Newyddlen Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

18 Rhagfyr 2020

 
  181220 FDWIB Header W

Wrth i ni nesáu at ddiwedd 2020 ac edrych ymlaen at y flwyddyn newydd, mae hi'n glir fod y diwydiant bwyd a diod yn dal i wynebu sialensiau mawr.

 

Mae llawer o fusnesau lletygarwch eisoes ar gau o ganlyniad i'r cyfyngiadau cyfredol, ac mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi y daw cyfyngiadau lefel uwch i rym i ffrwyno lledaeniad cyflym y coronafeirws ledled Cymru, gan adael llawer o fusnesau heb eu hincwm Nadolig arferol, ac yn wynebu ansicrwydd at y dyfodol.

FDWIB - Andy Richardson

Ynghyd ag effaith y cyfyngiadau hynny, daw cyfnod pontio'r DU wrth ymadael â'r UE i ben ar 31 Rhagfyr, ac fel y mae pethau'n sefyll ar hyn o bryd, mae'r trafod a'r negodi dros gytundeb masnachu yn sgil Brexit yn parhau.

Fel llais y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, ein rôl ni fel Bwrdd yw cadw mewn cysylltiad â busnesau, tynnu sylw'r Llywodraeth at sialensiau a chyfleoedd, a helpu i ddylanwadu ar y trafodaethau am gytundeb masnach er mwyn sicrhau bod buddiannau Cymru'n cael eu hamddiffyn a'n bod ni'n gweld manteision tymor hir go iawn. Er mwyn gwneud hyn, rhaid i bob un ohonom gadw'n wybodus bob amser, a sicrhau bod y llywodraeth a chynrychiolwyr y diwydiant yng Nghymru'n cyfleu cyfraniadau gwerthfawr a deallus i'r bobl hynny yn San Steffan sy'n gyfrifol am negodi'r cytundebau masnach yma. Mae'r siwrnai'n un hir, ac er ein bod ni'n gwerthfawrogi'r holl waith caled a gyflawnwyd i sicrhau cytundebau masnach treigl, rhaid i ni gofio ein bod ond megis dechrau’r trafodaethau hirach ar gytundebau masnach a fydd yn dechrau yn y flwyddyn newydd. Fel diwydiant, rhaid i ni fod yn glir ynghylch beth rydyn ni am ei chael allan o'r trafodaethau hynny, a gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed.

Rydyn ni'n deall bod llawer o fusnesau'n wynebu trafferthion yn sgil effeithiau Covid-19, ond byddwn ni'n  parhau i bwysleisio pwysigrwydd paratoi ar gyfer 2021 a sicrhau bod y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru'n barod ar gyfer y sialensiau. Er nad yw hi'n hawdd gwneud hynny ar hyn o bryd, mae angen hefyd i ni ganolbwyntio ar y cyfleoedd a fydd yn codi yn y 'byd newydd ar ôl Brexit'.

Os hoffech chi gysylltu â fi'n uniongyrchol i drafod y materion y mae'ch busnes neu'ch sector yn eu hwynebu, e-bostiwch Chair.FDWIB@llyw.cymru. Nawr yw'r amser i weithio gyda'n gilydd, codi unrhyw bryderon a chynnig atebion er mwyn sicrhau llwyddiant a chynaliadwyedd parhaus y diwydiant.

Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Y newyddion am Covid-19 a diwedd Cyfnod Pontio'r UE i fusnesau bwyd a diod

181220 FDWIB Latest

Y newyddion diweddaraf o'r diwydiant

181220 FDWIB News

Camau allweddol diweddar gan y Bwrdd

231020 FDWIB Board
  • Mae Cadeirydd y Bwrdd yn parhau i fonitro datblygiad y trafodaethau masnach ac i gyfarfod â chynrychiolwyr y Llywodraeth yng Nghymru a San Steffan er mwyn helpu i sicrhau bod pawb yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at y trafodaethau ac yn gweld manteision go iawn wrth i'r cytundebau esblygu.
  • Cafodd y Bwrdd ddiweddariad ar ddatblygiad ymgyrch Marcomms dros Werthoedd Brand Cynaliadwy yn 2021.
  • Cafodd y Bwrdd gyfarfod â threfnwyr BlasCymru/TasteWales 2021 am y gynhadledd a fydd yn cael ei chyflwyno ar fformat digidol a chorfforol, ac a gaiff ei ffrydio'n fyw o Ganolfan Gynadledda Ryngwladol (ICC) y Celtic Manor yng Nghasnewydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn nesaf.
  • Mae'r Bwrdd yn gweithio gyda'r Clystyrau i ddyrannu aelod o'r Bwrdd i bob grŵp clwstwr unigol ar gyfer 2021.
  • Rhoddodd aelod o'r Bwrdd, Rhian Hayward, gyflwyniad ar y cyfleusterau a'r arbenigedd sydd gyda'r gorau yn y byd sydd ar gael i'r sector bwyd a diod ar gampws ArloesiAber. Mae hwn yn gyfle go iawn ar gyfer ein diwydiant.
  • Mae'r Bwrdd yn dal i weithio ar y cynllun cyflawni ar gyfer strategaeth adfer yn sgil Covid-19 gyda ffocws ar unarddeg o bynciau allweddol, gan gynnwys gwybodaeth am y farchnad, cyngor busnes, gwerthu ar lein, cynhyrchiant a dycnwch busnes, rheoli risgiau, ychwanegu gwerth, cyllid fforddiadwy, achrediad y diwydiant, cynllun manwerthu, modelau busnes cynaliadwy wrth fasnachu'n rhyngwladol a datblygu sgiliau newydd.
  • Mae'r Bwrdd yn parhau i rannu dolenni at wybodaeth, cefnogaeth a phecynnau cymorth trwy Twitter a LinkedIn.

Cadwch mewn cysylltiad am ddiweddariadau ar Twitter a LinkedIn Ymunwch â'n Grŵp Facebook i rannu gweithluoedd. Cysylltwch â ni trwy e-bost yn Chair.FDWIB@llyw.cymru

 
 
 

AMDANOM NI

Y newyddion diweddaraf, gwybodaeth a chymorth i sector bwyd a diod Cymru, gan Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@FoodDrinkWIB

 

Dilynwch ni ar LinkedIn:

Food and Drink Wales Industry Board

 

Dilynwch ni ar Facebook:

Welsh food and drink workforce collaboration