Datganiad y Prif Weinidog 19 Rhagfyr – Cyfyngiadau rhybudd lefel pedwar
Darllenwch y datganiad llawn gan y Prif Weinidog ar y cyfyngiadau Lefel 4 a ddaeth i rym o hanner nos ar 19fed Rhagfyr. Mae'r datganiad yn cynnwys rhagor o fanylion am ddifrifoldeb y sefyllfa a benderfynodd y dylid cyflwyno cyfyngiadau Rhybudd Lefel 4 ar gyfer Cymru.
Lefel rhybudd 4
Cwestiynau Cyffredin ar Lefel Rhybudd 4 a rhagor o wybodaeth am weld pobl eraill, cau busnesau ac ymweld â phobl mewn cartrefi preifat
Mae canllaw llawn i gyfyngiadau a chanllaw syml i'r system lefel rhybudd coronafeirws newydd hefyd ar gael ar-lein.
Datganiad gan Brif Swyddog Meddygol Cymru ar y Gwelliannau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) 2020
Datganiad gan Brif Swyddog Meddygol Cymru am yr angen i symud i Rybudd Lefel 4 o hanner nos ar 19 Rhagfyr a newid y trefniadau i lacio’r cyfyngiadau dros y Nadolig fel bod 2 aelwyd bellach ddim ond yn cael cwrdd ar Ddydd Nadolig. Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.
£110 miliwn yn ychwanegol i helpu busnesau fydd yn teimlo effeithiau’r cyfyngiadau newydd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £110m o gymorth ariannol ychwanegol i fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan y cyfyngiadau diweddaraf. Bydd busnesau lletygarwch, manwerthu dianghenraid, twristiaeth, hamdden a busnesau y gadwyn gyflenwi yn gymwys ar gyfer y cymorth ariannol. Bydd rhagor o fanylion am y cyllid yn cael eu cyhoeddi ar wefan Busnes Cymru maes o law.
Y Gwiriwr Cymhwystra ar gyfer y Gronfa Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth yn fyw
Mae busnesau yn y sector Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth yr effeithir arnynt gan y cyfyngiadau coronafeirws diwethaf bellach yn gallu cael gwybod faint y dylent ei dderbyn gan rownd ddiwethaf pecyn cymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau. Y chronfa grant gwerth £180 miliwn yn benodol ar gyfer busnesau yr effeithir arnynt yn y sectorau twristiaeth, hamdden a lletygarwch. I gael rhagor o wybodaeth ewch i gwiriwr cymhwysedd am gymorth COVID-19 Busnes Cymru.
Llywodraeth y DU yn ymestyn y cynllun ffyrlo a’r cynlluniau benthyciadau
Mae’r cynllun ffyrlo wedi’i ymestyn a bydd Llywodraeth y DU yn parhau i dalu 80% o gyflogau gweithwyr am oriau heb eu gweithio tan ddiwedd Ebrill 2021. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Busnes Cymru.
Cyllideb i ddiogelu iechyd a swyddi, adeiladu dyfodol gwyrddach a chreu newid ar gyfer Cymru fwy cyfartal
Mae’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans wedi cyhoeddi Cyllideb ddrafft i Gymru sy’n cynnwys cynlluniau i fuddsoddi £420m yn ychwanegol ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ynghyd â chyllid i ddiogelu’r economi, adeiladu dyfodol gwyrddach a chreu newid ar gyfer Cymru fwy cyfartal. Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|