Newyddlen Bwyd a Diod Cymru - Rhagfyr 2020

Rhagfyr • Rhifyn 017

 
 

Newyddion

Llinellau Cymorth Bwyd a Diod Cymru ar gyfer Gwneuthurwyr

Hotline graphic v6 Cymraeg

Mewn ymateb i'r heriau cyfredol, mae Bwyd a Diod Cymru wedi sefydlu llinellau cymorth ar gyfer gwneuthurwyr bwyd a diod. Mae'r llinellau cymorth yn dod â sefydliadau o bob rhan o Gymru ynghyd i ddarparu cefnogaeth hygyrch i fusnesau bwyd a diod.

FDWIB - Andy Richardson

Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru - Nodyn gan y Cadeirydd - Rhagfyr 2020

Wrth i ni nesáu at ddiwedd y flwyddyn gythryblus yma, â llu o sialensiau o'n blaenau o hyd, rhaid i ni
beidio ag anghofio am y sylfaen o lwyddiannau yr adeiladwyd diwydiant Bwyd a Diod Cymru arni.

FDWIB small

Cyhoeddi penodiadau i Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Bydd y pum Aelod newydd yn ymuno â'r bwrdd presennol ac yn cyfrannu at y gwaith o gefnogi adferiad y sector yn dilyn COVID-19 a’i baratoadau ar gyfer diwedd cyfnod pontio'r UE.

Brexit

Cyfnod Pontio’r DU

Darllenwch y canllawiau newydd diweddaraf i fusnesau ac ewch i Borth Pontio UE Busnes Cymru sy'n rhoi cyngor ac arweiniad pwysig i fusnesau sy'n paratoi ar gyfer pontio Ewropeaidd.

FSC 2

Meithrin gwydnwch busnesau mewn cyfnod anwadal

Wrth i 2020 ddirwyn i ben, mae gweithgynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn wynebu amodau cyfnewidiol drwy effaith Cofid-19, Gadael yr UE a chyfnod masnachu Nadolig anrhagweladwy.

Cafodd y fideo gweminar ar-lein hwn ei recordio gan Sgiliau Bwyd Cymru fel rhan o Ffair Aeaf Frenhinol Cymru eleni.

Care boxes

Cynllun Blwch Bwyd Hanfodol yng Nghymru

Ym mis Mawrth 2020, ysgrifennodd y Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton, at 125,000 o’r bobl mwyaf bregus yn gofyn iddynt gymryd camau gwarchod, gan gynnwys aros gartref am 12 wythnos. O ganlyniad i'r cyngor hwn, ymchwiliodd Llywodraeth Cymru i ddarparu blychau bwyd i'r bobl hynny yng Nghymru nad oedd ganddynt deulu na ffrindiau yn gymorth, neu nad oeddent yn gallu cael gafael ar ddosbarthu bwyd ar-lein oherwydd y galw digynsail am y gwasanaeth.

Dessert Prep

Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig (Bwyd)

Mae'r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig - BWYD yn gynllun buddsoddiadau cyfalaf i gefnogi prosiectau sy'n cynnig manteision clir a mesuradwy i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.

Mae'r cynllun gwerth £3.2m yn agored i broseswyr a gweithgynhyrchwyr bwyd a diod bach micro a newydd ledled Cymru.

Bydd y Datganiad o Ddiddordeb ar gyfer y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig - BWYD yn agor ar 18 Ionawr 2021 ac yn cau ar 22 Chwefror 2021.

Caerphilly Cheese

Gwaith hyrwyddo gyda'n cynhyrchwyr o Cymru cyn lansio cynllun Dynodiad Daearyddol newydd y DU ar 1 Ionawr 2021

Bydd canllawiau wedi'u diweddaru ar gynllun Dynodiad Daearyddol newydd y DU ar gael ar ein gwefan o 4 Ionawr. Yn y cyfamser, mae canllawiau a chymorth pellach ar gael i gynhyrchwyr Cymru drwy gysylltu â ni ar UKGI.Cymru@llyw.cymru.

wrap cymru

Y Gronfa Economi Gylchol

Mae Llywodraeth Cymru a WRAP Cymru’n ymwybodol bod nifer o sefydliadau’n wynebu heriau sylweddol o ganlyniad i COVID-19. Fel ymateb i hyn, rydym wedi gwneud newidiadau i’r Gronfa Economi Gylchol gwerth £6.5 miliwn, sydd wedi’u cynllunio er mwyn cefnogi mwy fyth o sefydliadau yn gyflymach.

BlasArFwyd

Cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn dod at ei gilydd i greu cyfle siopa unigryw

Mae cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn annog y teimlad o undod y Nadolig hwn trwy gydweithio i greu ystod unigryw o focsys rhoddion a hamperi ar gyfer siopwyr.

Welsh drinks christmas

Cynhyrchwyr diodydd Cymru yn ymuno yn hwyl yr Ŵyl wrth lansio digwyddiad 'Dathlwch y Nadolig gyda Diodydd Cymru'

Mae dros 100 o gynhyrchwyr diodydd o Gymru yn dod at ei gilydd i greu'r digwyddiad 'Dathlwch y Nadolig gyda Diodydd Cymru' cyntaf o'i fath i arddangos amrywiaeth ac ansawdd y diodydd sy'n cael eu cynhyrchu yma wrth i ni nesáu at y Nadolig.

Organic food

Mewnforio cynhyrchion organig o drydydd gwledydd (Saesneg yn unig)

Mae'r Comisiwn bellach wedi cyhoeddi ei ddeddfwriaeth ddrafft sy'n rhestru cyrff rheoli'r DU ar gyfer organics ac yn nodi'r categorïau.

Mae pob un o'r chwe chorff yn y DU, gan gynnwys 'Quality Welsh Food Certification Ltd' wedi'u rhestru.

AHFES

Mae AHFES yn brosiect Ewropeaidd a ariennir gan raglen Ardal yr Iwerydd

(Saesneg yn Unig)

Mae'r prosiect yn gweithio'n lleol gyda Llywodraeth Cymru ac Arloesedd BIC, sydd ill dau'n bartneriaid mewn cydweithio ar draws Ardal yr Iwerydd i wella cystadleurwydd a thwf cyffredinol busnesau bach a chanolig.

Mewn byd sy'n dal i fod yn crebachu, mae Arloesedd BIC Innovation ac AHFES yn adeiladu ‘ecosystem’ arloesi trawswladol. System a fydd yn helpu busnesau bach a chanolig i gael gafael ar wybodaeth, partneriaid a marchnadoedd. Gweithio i gysoni eu cynnyrch a'u gwasanaethau ag anghenion a disgwyliadau defnyddwyr sy'n esblygu.

Gallwch ddal i fyny â'r tueddiadau a'r dadansoddiad diweddar o fwyd iechyd ar wefan AHFES gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf drwy ddilyn ein canfyddiadau diweddaraf drwy twitter @AhfesProject a Linkedin - Atlantic-area-healthy-food-eco-system-project

Helo-Blod

Mae defnyddio ychydig o Gymraeg yn mynd yn bell, ac mae Helo Blod yma i dy helpu

Ry’n ni wedi bod yn helpu nifer o fusnesau yn y diwydiant bwyd a diod i ddarganfod eu llais a defnyddio ychydig o Gymraeg, yn rhad ac am ddim.

Gall Helo Blod dy helpu di drwy wirio testun a helpu i gyfieithu bwydlenni, gwefannau a negeseuon cyfryngau cymdeithasol. Neu beth am ddangos i dy cwsmeriaid dy fod ti a/neu dy staff yn siarad neu’n dysgu Cymraeg? Mae laniard a/neu fathodyn Iaith Gwaith ar gael. Ac mae’r cwbl lot am ddim!

Mae defnyddio’r Gymraeg yn gallu cael effaith fawr ar dy fusnes. Clicia’r dolenni isod i glywed gan ddau o’n cwsmeriaid ffyddlon sy’n defnyddio’r Gymraeg yn llwyddiannus ar ôl i Helo Blod helpu:

Jin Gŵyr - twitter.com/Heloblod/Status

Jin Talog - twitter.com/Heloblod/Status

Cer draw i’r wefan i ddechrau manteisio ar y cymorth heddiw.

llyw.cymru/HeloBlod

WRNSU [W]

Rhwydwaith Gwledig Cymru Uned Gymorth

Mae Uned Gefnogi Rhwydwaith Gwledig Cymru yn hwyluso a chefnogi’r gwaith o rannu arbenigedd ym maes datblygu gwledig. Mae’r Uned Gefnogi yn cefnogi gweithgareddau a gyllidir o dan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-20.

Twitter - https://twitter.com/WalesRuralNet Facebook - https://www.facebook.com/WalesRuralNet/

Digwyddiadau

Ymweliad rhithwir â hemisffer y de yn cyfrannu at lwyddiant busnes

Australia-NewZealand-Map

Er gwaethaf heriau pandemig COVID-19, mae diwydiant bwyd a diod Cymru wedi manteisio ar y cyfle i arloesi a newid gyda digwyddiadau masnach rhyngwladol ac ymweliadau'n cael eu disodli gan deithiau masnach rhithwir i wledydd fel Awstralia a Seland Newydd.

retail market

Gweminarau Gwybodaeth am Farchnad Fanwerthu Llywodraeth Cymru - Helpu cynhyrchwyr Cymru i achub y blaen ar y gystadleuaeth

Fel rhan o Gynllun Adfer ar ôl Covid-19 Bwyd a Diod Cymru, bydd Levercliff yn cyflwyno cyfres o 10 gweminar ym mis Ionawr 2021 wedi’u cynllunio i roi Gwybodaeth am y Farchnad Fanwerthu i gynhyrchwyr Bwyd a Diod yng Nghymru yn ymwneud â chategorïau perthnasol.

AHFES

Hyfforddiant a chefnogaeth busnes am ddim i fusnesau bach a chanolig Cymreig yn y Sector Bwyd a Diod Iach

Bydd prosiect Ecosystemau Bwyd Iach Ardal yr Iwerydd yn darparu gwasanaethau hyfforddi a chymorth busnes i fusnesau bach a chanolig sy'n gweithio yn y maes hwn. Bydd hyfforddiant a chymorth yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a byddant yn rhad ac am ddim i fusnesau bwyd a diod bach neu ganolig eu maint, sydd wedi'u lleoli yng Nghymru ac yn gweithio i dyfu eu maes bwyd a ffordd iach o fyw.

ZERO2FIVE

Cwrdd â Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE Ar-lein

Er na all pobl ymweld â Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE oherwydd pandemig COVID-19, rydym yn dal i gynnal ein digwyddiadau Canolfan Diwydiant Bwyd Meet ZERO2FIVE ar-lein fel y gall cwmnïau ddarganfod mwy am y gefnogaeth y gallwn ei chynnig.

bioinnovation

Hyfforddiant Ar-lein Am Ddim gyda BioInnovation Wales

Mae BioArloesedd Cymru yn cynnig cyrsiau dysgu o bell am ddim i'r rhai sy'n byw neu weithio yng Nghymru. Mae'r cyrsiau i gyd yn seiliedig ar yr ecomoni gylchol, gyda nifer o'r rhain yn canolbwyntio ar gynhyrchu a phrosesu bwyd a diod. Cyflwynir y cynnwys yn gyfangwbwl ar-lein gan ddechrau yn mis Chwefror 2021.

F&D Xmas
 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN


E-gylchlythyr cwarterol ar gyfer y diwdiant bwyd a diod gan Is-Adran Fwyd Llywodraeth Cymru. 

Newyddion, digwyddiadau a materion syín berthnasol iín diwydiant.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/bwydadiodcymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@BwydaDiodCymru

 

Dilynwch ni ar Instagram:

Bwyd_a_Diod_Cymru