|
|
Gweminarau
Mae gan Defra weminarau ar baratoi masnachwyr ar gael ichi eu gwylio ar-lein|:
|
Sut i gael rhif EORI Prydain Fawr
Bydd angen rhif EORI arnoch i gwblhau’ch datganiadau i’r tollau. Cofrestrwch am ddim trwy fynd ar www.gov.uk/cael-rhif-eori.
Penderfynu sut ydych am wneud eich datganiadau i’r tollau
Gall swyddogion y tollau, danfonwyr nwyddau a chwmnïau cludo cyflym eich helpu â’r datganiadau a sicrhau’ch bod yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol.
A yw’r nwyddau rydych yn eu mewnforio yn gymwys o dan y rheolau gohiriedig
Bydd y rhan fwyaf o fasnachwyr sydd wedi cydymffurfio yn y gorffennol yn cael gohirio datgan mewnforion ar y rhan fwyaf o nwyddau am hyd at 6 mis ar ôl 1 Ionawr 2021.
Os byddwch yn symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, gallwch gofrestru i ddefnyddio’r Trader Support Service (TSS).
Labelu bwyd a’r rheolau ar darddiad
Dysgwch ragor am labelu bwyd(Asiantaeth Safonau Bwyd).
Darllenwch am reolau a logos cynlluniau Dynodiadau Daearyddol annibynnol newydd y Deyrnas Unedig, sy’n rhoi statws arbennig i gynnyrch poblogaidd a thraddodiadol.
Y canllawiau diweddaraf am reolau tarddiad.
Cyflogi staff o’r tu allan i’r UE
Dysgwch am y rheolau a'r trefniadau newydd o 1 Ionawr 2021 yma.
Hefyd
Mae ymgynghoriad wedi’i lansio yng Nghymru a Lloegr, yn gofyn am eich barn am roi'r gorau i allforio anifeiliaid byw ar gyfer eu lladd a'u pesgi lle bo'r daith yn dechrau neu'n mynd trwy'r naill wlad neu'r llall (dyddiad cau: 28 Ionawr 2021)
Y newyddion diweddaraf
Tanysgrifiwch i Gwlad, taflen newyddion Llywodraeth Cymru a chylchlythyr y Diwydiant Bwyd a Diod.
|
|
Cymorth un-i-un cyfrinachol. Os ydych angen trafod unrhyw beth cysylltwch gyda un o’r swyddogion.
|
Llinellau Cymorth
FarmWell Cymru
Mae Farm Well Cymru yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf a manylion am wasanaethau cymorth i ffermwyr Cymru, a all eu helpu nhw a'u busnesau fferm i aros yn gryf ac yn gydnerth drwy gyfnodau o newid ac anwadalrwydd.
Wefan: https://farmwell.cymru/
Cronfa Addington
Ffoniwch: 1926 620135
Wefan: https://www.addingtonfund.org.uk/
Sefydliad DPJ
Ffoniwch:0800 587 4262 neu tecst: 07860 048799
Ebost: contact@thedpjfoundation.com
Wefan: https://www.thedpjfoundation.co.uk/
Y Rhwydwaith Cymunedau Fferm
Ffoniwch: 03000 111 999
Wefan: https://fcn.org.uk/?lang=cy
Sefydliad Fuddianol Amaethyddol Frenhinol (RABI)
Ffoniwch: 0808 281 9490
E-bost: help@rabi.org.uk
Wefan: https://rabi.org.uk/
Tir Dewi
Ffoniwch: 0800 121 47 22
Wefan: https://www.tirdewi.co.uk/cy/home-welsh/
|