Mae Llywodraeth y DU a’r UE wedi dod i gytundeb ar eu perthynas ar gyfer y dyfodol. Mae’r ffordd y byddwch yn masnachu â’r UE wedi newid ac mae nifer o ystyriaethau newydd y bydd yn rhaid ichi eu cadw mewn cof. Gallwch ddysgu mwy am y newidiadau hyn a’r hyn sydd angen ichi ei wneud nawr ar fyrder, isod.
Ewch i wefan ‘busnesau bwyd a diod – gweithio gyda’r UE’ (Saesneg yn unig) ar LLYW.DU i weld yr holl wybodaeth ddiweddaraf wedi’i chrynhoi yn yr un lle.
Rheolau Tarddiad ar gyfer nwyddau sy’n symud rhwng y DU a’r UE (Saesneg yn unig)
Rheolau Tarddiad (ROO) yw’r meini prawf a ddefnyddir i benderfynu lle y mae cynnyrch wedi’i gynhyrchu (e.e. Prydain, UE).
Os ydych chi’n mewnforio neu’n allforio, mae angen ichi wybod am y rheoliadau newydd, oherwydd y gallai cyfraddau tariff gwahanol fod yn gymwys, gan ddibynnu ar ddynodiad eich cynnyrch.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau manwl ar y gofynion newydd o dan gytundeb y DU gyda’r UE (y Cytundeb Masnach a Chydweithredu) (Saesneg yn unig).
Mae rhagor o wybodaeth am hawlio cyfraddau ffafriol ar dollau ar nwyddau a gwmpesir yn y cytundeb (Saesneg yn unig) ac ar ddatgan nwyddau a fewnforir i'r DU ar eich datganiad mewnforio (Saesneg yn unig) hefyd ar wefan LLYW.DU.
Masnachu Trawsffiniol (Porthladdoedd)
Mae angen i fusnesau sydd wedi’u lleoli ym Mhrydain Fawr ddilyn rheolau newydd ar gyfer masnachu â’r UE, gan gynnwys prosesau ychwanegol ar gyfer symud nwyddau drwy borthladdoedd.
Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am symud nwyddau drwy borthladdoedd Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro ar wefan Paratoi Cymru.
Ar gyfer masnach rhwng Prydain Fawr ac Iwerddon, mae rhagor o wybodaeth am greu hysbysiad gofynnol cyn byrddio (PBN) i gludwyr (Saesneg yn unig) a Gwasanaeth Tollau Gyrru i Mewn ac Allan (RoRo Service) (Saesneg yn unig) Cyllid Iwerddon.
Mae’r prosesau ar gyfer symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon hefyd wedi newid. I sicrhau parhad busnes yn benodol yn y maes hwn, dylech gofrestru ar gyfer Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr (Saesneg yn unig) Llywodraeth y DU.
Mae rhagor o ganllawiau ar fasnachu drawsffiniol â’r UE ar wefan Busnes Cymru.
Blaenoriaethu yng Nghaint
Fel mesur wrth gefn pe bai problemau difrifol yng Nghaint, cytunodd Llywodraeth y DU y byddai Cerbydau Nwyddau Trwm sy’n cario allforion penodol yn cael eu blaenoriaethu drwy giwiau ‘Operation Brock’ yng Nghaint.
Caiff Cerbydau Nwyddau Trwm sy’n cario cywion diwrnod oed neu lwythi sengl o fwyd môr byw a/neu ffres i’w fwyta gan bobl osgoi cyfyngiadau traffig rhwng Cyffordd 8 a 9 ar yr M20, yn hytrach na defnyddio’r gwrthlif i fynd ymlaen i Borthladd Dover a therfynfa’r ‘Eurotunnel’.
Mae gwybodaeth ar gludo bwyd môr ffres a byw neu gywion diwrnod oed i’r UE (Saesneg yn unig) ar wefan LLYW.DU, a bydd yn cael ei diweddaru os bydd ‘Operation Brock’ yn mynd rhagddo.
Mae canllawiau ar allforio da byw i'r UE, allforio ceffylau (Saesneg yn unig) a gwneud cais am Dystysgrifau Iechyd Allforio (Saesneg yn unig) hefyd ar gael ar-lein.
Ewch i hwb ymadael â’r UE (Saesneg yn unig) sy’n benodol ar gyfer y sector bwyd-amaeth. Mae’r Ffederasiwn Bwyd a Diod, ynghyd â 50 o gyrff masnach eraill, yn cyfrannu at y wefan, sy’n darparu gwybodaeth am yr hyn a fydd yn newid ar 1 Ionawr 2021.
Mae gweminarau parodrwydd masnachwyr DEFRA bellach ar gael i’w gwylio ar-lein:
Ystyriwch ymuno ag un o Grwpiau Clwstwr Llywodraeth Cymru
Cadw bys ar byls
Tanysgrifiwch ar gyfer gwasanaeth HMRC i gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy e-bost yn rhad ac am ddim – dewiswch ‘Sign up to help and support emails from HMRC’ (Saesneg yn unig).
Tanysgrifiwch i gael cylchlythyr Diwydiant Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru
|