Cyfle i gael cyllid ar gyfer eich syniadau datgarboneiddio arloesol
Gall busnesau cymwys wneud cais am hyd at £50,000 o raglen SMART Cymru, sy’n cael ei hariannu gan yr UE, i edrych ar syniadau datgarboneiddio i weld a ydynt yn rhai dichonol ai peidio.
Os yw’ch busnes am ymchwilio i weld a oes modd troi syniadau datgarboneiddio yn gynhyrchion, yn brosesau neu’n wasanaethau newydd, gallwch wneud cais am grant, nad oes angen ei ad-dalu, a fydd yn talu hyd at 70% o'r costau dichonoldeb.
Mae hon yn alwad gystadleuol a fydd yn cau ar 31 Ionawr.
Ymgeisiwch heddiw
|
|
 |
 |
|
Busnesau'n elwa ar arloesedd sy’n cael ei sbarduno gan ddata
Mae'r Cyflymydd, sydd â’i ganolfan ym Mhrifysgol Caerdydd, yn helpu busnesau bach a chanolig i gymhwyso gwyddor data i’w helpu i gryfhau ac i dyfu.
Dysgwch sut y gall y cyllid hwn, a ddarperir gan yr UE ac sy’n cael ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru, eich helpu i ddefnyddio'ch data'n well.
Rhagor o wybodaeth yma
|
Ydych chi’n elwa i’r eithaf ar eich Eiddo Deallusol?
Mae Swyddfa Eiddo Deallusol y DU, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, yn darparu adolygiadau â chymhorthdal o asedau Eiddo Deallusol BBaCh – hawlfraint, dyluniadau, nodau masnach neu batentau.
Os oes angen i chi bennu hawliau o ran Eiddo Deallusol sy’n bodoli o fewn eich busnes neu os hoffech elwa mwy ar yr hawliau sydd gennych eisoes, bydd Arbenigwr annibynnol ar Eiddo Deallusol yn gallu awgrymu sut y gallwch wella eich arferion ar gyfer rheoli Eiddo Deallusol.
Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol yn talu dros 80% o gost yr archwiliad. I gael rhagor o wybodaeth a chadarnhau bod eich cwmni’n bodloni’r meini prawf cymhwystra cysylltwch â Innovation@gov.wales.
Contractau wedi eu dyfarnu i fusnesau
Ym mis Tachwedd 2020, lansiwyd dwy her SBRI mewn ymateb i her barhaus pandemig Covid-19 – Her Bywydau Gwell yn Nes at y Cartref a Her Masgiau Wyneb. Cafwyd ymateb gwych i'r galwadau, gydag 83 o brosiectau wedi'u cyflwyno, llawer ohonynt gan gwmnïau o Gymru. Yn dilyn asesiad, dyfarnwyd contractau ar gyfer y ddwy her, gyda pump prosiect yn cael eu datblygu ar gyfer yr Her Bywydau Gwell yn Nes at y Cartref a chwech ar gyfer yr Her Masgiau Wyneb.
Darllenwch fwy am y prosiectau llwyddiannus yma
Ymchwil Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi (IACW) ar ddau brosiect ymchwil i arwain strategaeth arloesi newydd. Bydd hyn yn helpu gyda’r gwaith o gynllunio ar gyfer dyfodol lle mae Cymru yn parhau i groesawu arloesi ym meysydd busnes, addysg, diwydiant ac ar draws ein cymdeithas. Yr ymchwil hon fydd y man cychwyn i Lywodraeth Cymru gynnwys rhanddeiliaid yn y gwaith o ddatblygu’r strategaeth newydd, felly, byddwch yn barod am gyfleoedd i gyfrannu’n hwyrach eleni.
Mae rhagor o wybodaeth am IACW yma
Cohes3ion
Mae Cymru'n croesawu partneriaid o bob rhan o Ewrop yn rownd derfynol cyfres o rith-deithiau dysgu i hyrwyddo arloesedd ac i gynyddu ffyniant. Darllenwch fwy am y Daith Ddysgu yma
Yn ystod cam cyntaf y prosiect cyhoeddwyd y Ddogfen Dysgu Polisi. Mae’r ddogfen yn tynnu sylw at ganlyniadau'r ymarfer Mapio Tiriogaethol Deallus (STM), lle cynhaliodd partneriaid o bob rhan o Ewrop ddiagnosis o'u Strategaethau Arbenigo Craff i baratoi ar gyfer datblygu a Gweithredu Cynlluniau Gweithredu Rhanbarthol yng ngham nesaf y prosiect.
Darllenwch yr adroddiad yma
Pum busnes o Gymru ar y rhestr Tech Nation o Sêr y Dyfodol
Mae’r cwmnïau sydd wedi dod i’r brig yn rhanbarthol yng Nghystadleuaeth Sêr y Dyfodol Tech Nation wedi cael eu cyhoeddi. Darllenwch fwy am y pum enillydd o Gymru – Immersity, Iungo Solutions, Nightingale, Tendertec, a Yoello.
Gŵyl Technoleg Ddatblygol 2021
26 – 28 Ionawr 2021
Bydd y digwyddiad hwn, a fydd yn cael ei gynnal dros dri diwrnod, yn arddangos rhywfaint o'r dechnoleg fwyaf cyffrous sydd ar gael yng Nghymru a thu hwnt. Bydd yn cynnig arweiniad ar agweddau ystyrlon, ac yn gyfle i feithrin cysylltiadau gwerthfawr ac i weld datblygiadau newydd arloesol sy’n torri tir newydd. Bydd y rhith-ddigwyddiad hwn yn dangos sut mae’r sector technoleg arloesol yn gweddnewid bywydau a diwydiannau. O ficrofusnesau i gorfforaethau rhyngwladol, mae gan yr Ŵyl Technoleg Ddatblygol rywbeth i’w gynnig i bawb.
Gwelwch y rhaglen a chofrestrwch yma
Cymhorthfa Ar-lein ar Gyllid Arloesi
Mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd ag Innovate UK, y Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth a Rhwydwaith Menter Ewrop, yn cynnal Cymhorthfa ar Gyllid Arloesi er mwyn helpu detholiad o gwmnïau o Gymru i baratoi eu hunain yn well ar gyfer:-
- cael gafael ar gyllid ymchwil a datblygu
- cynnal Prosiectau Ymchwil a Datblygu mwy effeithiol
- masnacheiddio'r canlyniadau
10 Chwefror 2021, 10:00 - 17:00
Cliciwch yma i gofrestru
|