cymru.

Mae pob ymgynghoriad yn cynnwys nifer o gwestiynau a chyfleoedd i nodi sylwadau pellach, ac fe’ch anogir i nodi’ch rhesymeg.

Bydd yr ymgynghoriadau’n agored tan ddydd Gwener, 19 Chwefror 2021.

Gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriadau trwy ddilyn y dolenni isod:

Cwrdd â'r Bwrdd:

Bryson Craske, Cyfarwyddwr Masnachol, The Abergavenny Fine Food Co

040221 FDWIB Member

Cefais fy ngeni yn Lagos, Nigeria, a threuliais y rhan fwyaf o'm hieuenctid yn byw yn Affrica neu Dde-ddwyrain Asia. Cemegydd oedd fy nhad o ran ei alwedigaeth, ond gweithiodd ei ffordd i fyny i swyddi rheoli uwch.

Ar ôl iddo ymddeol yn gynnar, penderfynodd y teulu newid eu byd gan symud i hen ffermdy oedd wedi dechrau mynd â'i ben iddo yn ne Cymru.

Roedd yr awydd i fod yn hunangynhaliol yn ddeniadol iawn i fy rhieni, felly roedd prynu gafr i gael llaeth yn teimlo fel y peth iawn i'w wneud. Doedd un afr ddim yn ddigon, felly cawsom ni ragor - ac yn y pen draw, roedd gormod o laeth gyda ni! Gyda llyfr o'r llyfrgell a sosban ar y stôf, ganed caws geifr Cymreig ffres Ffermdy Pant-Ys-Gawn.

Erbyn hyn, rwy'n byw gyda fy ngwraig, Jo a'n plant, Olivia a Max, yn y beudy gwreiddiol lle dechreuodd y stori bron i 40 mlynedd yn ôl, ac mae gen i dros 30 mlynedd o brofiad yn y sector bwyd a diod.

Ymunais i â Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru yn ddiweddar, â'm cymhelliant yn hynny o beth yw helpu a chefnogi'r nifer aruthrol o ficrofusnesau a BBaCh bwyd a diod yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y bydd fy mhrofiad, yn arbennig ym maes gwerthu a marchnata, yn gallu helpu i ysbrydoli twf a meithrin hyder i fusnesau gymryd y cam nesaf ar eu siwrnai.

Wrth gwrs, mae sialensiau mawr yn wynebu'r diwydiant, a rhaid i gynhyrchwyr Cymreig fod yn barod i addasu at ofynion y sialensiau anochel yma dros y 12 mis nesaf.

Er ein bod ni wedi ymadael â'r UE, mae'r cyfnod o bontio'n parhau. Mae problemau ynghylch symud nwyddau i Ogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon yn dal i fod yn her, yn enwedig o'u cyfuno â'r pwysau sy'n dal i wasgu yn sgil Covid.

Fodd bynnag, rwy'n credu hefyd bod poblogrwydd Brand Cymru ar dwf, a bydd y galw am fwyd a diod arloesol yn parhau i dyfu ar lefel ddomestig ac ar lefel fyd-eang hefyd.

Cadwch mewn cysylltiad am ddiweddariadau ar Twitter a LinkedIn Ymunwch â'n Grŵp Facebook i rannu gweithluoedd. Cysylltwch â ni trwy e-bost yn Chair.FDWIB@llyw.cymru

 
 
 

AMDANOM NI

Y newyddion diweddaraf, gwybodaeth a chymorth i sector bwyd a diod Cymru, gan Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@FoodDrinkWIB

 

Dilynwch ni ar LinkedIn:

Food and Drink Wales Industry Board

 

Dilynwch ni ar Facebook:

Welsh food and drink workforce collaboration