Diweddariad Grant ERF a Chyllid Penodol i'r Sector
Mae'r cyfnod ymgeisio am Grant Penodol i'r Sector yn dal i fod ar agor i gefnogi busnesau Lletygarwch, Twristiaeth a Hamdden a busnesau cadwyn gyflenwi cysylltiedig a effeithiwyd arnynt gan y cyfyngiadau a gyflwynwyd ar 4 Rhagfyr 2020.
Bydd y gronfa'n cau i geisiadau am 12pm ddydd Gwener 29 Ionawr 2021; darganfyddwch os ydych yn gymwys, ac gwnewch gais drwy ddefnyddio'r Gwiriwr Cymhwysedd.
Yn ogystal â'r cyllid sydd ar gael ar hyn o bryd drwy Grant Penodol i'r Sector ERF a Chronfa ERF busnesau dan gyfyngiadau , bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £200 miliwn pellach ar gael i fusnesau y mae cyfyngiadau COVID-19 yn effeithio arnynt i helpu gyda chostau gweithredu.
Bydd rhagor o wybodaeth am y pecyn diweddaraf hwn yn cael ei ddarparu ddydd Gwener, 29 Ionawr 2021 a bydd ar gael ar dudalennau Cymorth i Fusnes Busnes Busnes Cymru – Covid-19 pan fydd manylion wedi'u cadarnhau.
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|