Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

28 Ionawr 2021


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN – Diweddariad Grant ERF a Chyllid Penodol i'r Sector;  Cyflwyno bil newydd i reoli etholiad y Senedd yn ystod y pandemig COVID;  Hawlio’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws;  Y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws: Cyhoeddi gwybodaeth am hawliadau;  Strategaeth Ddigidol i Gymru: Sgiliau Digidol;  Wythnos Prentisiaethau 2021;  Cynllun Gohirio Taliadau TAW – cywiro camgymeriadau;  Un o bob deg gweithiwr yn Nghymru ddim yn deall el hawliau yn y gweithle yn dda;  Coronafeirws (COVID-19): cyngor ar gyfer cyflogwyr a gweithwyr;  Annog pobl i wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE;  Trosglwyddo data personol o’r UE;  Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru;  Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19.


Diweddariad Grant ERF a Chyllid Penodol i'r Sector

Mae'r cyfnod ymgeisio am Grant Penodol i'r Sector yn dal i fod ar agor i gefnogi busnesau Lletygarwch, Twristiaeth a Hamdden a busnesau cadwyn gyflenwi cysylltiedig a effeithiwyd arnynt gan y cyfyngiadau a gyflwynwyd ar 4 Rhagfyr 2020.

Bydd y gronfa'n cau i geisiadau am 12pm fory (Dydd Gwener 29 Ionawr 2021); darganfyddwch os ydych yn gymwys, ac gwnewch gais drwy ddefnyddio'r Gwiriwr Cymhwysedd.

Yn ogystal â'r cyllid sydd ar gael ar hyn o bryd drwy Grant Penodol i'r Sector ERF a Chronfa ERF busnesau dan gyfyngiadau, bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £200 miliwn pellach ar gael i fusnesau y mae cyfyngiadau COVID-19 yn effeithio arnynt i helpu gyda chostau gweithredu.  Bydd rhagor o wybodaeth am y pecyn diweddaraf hwn yn cael ei ddarparu ddydd Gwener, 29 Ionawr 2021 a bydd ar gael ar dudalennau Cymorth i Fusnes Busnes - Busnes Cymru – COVID-19 pan fydd manylion wedi'u cadarnhau.


Cyflwyno bil newydd i reoli etholiad y Senedd yn ystod y pandemig COVID

Mae bil brys wedi cael ei gyflwyno gerbron y Senedd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau y gall etholiad nesaf y Senedd ddigwydd yn ddiogel, er gwaetha’r ffaith bod pandemig y coronafeirws yn parhau.  Mae’r Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) yn cyflwyno cyfres o fesurau i’w gwneud yn haws i’r rheini sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig fwrw pleidlais. 

Cynnal yr etholiad ar 6 Mai 2021, fel y bwriadwyd yn wreiddiol, yw polisi Llywodraeth Cymru, os bydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn caniatáu i hynny ddigwydd. Fodd bynnag, mae polisi Llywodraeth Cymru hefyd yn caniatáu i’r diwrnod pleidleisio gael ei ohirio os na fydd yn ddiogel ei gynnal ar yr adeg honno.  Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Hawlio’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws

Os na wnaethoch chi gyflwyno’ch hawliad ffyrlo mis Rhagfyr erbyn y dyddiad cau ar 14 Ionawr, efallai y bydd CThEM yn barod i’w dderbyn o hyd os oes gennych chi esgus rhesymol am beidio â hawlio erbyn y dyddiad cau, er enghraifft eich bod yn hunanynysu neu wedi gorfod aros yn yr ysbyty’n annisgwyl, a oedd yn golygu nad oeddech chi wedi gallu ei gwblhau.

Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno’ch hawliadau ar gyfer mis Rhagfyr, ond eich bod angen eu newid gan nad oeddech chi wedi hawlio digon, gallwch wneud hyn tan heddiw (Dydd Iau 28 Ionawr 2021).

Gallwch gyflwyno’ch hawliadau ar gyfer cyfnodau ym mis Ionawr yn awr. Mae’n rhaid eu cyflwyno erbyn dydd Llun 15 Chwefror 2021. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Busnes Cymru.


Y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws: Cyhoeddi gwybodaeth am hawliadau

Ar 26 Ionawr 2021, cyhoeddodd CThEM restr o enwau cyflogwyr sydd wedi hawlio’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws am gyfnodau o fis Rhagfyr ymlaen ar GOV.UK.

O fis Chwefror, bydd CThEM yn cyhoeddi’r enwau, gwerth hawliadau a Rhifau Cofrestru Cwmni (i’r rhai sydd gydag un) cyflogwyr sy’n cyflwyno hawliadau’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws am gyfnodau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2020.

