Bwletin Newyddion: Grant £180 miliwn ar gyfer y Sector Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth yn agor yfory (Dydd Mercher); Cyhoeddi cynllun brechu Covid newydd

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

12 Ionawr 2021


BW update

Grant £180 miliwn ar gyfer y Sector Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth yn agor yfory (Dydd Mercher)

Bydd pecyn Cronfa Cadernid Economaidd diweddaraf Llywodraeth Cymru gwerth £180 miliwn i gwmnïau yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau coronafeirws ar agor ar gyfer ceisiadau o 12 ddydd Mercher 13 Ionawr. 

Mae’r cyllid, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, yn rhan o becyn cymorth byw gwerth £450 miliwn y gall y sector lletygarwch, hamdden a thwristiaeth yn ogystal â’u cadwyni cyflenwi ei ddefnyddio a bydd yn rhoi cefnogaeth hanfodol i filoedd o gwmnïau yr effeithwyd arnynt gan y cyfyngiadau lefel 3 a 4.  Mae’r £180 miliwn yn ychwanegol i becyn cymorth gwerth £270 miliwn i fusnesau sy’n talu ardrethi annomestig, sy’n cynnwys busnesau manwerthu dianghenraid, a chaiff ei ddarparu gan Awdurdodau Lleol. 

Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif, gyda’r pecyn cymorth, gallai busnes lletygarwch yng Nghymru gyda’r hyn sy’n cyfateb â chwech staff llawn-amser fod yn gymwys i dderbyn cyfanswm o rhwng £12,000 a £14,000, gan ei wneud y cynnig mwyaf hael yn y DU.   

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi: “Mae y cynnydd yn y cyfraddau coronafeirws yn golygu y bu’n rhaid inni wneud penderfyniadau anodd ond angenrheidiol i warchod ac arbed bywydau pobl.  Rydyn ni’n gwybod bod y penderfyniadau hyn yn cael effaith ar ein busnesau a does dim amheuaeth bod y cyfyngiadau diweddaraf yn golygu heriau real iawn i gwmnïau sydd eisoes wedi gorfod delio gyda chymaint.   

“Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud popeth y gallwn i warchod ein busnesau yn ystod y cyfnod heriol iawn yma.  Mae ein pecyn cymorth yr un mwyaf hael yn y DU ac ers dechrau’r pandemig mae dros £1.6 biliwn o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru wedi cyrraedd busnesau. 

“Mae nifer o fusnesau lletygarwch, twristiaeth, hamdden a manwerthu dianghenraid eisoes wedi derbyn taliadau o £3,000 neu £5,000 yn y mis diwethaf a bydd y cyllid ychwanegol hwn yn hollol hanfodol i gefnogi busnesau cymwys drwy’r wythnosau anodd o’n blaenau.” 

Mae’r swm y gall gwmni ei hawlio o’r gronfa benodol i’r sector gwerth £180 miliwn yn cael ei gyfrifo ar sail nifer y staff a throsiant.  Mae disgwyl i’r gronfa gefnogi hyd at £8,000 o gwmnïau lletygarwch, twristiaeth a hamdden y mae’r cyfyngiadau yn cael effaith arnyn nhw a 2,000 arall o bosibl mewn cadwyni cyflenwi cysylltiedig.    

Bu gwiriwr cymhwysedd a chyfrifiwr yn fyw ar Busnes Cymru ers mis Rhagfyr i helpu busnesau weithio allan cyfsanswm y cymorth y gallant ddisgwyl bod yn gymwys amdano a’r manylion y bydd ei angen arnynt i wneud cais.   Rhoddwyd rhagor o gyfarwyddiadau hefyd yr wythnos ddiwethaf.

Ers diwedd Hydref yn unig, cafodd dros 69,000 o gynigion o gymorth gwerth dros £230 miliwn ei wneud i fusnesau ledled Cymru drwy Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru.     

Mae cymorth Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwarchod dros 125,000 o swyddi allai fod wedi eu colli fel arall.

Meddai yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwrisitaeth:  “Rydyn ni’n gwbl ymwybodol, drwy ein grŵp rhanddeiliaid lletygarwch yn benodol, o effaith y cyfyngiadau fu’n rhaid inni eu gosod.  Nid oedd hwn y cyfnod Nadolig yr oedden ni wedi obeithio amdano, ond hoffwn annog busnesau i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael. 

“Byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i gefnogi ein cwmnïau a’n pobl i ochr arall y pandemig ofnadwy hwn.” 

Mae rhagor o wybodaeth a manylion sut i wneud cais ar gyfer y pecyn cymorth busnes ar gael ar wefan Busnes Cymru.  Bydd y gronfa yn pahrau i fod ar agor am bythefnos neu tan i’r cyllid gael ei ymrwymo’n llawn. 


Cyhoeddi cynllun brechu Covid newydd

Bydd yr holl oedolion cymwys yn cael cynnig brechlyn Covid erbyn yr hydref, o dan gynlluniau uchelgeisiol a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru.

Daw wrth i'r ffigurau diweddaraf ddangos bod dros 86,000 o bobl wedi cael y brechlyn. Bydd Cymru yn awr yn cyhoeddi ffigurau brechlynnau dyddiol.

Mae Strategaeth Frechu COVID-19 yn nodi tair carreg filltir allweddo:

  • Erbyn canol mis Chwefror – holl breswylwyr a staff cartrefi gofal; staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; bydd pawb dros 70 oed a phawb sy'n eithriadol agored i niwed yn glinigol wedi cael cynnig brechlyn.
  • Erbyn y gwanwyn – bydd brechlyn wedi'i gynnig i'r holl grwpiau blaenoriaeth cam un eraill. Mae hyn yn bawb dros 50 oed a phawb sydd mewn perygl oherwydd bod ganddynt gyflwr iechyd sylfaenol.
  • Erbyn y hydref – bydd brechlyn wedi'i gynnig i bob oedolyn cymwys arall yng Nghymru, yn unol ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI).

Yn dibynnu ar cyngor pellach gan JCVI gall tua 2.5m o bobl ledled Cymru cael cynnig brechlynnau Covid erbyn mis Medi. Mae'r cynllun yn dibynnu ar gyflenwadau digonol a rheolaidd o'r brechlynnau yn cael eu dosbarthu.

Darllenwch y cyhoeddiad llawn ar Llyw.Cymru.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram