Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

18 Rhagfyr 2020


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN – Aros dros nos mewn llety gwyliau; £110 miliwn yn ychwanegol i helpu busnesau fydd yn teimlo effeithiau’r cyfyngiadau newydd; Cadw'n ddiogel dros y Nadolig Datganiad gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru; Bydd cyfyngiadau lefel uwch yn dod i rym i reoli cyfraddau’r coronafeirws, sy'n cynyddu’n gyflym ledled Cymru; Canllawiau swigod Nadolig; Llywodraeth y DU yn ymestyn y cynllun ffyrlo a’r cynlluniau benthyciadau; Y Gwiriwr Cymhwystra ar gyfer y Gronfa Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth yn fyw; Rhewi ardrethi busnes Cymru ar gyfer 2021 i 2022;  Llywodraeth Cymru yn estyn mesurau i ddiogelu busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Mawrth 2021; Lleihau cyfnod Coronafeirws a hunan-ynysu i ddeng niwrnod yng Nghymru; ‘Estynnwch allan a gofyn am gymorth os ydych yn cael anhawster â’ch iechyd meddwl dros y Nadolig’ – meddai’r Gweinidog Iechyd Meddwl ar ôl cwrdd â’r Samariaid; Lles ac Iechyd Meddwl; Bargen Twf y Gogledd a’r Canolbarth i gyrraedd cerrig milltir mawr;  Ymchwil - Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth y DU COVID-19 / Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth Rhyngwladol COVID-19;  Cyflwynwch gais nawr i fynychu rhith-ddigwyddiad ExploreGB Virtual VisitBritain, 1–5 Mawrth 2021;  GWYBODAETH PONTIO'R UE: Porth Cyfnod Pontio’r UE - Casglu gwybodaeth, bod yn barod;  Cyfres Fideo Masnachu gyda’r UE;  Ydy’ch busnes yn derbyn data personol gan yr UE/AEE?; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19.


Aros dros nos mewn llety gwyliau

  • Cewch aros mewn gwesty neu fath arall o lety gwyliau megis llety gwyliau ar rent yn ystod cyfnod y Nadolig (hyd at ddiwedd 27 Rhagfyr), ond yng Nghymru gallwch ond wneud hyn gyda phobl rydych chi’n byw gyda hwy (neu rhywun sydd gyda chi i ddarparu gofal i berson bregus).
  • O 12:01 y bore ar 28 Rhagfyr mae’n rhaid i bob llety gau os nad oes ganddynt awdurdod i aros ar agor gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru i letya grwpiau bregus, gweithwyr allweddol ac ati. 
  • Mae gan bobl sy’n teithio o Ogledd Iwerddon hefyd hawl i aros dros nos ar 27 Rhagfyr ond mae’n rhaid iddynt adael eu llety yn ystod 28 Rhagfyr.
  • Caiff fwytai a chaffis mewn llety aros ar agor i’r cyhoedd hyd at 6 y nos a phreswylwyr hyd at 10 y nos hyd at Ddydd Nadolig, ond wedi 6 y nos ar 25 Rhagfyr, hyd at ddiwedd 27 Rhagfyr, dim ond bwyd a diod bydd darparwyr llety yn cael eu darparu i breswylwyr.  Nid oes hawl i weini diodydd alcoholig mewn bwytai a chaffis ar unrhyw adeg.  Bydd gwasanaeth i ystafelloedd hefyd ar gael ond ni ddylent gynnwys alcohol rhwng 10 y nos a 6 y bore.
  • Bydd gan wasanaethau cludfwyd heb drwydded i werthu alcohol yr hawl i werthu bwyd a diodydd nad ydynt yn alcoholig i’w bwyta a’u hyfed oddi ar y safle ar unrhyw adeg.  Caiff safleoedd sydd â thrwydded i werthu alcohol i’w yfed oddi ar y safle barhau i werthu alcohol tan 10 y nos fel rhan o’r gwerthiant ar glud.

£110 miliwn yn ychwanegol i helpu busnesau fydd yn teimlo effeithiau’r cyfyngiadau newydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £110m o gymorth ariannol ychwanegol i fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan y cyfyngiadau diweddaraf, sy’n dechrau dod i rym o ddiwedd masnachu ar Noswyl Nadolig.

Bydd busnesau lletygarwch, manwerthu dianghenraid, twristiaeth, hamdden a busnesau y gadwyn gyflenwi yn gymwys ar gyfer y cymorth ariannol.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.  Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Cadw'n ddiogel dros y Nadolig - Datganiad gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru

Wrth i ni nesáu at gyfnod yr ŵyl, mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru yn ceisio cydbwyso pragmatiaeth â'r brif flaenoriaeth o ddiogelu iechyd y cyhoedd. I wneud hyn, rydym wedi ymuno â'n gilydd i gyhoeddi canllawiau ac argymhellion clir, fel a ganlyn.  Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn ar Llyw.Cymru.


Bydd cyfyngiadau lefel uwch yn dod i rym i reoli cyfraddau’r coronafeirws, sy'n cynyddu’n gyflym ledled Cymru

Cadarnhaodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, fod y sefyllfa yng Nghymru ar hyn o bryd yn cyfateb i’r meini prawf yn y cynllun ‘goleuadau traffig’ newydd Cynllun Rheoli’r Coronafeirws sy’n golygu symud i lefel rhybudd 4.  

Bydd y cyfyngiadau newydd yn berthnasol i Gymru gyfan:

  • bydd pob busnes manwerthu nad yw’n hanfodol, gan gynnwys gwasanaethau cyswllt agos, a phob canolfan hamdden a ffitrwydd, yn cau ddiwedd y diwrnod masnachu ar Noswyl Nadolig
  • bydd pob safle lletygarwch yn cau o 6pm Ddydd Nadolig
  • Bydd cyfyngiadau llymach ar gymysgu rhwng aelwydydd, aros gartref, llety gwyliau a theithio yn dod i rym o 28 Rhagfyr 2020, ar ôl cyfnod pum niwrnod y Nadolig.

Gellir lawrlwytho ein ffilm wybodaeth fer o Llyw.Cymru.

Mae canllaw syml i'r system lefel rhybudd coronafeirws newydd hefyd ar gael ar-lein.  

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru


Canllawiau swigod Nadolig

Mae canllawiau ar wneud swigod Nadolig gyda ffrindiau a theulu wedi'u diweddaru.   Mae'n cynnwys eitemau fel: 

Aros dros nos mewn llety gwyliau - Gallwch aros mewn gwesty neu fathau eraill o lety gwyliau fel llety rhentu gwyliau yn ystod cyfnod y Nadolig, ond yng Nghymru ni allwch ond wneud hyn gyda phobl rydych chi'n byw gyda nhw (neu rywun sydd gyda chi i ddarparu gofal i berson sy'n agored i niwed).


Llywodraeth y DU yn ymestyn y cynllun ffyrlo a’r cynlluniau benthyciadau

Mae’r cynllun ffyrlo wedi’i ymestyn a bydd Llywodraeth y DU yn parhau i dalu 80% o gyflogau gweithwyr am oriau heb eu gweithio tan ddiwedd Ebrill 2021.  Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Busnes Cymru.


Y Gwiriwr Cymhwystra ar gyfer y Gronfa Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth yn fyw

Mae busnesau yn y sector Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth yr effeithir arnynt gan y cyfyngiadau coronafeirws diwethaf bellach yn gallu cael gwybod faint y dylent ei dderbyn gan rownd ddiwethaf pecyn cymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau.  Y chronfa grant gwerth £180 miliwn yn benodol ar gyfer busnesau yr effeithir arnynt yn y sectorau twristiaeth, hamdden a lletygarwch.  

I gael rhagor o wybodaeth ewch i gwiriwr cymhwysedd am gymorth COVID-19 Busnes Cymru.


Rhewi ardrethi busnes Cymru ar gyfer 2021 i 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans wedi cadarnhau na fydd cyfraddau busnes yng Nghymru yn destun cynnydd ar sail chwyddiant yn 2021 i 2022.  Bydd rhewi’r lluosogydd y flwyddyn nesaf yn helpu i gefnogi tua 54,000 o dalwyr ardrethi ledled Cymru, nad ydynt eisoes yn cael 100% o ryddhad ardrethi. Mae hyn yn golygu bod busnesau wedi arbed dros £90 miliwn ar eu biliau ardrethi ers 2018 i 2019.  Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn ar Llyw.Cymru.


Llywodraeth Cymru yn estyn mesurau i ddiogelu busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Mawrth 2021

Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, y bydd manwerthwyr, tafarndai, bwytai a busnesau eraill yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws bellach yn cael eu diogelu rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Mawrth 2021.  Fel rhan o gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i gefnogi’r gymuned fusnes rhag effaith COVID-19, mae’r moratoriwm ar fforffedu prydles am beidio â thalu rhent, a oedd i ddod i ben ar 31 Rhagfyr, wedi cael ei estyn tan 31 Mawrth 2021.  Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Lleihau cyfnod Coronafeirws a hunan-ynysu i ddeng niwrnod yng Nghymru

O ddydd Iau 10 Rhagfyr, lleihawyd yr amser sydd rhaid bobl hunanynysu o 14 diwrnod i 10 yng Nghymru.  Erbyn hyn, caiff teithwyr sy’n dychwelyd o wledydd nad ydynt wedi’u heithrio eu gosod dan gwarantin am ddeng niwrnod, yn hytrach na 14, fel rhan o’r newidiadau i’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.  Darllenwch y cyhoeddiad llawn ar Llyw.Cymru..


‘Estynnwch allan a gofyn am gymorth os ydych yn cael anhawster â’ch iechyd meddwl dros y Nadolig’ – meddai’r Gweinidog Iechyd Meddwl ar ôl cwrdd â’r Samariaid

Mae angen i bobl sy’n cael anawsterau gyda’u hiechyd meddwl dros gyfnod y Nadolig wybod bod cymorth ar ben arall y ffôn. Dyna neges y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Eluned Morgan ar ôl iddi gwrdd â Samariaid Cymru.  Samariaid Cymru yw un o’r elusennau iechyd meddwl y mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda nhw i ddarparu cymorth iechyd meddwl lefel isel, gan gynnwys ar gyfer straen a gorbryder, yn ystod pandemig COVID. Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Lles ac Iechyd Meddwl

Mae ein cymdeithas yn wynebu dyddiau digynsail, ac os ydych yn hunangyflogedig neu’n berchen ar fusnes, bydd COVID-19 yn peri cryn ansicrwydd.

Mae canllawiau a gwybodaeth am Les ac Iechyd Meddwl ar gyfer y gymuned fusnes ar gael drwy wefan Busnes Cymru.  Mae Busnes Cymru wedi datblygu dull integredig o gefnogi perchnogion busnes yn ystod yr argyfwng hwn gan ymgorffori sgyrsiau lles mewn sesiynau cynghori a gweminarau. Gall llinell gymorth a chynghorwyr busnes hefyd nodi perchnogion busnes sy'n dangos pryderon iechyd meddwl drwy sgwrsio gan eu galluogi i gyflwyno ffynonellau cymorth a chyfeirio fel y bo'n briodol.  Mae Busnes Cymru yn cynnig rhaglen o weminarau sy'n canolbwyntio ar bryderon busnes allweddol, rheolaeth ariannol, adnoddau dynol a phryderon staff, rheoli a gweithio o bell.


Bargen Twf y Gogledd a’r Canolbarth i gyrraedd cerrig milltir mawr

Mae Bargeinion Twf y Gogledd a’r Canolbarth i gyrraedd cerrig milltir mawr dros y dyddiau nesaf, fydd yn golygu y bydd pob rhanbarth o Gymru yn cael eu cynnwys o fewn bargen twf.  Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Ymchwil

Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth y DU COVID-19

Mae Croeso Cymru yn parhau i gydweithio gyda VisitBritain a VisitScotland i gynnal traciwr defnyddwyr y DU.  Mae’r canfyddiadau yn y DU pob pythefnos, gyda 20-27 Tachwedd (Ton 20) i’w gweld ar wefan VisitBritain.

Cafodd y gwaith maes ar gyfer y don ei gynnal yn ystod yr ail gyfnod clo yn Lloegr.  Mae’r prif ganfyddiadau yn dangos bod (b) yr hwyliau cenedlaethol ar gyfartaledd wedi gostwng ychydig i 6.5/10. Mae’r hyder i fynd ar daith ym mis Tachwedd a Ionawr wedi aros yn weddol gyson ers Ton 18, tra bod hyder yn y tymor canolig (Chwefror i Mehefin) wedi gostwng ychydig.  Fodd bynnag, mae’r hyder ar gyfer teithiau o fis Gorffennaf ymlaen yn dangos gwelliant.

Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth Rhyngwladol COVID-19

Bydd Croeso Cymru yn cyfrannu gyda VisitBritain a phartneriaid eraill  gynnal traciwr teimladau tuag at COVID yn cynnwys marchnadoedd rhyngwladol, ac yn cynnwys pynciau tebyg i draciwr defnyddwyr y DU.  Cynhelir yr arolwg cyntaf ym mis Rhagfyr gyda chanlyniadau dros dro a chofnodi ddechrau Ionawr.


Cyflwynwch gais nawr i fynychu rhith-ddigwyddiad ExploreGB Virtual VisitBritain, 1–5 Mawrth 2021

Mae ExploreGB Virtual 2021 yn cynnig cyfle i adeiladu ac atgyfnerthu cysylltiadau busnes â phartneriaid allweddol o fewn y diwydiant yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae’n rhaid i chi fod â diddordeb yn hyn a byddwch yn gallu gosod contractau/gwerthu drwy’r diwydiant teithio i allu cymryd rhan. Gallwch fynychi’r digwyddiad hwn am ddim ac mae’r broses gofrestru ar agor nawr hyd 15 Ionawr 2021. I weld y rhaglen lawn a rhagor o wybodaeth ewch i www.exploregb.co.uk



GWYBODAETH PONTIO'R UE:

Porth Cyfnod Pontio’r UE - Casglu gwybodaeth, bod yn barod

Mae diwedd y cyfnod pontio yn prysur agosáu a bydd hyn yn golygu newidiadau i'r rheolau presennol ar fasnachu. Ewch i Borth Pontio'r UE yn rheolaidd i gael y newyddion diweddaraf.

Mae’r canllawiau newydd diweddaraf ar gyfer busnesau hefyd ar gael ar wefan Busnes Cymru.


Cyfres Fideo Masnachu gyda’r UE

Mae cyfres fideo wedi’i chyhoeddi sy’n egluro’r hyn sydd angen i fusnesau ei wneud i baratoi ar gyfer 1 Ionawr 2021. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Ydy’ch busnes yn derbyn data personol gan yr UE/AEE?

Mae’r rhan fwyaf o sefydliadau yn defnyddio data personol yn eu gweithrediadau dyddiol.  Os ydych chi’n derbyn data personol gan yr UE/AAE, gweithredwch ar unwaith er mwyn sicrhau y gallwch ddal ati i dderbyn data yn gyfreithlon gan eich cleientiaid yn yr UE o 1 Ionawr 2021.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw i ddeall y mesurau sydd i’w hystyried er mwyn ail-agor y busnes yn ddiogel.  Mae’r rhain yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19)


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram