Newyddlen Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

19 Ionawr 2021

 
  190121 FDWIB Header W

Ar ddechrau blwyddyn newydd, mae'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru'n parhau i wynebu pwysau a sialensiau aruthrol, ond rhaid i ni gofio ei bod yn anochel y bydd yna gyfleoedd hefyd, er gwaethaf pa mor bell i ffwrdd mae'r rheiny'n ei deimlo ar hyn o bryd.

 

Rydyn ni'n deall bod y cyfyngiadau sy'n angenrheidiol i reoli ton ddiweddaraf pandemig y coronafeirws yn taro'r busnesau bwyd a diod hynny sy'n cyflenwi'r byd lletygarwch galetaf, ac rydyn ni'n parhau i wasgu am becynnau cymorth ar gyfer y busnesau hynny sy'n dioddef waethaf gyda'n cydweithwyr o fewn y Llywodraeth.

FDWIB - Andy Richardson

Mae'r DU bellach wedi ymadael â'r UE, a bydd hyn yn sicr o effeithio ar gynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru. Yr ystyriaethau allweddol yw'r bobl hynny sy'n allforio i Ewrop a Gogledd Iwerddon, a'r rhai sy'n mewnforio. Bydd sicrhau bod eich busnes wedi mapio newidiadau ac atebolrwydd yn y meysydd hyn, a bod ganddo'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Llywodraeth ar flaen ei fysedd, yn golygu bod busnesau bwyd a diod yn llai tebygol o wynebu oedi ac anawsterau. Mewn sawl ffordd, mae hi'n siwrnai o ddysgu i ni gyd.

Mae Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru yma i helpu trwy ddeall beth sydd ei hangen fwyaf arnoch chi, ein cydweithwyr yn y diwydiant, ar yr adeg yma, boed hynny'n wybodaeth, yn arweiniad neu'n gyngor, yn ogystal â gweithredu fel dolen gyswllt i'r llywodraeth. Gall busnesau bwyd a diod gyrchu hunanasesiadau a chynghorion wedi eu teilwra am effaith ymadael â'r UE. I wneud cais am ddiagnosteg gan brosiect Cywain, e-bostiwch: cywain@menterabusnes.co.uk

Er y cytunwyd ar gytundeb masnach cychwynnol rhwng y DU a'r UE, megis dechrau mae'r trafodaethau o ran cytundebau masnach estynedig y tu hwnt i'r UE.  Fel rydw i wedi ei ddweud o'r blaen, rhaid i ni fel diwydiant fod yn glir ynghylch beth rydyn ni am ei gael o'r trafodaethau hynny, a gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed. A dyma lle mae cyfle i ni - mae ein diwydiant bwyd a diod yn neilltuol, a gall gystadlu ar lwyfan fyd-eang os ydyn ni'n meddwl yn ddoeth ac yn cadw'n hyblyg.

Os hoffech chi gysylltu â fi'n uniongyrchol i drafod y materion y mae'ch busnes neu'ch sector yn eu hwynebu, e-bostiwch Chair.FDWIB@llyw.cymru

Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Y newyddion am Covid-19 a diwedd Cyfnod Pontio'r UE i fusnesau bwyd a diod

190121 FDWIB Latest

Y newyddion diweddaraf o'r diwydiant

190121 FDWIB News

Camau allweddol diweddar gan y Bwrdd

231020 FDWIB Board
  • Cynhaliodd y Bwrdd gyfarfod strategaeth a chynllunio ar gyfer 2021 a'r tu hwnt, a thrafodaethau ynghylch rôl y Bwrdd wrth barhau i helpu diwydiant Bwyd a Diod Cymru i dyfu.
  • Cynhaliwyd cyfarfod ar Gytundeb Masnach a Chydweithredu'r UE-DU er mwyn deall y materion sy'n bwysig i'n diwydiant a pha gamau y dylai'r Bwrdd a Llywodraeth Cymru fod yn eu cymryd. Rydyn ni'n defnyddio'r wybodaeth yma i lobïo am weithredu ar faterion nad ydynt wedi eu datganoli yn San Steffan ac er mwyn i Gymru fod â llais ar draws y DU.
  • Cynhaliodd y Bwrdd sesiwn ar y trafodaethau masnach sydd ar y gweill rhwng y DU a gweddill y byd, ac effaith hyn a'r cyfleoedd i Gymru.
  • Mae'r Bwrdd yn rhannu dolenni at wybodaeth, cefnogaeth a phecynnau cymorth trwy Twitter a LinkedIn.

Cadwch mewn cysylltiad am ddiweddariadau ar Twitter a LinkedIn Ymunwch â'n Grŵp Facebook i rannu gweithluoedd. Cysylltwch â ni trwy e-bost yn Chair.FDWIB@llyw.cymru

 
 
 

AMDANOM NI

Y newyddion diweddaraf, gwybodaeth a chymorth i sector bwyd a diod Cymru, gan Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@FoodDrinkWIB

 

Dilynwch ni ar LinkedIn:

Food and Drink Wales Industry Board

 

Dilynwch ni ar Facebook:

Welsh food and drink workforce collaboration