|
|
|
Gan fod y risg o Ffliw Adar wedi’i chynyddu, Rydym wedi cynhyrchu Rhestr wirio hunanasesu bioddiogelwch Parth Atal Ffliw Adar.
|
|
|
Ar 27 Ionawr cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, reoliadau newydd i fynd i’r afael â lefelau annerbyniol parhaus llygredd amaethyddol yng Nghymru. Daw Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 i rym ar 1 Ebrill 2021 gan gynnwys cyfnodau pontio i gyflwyno rhai mesuriadau yn raddol hyd at 1 Awst 2024. Mae'r Rheoliadau'n sefydlu safonau sylfaenol yng Nghymru, sy'n gyffelyb i'r rhai yng ngweddill y DU ac Ewrop ac maent yn gymesur, gan ganolbwyntio ar y ffermydd hynny lle mae'r risg amgylcheddol yn deillio o reoli slyri gwael ar ei uchaf.
|
|
|
Rydym wedi cyhoeddi ymgynghoriad Papur Gwyn sy'n nodi'r cynlluniau ar gyfer cam nesaf y polisi amaethyddol yng Nghymru. Mae'r papur yn gosod y cefndir ar gyfer Bil Amaethyddiaeth (Cymru) a fydd yn cael ei gyflwyno yn nhymor nesaf y Senedd. Mae’n cymryd rhai o’r syniadau a gyflwynwyd gennym yn “Ffermio Cynaliadwy a'n Tir” ac yn adeiladu arnynt, yn dilyn yr ymatebion a gawsom. Rydym yn croesawu eich barn ar hyn ac yn eich annog i ymateb i'r ymgynghoriad.
|
|
|
Mae crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar Ffermio Cynaliadwy a'n Tir: symleiddio cymorth amaethyddol bellach ar gael. Bydd manylion llawn y newidiadau i BPS yn cael eu darparu yng nghanllaw Ffurflen Cais Sengl 2021. Bydd hwn ar gael yn gynnar yn 2021.
|
|
|
Trosglwyddo Hawliau BPS 2021 bellach ar agor
Gall ffermwyr drosglwyddo’u Hawliau BPS trwy eu gwerthu, eu lesio neu drwy ewyllys. Agorodd cyfnod trosglwyddo 2021 ar 4 Ionawr 2021.
Bydd ffurflenni Trosglwyddo Hawliau ar gael ichi eu llenwi ar-lein ar eich cyfrif RPW Ar-lein. Gall gwerth yr hawliau a ddangosir ar eich cyfrif newid. Rhaid ichi roi gwybod inni cyn canol nos 15 Mai 2021 am unrhyw hawliau sydd wedi’u trosglwyddo er mwyn ichi allu hawlio ar yr hawliau a gewch yn 2021.
|
|
|
Mae’r rhan fwyaf o reolau ynghylch Trawsgydymffurfio yn parhau’n berthnasol a heb eu newid ers 2020. Mae rhai taflenni ffeithiau wedi’u diwygio ar gyfer 2021 fodd bynnag. Y rheswm am hyn yw newidiadau mewn gofynion ac arferion da, ac egluro rhywfaint o’r geiriad. Mae newidiadau hefyd i’r Safonau Dilysadwy ynghylch Trawsgydymffurfio ar gyfer 2021 mewn perthynas â dosbarthu achosion o dorri Amodau Amaethyddol ac Amgylcheddol Da (GAEC) a Gofynion Rheoli Statudol.
Dylech wirio ac adolygu rheoliadau ynghylch Trawsgydymffurfio yn rheolaidd.
|
|
|
EIDCymru yw ein gwasanaeth ar-lein am ddim ar gyfer adrodd symudiadau defaid, geifr a cheirw. Gall ceidwaid adrodd symudiadau ar-lein gan ddefnyddio EIDCymru ar-lein 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Gallwch ddefnyddio EIDCymru i:
- adrodd ar symudiadau mewn perthynas â’ch daliad gan ddefnyddio’r swyddogaethau creu symudiad neu dderbyn symudiad
- gweld y cofnodion ynghylch symudiadau ar gyfer anifeiliaid ar eich daliad
- anfon gwybodaeth yn electronig er mwyn datrys unrhyw broblemau
- cwblhau eich stocrestr flynyddol defaid a geifr ar-lein
Cysylltwch â EIDCymru, neu ffôn 01970 636959, os oes angen rhagor o gymorth arnoch.
|
|
|
Daeth y Rheoliadau Adnabod Ceffylau i rym ym mis Chwefror 2019. Maent yn disgrifo cyfrifoldebau ceidwaid, perchnogion neu fridwyr ceffylau. Maent hefyd yn nodi gofyniad i adnabod ceffylau, ebolion, asynnod neu anifeiliaid sy’n perthyn iddynt drwy osod microsglodyn arnynt, yn ogystal â phasbort. Os dymunwch drafod y dyddiad cau hwn, cysylltwch â ni.
|
|
|
Mae Rhestr Wyna'r Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol (NSA) ar gyfer tymor wyna 2020/2021 bellach ar gael. Mae'r Rhestr Wyna yn cysylltu aelodau ffermio defaid yr NSA sydd angen cymorth amser wyna gyda myfyrwyr amaethyddol a milfeddygol sy'n chwilio am leoliad profiad gwaith fel rhan o'u hastudiaethau.
|
|
|
Mae'r Unedau Gorffen Cymeradwy (AFU) bellach yn weithredol. Ym mis Tachwedd 2020 cynhaliwyd marchnad beilot ar gyfer Gwerthiannau Penodol TB. O ganlyniad, o 1 Ionawr 2021, bydd marchnadoedd eraill yn Ardal TB Uchel Cymru yn gallu gwneud cais am gymeradwyaeth i gynnal Arwerthiant Penodol i TB. Bydd hyn am gyfnod o 12 mis ac yn cael ei adolygu wedi hynny.
|
|
|
Mae’r Papur Gwyn Amaethyddiaeth yng Nghymru yn disgrifio’r cynlluniau ar gyfer y newid mwyaf mewn polisi amaeth a fu efallai ers degawdau. Rydym yn cynnig dod â’r Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) a chynlluniau amaeth amgylcheddol eraill yr UE i ben a sefydlu cynllun cymorth uniongyrchol sengl yn eu lle. Bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar eich ffordd o ffermio ac mae’n bwysig ein bod yn clywed eich barn ar y cynigion. Bydd y digwyddiad yma yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau yn uniongyrchol i’r rhai sy’n ymwneud â datblygu’r polisi.
|
|
|
Mae’r cyfnod ar gyfer ymgeisio am gyllid sgiliau Cyswllt Ffermio ar agor nes y 26 Chwefror. Mae cymhorthdal o hyd at 80% ar gael ar gyfer cyrsiau gyda darparwyr hyfforddiant cymeradwy.
|
|
|
Mae'r Panel Annibynnol Adborth Amaethyddiaeth yn cynghori Gweinidogion Cymru ar yr isafswm cyflog amaethyddol a thelerau ac amodau cyflogaeth gweithwyr yn y sectorau amaeth, garddwriaeth a choedwigaeth. Hoffem glywed eich barn a'ch profiadau o'r isafswm cyflog amaethyddol yng Nghymru. Mae'r Isafswm Cyflog Amaethyddol yn ei bumed flwyddyn. Mae'n bwysig sicrhau ei fod yn parhau i gwrdd ag anghenion diwydiant sy'n esblygu. Rydym wedi comisiynu ADAS i gynnal arolwg ar gyflogaeth amaethyddol yng Nghymru. Bydd yr arolwg ar agor tan 31 Ionawr 2021.
|
|
|
Dweud eich dweud ar y ‘Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Defnyddio Plaladdwyr yn Gynaliadwy’. Mae Defra, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon yn holi barn ar y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Defnyddio Plaladdwyr yn Gynaliadwy. Y nod yw lleihau risgiau ac effaith plaladdwyr i iechyd dynol a’r amgylchedd. Ac ar yr un pryd sicrhau fod plâu a ymwrthedd plaladdwyr yn cael eu rheoli’n effeithiol.
|
|
|
Ymadael â’r UE: adnoddau
Gan fod Cyfnod Pontio’r DU bellach wedi dod i ben, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddiweddaru canllawiau ar gyfer busnesau sy’n masnachu â’r UE, a chyda Gogledd Iwerddon. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am y modd y gall eich busnes addasu i’r rheolau masnachu newydd ar gael ar wefan Paratoi Cymru, a hefyd ar Porth Cyfnod Pontio’r UE Busnes Cymru. Cofiwch hefyd ymweld â gwefan https://www.gov.uk/transition sydd bellach yn cynnwys y gwiriwr Brexit a fydd yn rhoi rhestr wedi’i bersonoli o gamau gweithredu ar eich cyfer chi, eich busnes a’ch teulu.
|
|
|
Mae'r UGRGC yn cynorthwyo cyfnewid syniadau rhwng sefydliadau gwledig. Mae ar gael i unrhyw un:
- gyda diddordeb mewn datblygu gwledig
- ymwneud â Chymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a'r cynlluniau y mae'n eu hariannu.
|
|
|
Cymorth un-i-un cyfrinachol. Os ydych angen trafod unrhyw beth cysylltwch gyda un o’r swyddogion.
|
Llinellau Cymorth
FarmWell Cymru
Mae Farm Well Cymru yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf a manylion am wasanaethau cymorth i ffermwyr Cymru, a all eu helpu nhw a'u busnesau fferm i aros yn gryf ac yn gydnerth drwy gyfnodau o newid ac anwadalrwydd.
Wefan: https://farmwell.cymru/
Cronfa Addington
Ffoniwch: 1926 620135
Wefan: https://www.addingtonfund.org.uk/
Sefydliad DPJ
Ffoniwch:0800 587 4262 neu tecst: 07860 048799
Ebost: contact@thedpjfoundation.com
Wefan: https://www.thedpjfoundation.co.uk/
Y Rhwydwaith Cymunedau Fferm
Ffoniwch: 03000 111 999
Wefan: https://fcn.org.uk/?lang=cy
Sefydliad Fuddianol Amaethyddol Frenhinol (RABI)
Ffoniwch: 0808 281 9490
E-bost: help@rabi.org.uk
Wefan: https://rabi.org.uk/
Tir Dewi
Ffoniwch: 0800 121 47 22
Wefan: https://www.tirdewi.co.uk/cy/home-welsh/
|
|