Ni fydd manylion cyflogwyr sy’n hawlio drwy’r cynllun yn cael eu cyhoeddi os gallant ddangos y byddai eu cyhoeddi’n arwain at risg ddifrifol o drais neu gael eu bygwth i unigolion, neu’r rhai sy’n byw gyda nhw. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Busnes Cymru.


Strategaeth Ddigidol i Gymru: Sgiliau Digidol

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu Strategaeth Ddigidol newydd i Gymru ac am i chi ein helpu i’w llunio. Mae’r blog olaf yn ymwneud â datblygu sgiliau i bobl ffynnu yn y byd digidol ac yn y gweithle. Am fwy o fanylion, ewch i wefan Blog Digidol a Data Llywodraeth Cymru.


Wythnos Prentisiaethau 2021

Cynhelir Wythnos Prentisiaethau rhwng 8 a 14 Chwefror 2021. Mae'n ddathliad blynyddol o brentisiaethau, a'r gwerth y maent yn ei roi i gyflogwyr a dysgwyr, ar draws Cymru. Mae prentisiaethau yn caniatáu i fusnesau recriwtio talent newydd, sy’n awyddus i ddysgu, gan lenwi bylchau sgiliau mewn ffordd gosteffeithiol a galluogi dysgwyr, o bob oed, i wella eu sgiliau. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Cynllun Gohirio Taliadau TAW – cywiro camgymeriadau

Os ydych chi’n sylwi ar gamgymeriad ar ffurflen TAW sy’n gysylltiedig â’r cyfnod a gwmpesir gan y Cynllun Gohirio Taliadau TAW, dylech anfon ffurflen VAT652 at CThEM cyn gynted â phosibl.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Un o bob deg gweithiwr yn Nghymru ddim yn deall el hawliau yn y gweithle yn dda

Yn ôl ymchwil diweddar gan YouGov, nid oes gan un o bob deg gweithiwr a atebodd yr arolwg yng Nghymru yn deall ei hawliau yn y gweithle yn dda. Mae’r arolwg, a gomisiynwyd gan TUC Cymru, wedi tynnu sylw at y prif feysydd lle’r oedd gweithwyr naill ai ddim yn deall eu hawliau yn y gweithle, neu’n pryderu amdanynt. Roedd 41 y cant o’r gweithwyr a ymatebodd i’r arolwg yn pryderu am gyflog teg, roedd 30 y cant yn pryderu am iechyd a diogelwch yn y gweithle a 27 y cant am yr hyblygrwydd sy’n cael ei gynnig yn y gweithle.

Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth, mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno â phartneriaid cymdeithasol, sef TUC Cymru, y Ffederasiwn Busnesau Bach, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, Siambrau Cymru a phartneriaid allweddol eraill, ACAS a Cyngor ar Bopeth er mwyn cyflwyno ymgyrch ar y cyd i gynyddu ymwybyddiaeth o’r cymorth  sydd ar gael i weithwyr a busnesau gan weithlu arbenigol.

Anogir cyflogwyr hefyd i geisio cael cymorth a chyngor drwy ddod yn aelodau o sefydliadau sy’n cynrychioli busnesau. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Busnes Cymru.


Coronafeirws (COVID-19): cyngor ar gyfer cyflogwyr a gweithwyr

Mae Acas yn rhoi cyngor diduedd am ddim i gyflogwyr a gweithwyr ar hawliau, rheolau ac arferion gorau yn y gweithle. Maent wedi llunio canllawiau i helpu busnesau yn ystod y pandemig coronafeirws ar bynciau amrywiol, gan gynnwys y canlynol:

  • Gweithio’n ddiogel
  • Ffyrlo a chyflog

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Annog pobl i wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Gyda llai na 6 mis hyd ddyddiad cau gwneud cais am y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar 30 Mehefin 2021, anogir dinasyddion Ewrop i wneud cais nawr i sicrhau eu hawliau yng nghyfraith y DU. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Trosglwyddo data personol o’r UE

Mae’r DU a’r UE wedi cytuno ar gytundebau pontio i alluogi i ddata personol lifo’n rhwydd o’r UE i’r DU fel rhan o gytundeb masnach Brexit. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru

Gweler isod yr ymgynghoriad diweddaraf. Mae ymgynghoriad yn rhoi cyfle i chi ddweud eich dweud ar ddatblygiadau newydd gan Lywodraeth Cymru.

Ewch i'r ardal ymgynghori ar wefan Llywodraeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19)


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram