Cylchlythyr Gwlad 5 Chwefror 2020 - Pontio'r UE

5 Chwefror 2020 - Pontio'r UE

 
 
 
 
 
 

Newyddion

Ken Skates

Llythyr at fusnesau oddi wrth Ken Skates: Diwedd Cyfnod Pontio’r UE

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi cyhoeddi llythyr, yn tynnu sylw at sawl adnodd y gall busnesau eu defnyddio yn dilyn diwedd Cyfnod Pontio’r UE.

Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys Porth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru, sy’n cynnig cyngor ac arweiniad ynghylch paratoi ar gyfer y berthynas fasnachu newydd, a hefyd wybodaeth am y datblygiadau diweddaraf.

Mae’r llythyr hefyd yn tynnu sylw at adnodd tracio a ddatblygwyd gan Lywodraeth y DU (Saesneg yn unig), sy’n galluogi busnesau i dderbyn rhestr wedi’i phersonoli o gamau ar gyfer cynorthwyo â’r rheolau masnachu newydd.

Flag

Perthynas Cymru â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol

Yn dilyn diwedd y Cyfnod Pontio mae Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at Ursula Von dêr Leyen, Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, ynghylch sut y gallai Cymru ddatblygu perthynas adeiladol a chadarnhaol gyda’r UE.

Mae'r llythyr, lle y mae Cymru'n ymrwymo i barhau i fod yn wlad Ewropeaidd sy’n edrych tuag allan, yn cefnogi gweithrediad effeithiol Cytundeb Masnach a Chydweithredol rhwng yr UE ar DU.

.

Porthladd

Masnachu Trawsffiniol (Porthladdoedd)

Mae’n rhaid i fusnesau sydd wedi’u lleoli ym Mhrydain Fawr ddilyn rheolau newydd ar gyfer masnachu â’r UE a chyda Gogledd Iwerddon.

Map

Llywodraeth y DU: rhestr o fusnesau sydd wedi'u cymeradwyo i allforio i'r UE

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU yn ddiweddar restr o fusnesau sydd wedi’u cymeradwyo i allforio i'r UE.

Os yw eich busnes wedi’i gofrestru ym Mhrydain Fawr neu’n un o’r Tiriogaethau sy’n ddibynnol ar y Goron (Jersey, Guernsey, Ynys Manaw), gwiriwch a yw wedi’i gymeradwyo.

Gallwch hefyd ddod i wybod beth yw eich rhif TRACES (System Rheoli Masnach ac Arbenigwyr). Mae angen ychwanegu’r rhif hwn at y dystysgrif Iechyd allforio ar gyfer y cynnyrch rydych yn ei allforio.

Crop

Cynllun Peilot Gweithwyr Tymhorol: cymorth ar gyfer ffermwyr a thyfwyr yn 2021

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd nifer y gweithwyr a ganiateir i deithio i'r DU er mwyn pigo a phecynnu ffrwythau a llysiau yn cynyddu ar gyfer cynhaeaf eleni.

Cafodd y Cynllun Peilot ei lansio’n wreiddiol yn 2019 ac mae wedi’i estyn a’i ehangu am flwyddyn ychwanegol. Mae 30,000 o fisas ar gael ar gyfer y rhai sy’n dymuno dod i’r DU a gweithio ar ffermydd am gyfnod o hyd at chwe mis.

Bydd y gweithwyr yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu tyfwyr garddwriaethol i bigo a phecynnu eu cynnyrch yn 2021.

Pysgota

Llywodraeth y DU: cyhoeddi cwotas pysgota dros dro

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi terfynau dros dro ar gyfer dalfeydd i bysgotwyr yn y DU, gan sicrhau y gall pysgota barhau heb unrhyw darf hyd nes y bydd y trafodaethau blynyddol ynghylch pysgodfeydd gyda’r UE, Norwy ac Ynysoedd Ffaro yn dod i ben.

Yn dilyn ymgynghori â’r Gweinyddiaethau Datganoledig a’r Sefydliad Rheoli Morol, mae terfynau dros dro ynghylch dalfeydd wedi’u pennu a hynny’n unol â Chytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a'r UE, a byddant yn parhau hyd ddiwedd mis Mawrth.

Fflag

Rheolau Tarddiad ar gyfer Nwyddau sy’n Symud rhwng y DU a’r UE

Rheolau Tarddiad (ROO) yw’r meini prawf a ddefnyddir i benderfynu lle y mae cynnyrch wedi’i gynhyrchu (e.e. Prydain, UE).

Os ydych chi’n mewnforio neu’n allforio, mae angen ichi wybod am y rheoliadau newydd, oherwydd y gallai cyfraddau tariff gwahanol fod yn gymwys, gan ddibynnu ar ddynodiad eich cynnyrch.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau manwl ar y gofynion newydd o dan gytundeb y DU gyda’r UE (y Cytundeb Masnach a Chydweithredu).

Mae rhagor o wybodaeth am hawlio cyfraddau ffafriol ar dollau ar nwyddau a gwmpesir yn y cytundeb, ac ar ddatgan nwyddau a fewnforir i'r DU ar eich datganiad mewnforio (Saesneg yn unig).

Y newyddion diweddaraf

Tanysgrifiwch i Gwlad, taflen newyddion Llywodraeth Cymru a chylchlythyr y Diwydiant Bwyd a Diod.

Tractor

Tîm Cysylltwyr Fferm

Cymorth un-i-un cyfrinachol. Os ydych angen trafod unrhyw beth cysylltwch gyda un o’r swyddogion.

Llinellau Cymorth

FarmWell Cymru

 Mae Farm Well Cymru yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf a manylion am wasanaethau cymorth i ffermwyr Cymru, a all eu helpu nhw a'u busnesau fferm i aros yn gryf ac yn gydnerth drwy gyfnodau o newid ac anwadalrwydd.

Wefan: https://farmwell.cymru/

Cronfa Addington

Ffoniwch: 1926 620135

Wefan: https://www.addingtonfund.org.uk/

Sefydliad DPJ 

Ffoniwch:0800 587 4262 neu tecst: 07860 048799

Ebost: contact@thedpjfoundation.com

Wefan: https://www.thedpjfoundation.co.uk/ 

Y Rhwydwaith Cymunedau Fferm

Ffoniwch: 03000 111 999 

Wefan: https://fcn.org.uk/?lang=cy 

Sefydliad Fuddianol Amaethyddol Frenhinol (RABI)

Ffoniwch: 0808 281 9490

E-bost: help@rabi.org.uk

Wefan: https://rabi.org.uk/

Tir Dewi

Ffoniwch: 0800 121 47 22

Wefan: https://www.tirdewi.co.uk/cy/home-welsh/

 
 

GWYBODAETH AM GWLAD

E-Cylchgrawn gan Lywodraeth Cymru yw Gwlad ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a'r rheini sy'n ymwneud ag amaeth yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/ffermio-a-chefn-gwlad

Dilynwch ar Twitter:

@LlCAmgylchFferm

@LIC_Pysgodfeydd