 |
|
Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer profion cyfresol mewn ysgolion a cholegau o fis Ionawr ymlaen. Datganiad Ysgrifenedig
|
COVID-19 Addasiad Gofynion Cwricwlwm ac Asesu ar gyfer Ionawr 2021
Mae gofynion cwricwlwm ac asesu yn parhau i gael eu haddasu ar sail ymdrechion rhesymol ar gyfer mis Ionawr 2021.
Mae’r Gweinidog Addysg wedi penderfynu i ddatgan hysbysiad addasu pellach yn darparu ysgolion gyda’r hyblygrwydd sy’n parhau tra’n ymateb i faterion cyfredol a sialensiau y pandemig COVID-19. Gall hysbysiadau addasu’r cwricwlwm ac asesu ddim ond eu gwneud ar gyfer cyfnod amser penodedig, na all fod yn fwy na un mis. Y bwriad yw i ailddechrau anghenion cwricwlwm ac asesu llawn cyn gynted ag y bu’n briodol a rydym yn parhau i gadw’r sefyllfa o dan adolygiad.
Mae’r Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig wedi cyhoeddi ffeithlun o'r ystadegau diweddaraf yng Nghymru.
Cyhoeddodd y grŵp ei adroddiad interim ym mis Tachwedd, gyda chyfres gychwynnol o argymhellion. Bydd yr adroddiad terfynol, sydd i'w gyhoeddi yn y gwanwyn, yn mynd i'r afael â materion ehangach gan gynnwys anghenion dysgu proffesiynol.
Mae’r seminarau canlynol yn cael eu trefnu i helpu i rwydweithio ac adeiladu capasiti fel rhan o’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol (NSERE). Sylwch mai yn Saesneg yn unig y bydd y seminarau yn cael eu cynnal. Gellir gweld y rhaglen ar gyfer tymhorau’r gwanwyn a’r haf 2021 yma. To reserve your place for these seminars please contact Joanne.Smith013@gov.wales
Rydym yn datblygu ystod o gyfleoedd dysgu i alluogi'r rhai sy'n cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) i ddeall y newidiadau a ddaw yn sgil y system ADY newydd.
Categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Dyddiau cau: 26 Mawrth 2021.
Lleoedd cyfyngedig ar gael! Mae'r cwrs yn dechrau Chwefror 2021. Rhagor yma.
Oherwydd effaith y pandemig byd-eang, mae'r dyddiad cau ar gyfer Cystadleuaeth SID 2021 wedi'i ymestyn tan ddydd Gwener 22 Ionawr 2021.
Mae Cystadleuaeth Merched CyberFirst yn cynnig amgylchedd hwyliog ond heriol i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fenywod ifanc i ystyried gyrfa mewn seiberddiogelwch.
Maer adnodd hwn yn rhan o ‘Minecraft Education Edition’ s'yn addas ar gyfer dysgwyr Cyfnod Allweddol 2 a 3. Gall athrawon ei ddefnyddio i helpu dysgwyr i archwilio amrywiaeth o feysydd gyrfa, ehangu gorwelion gyrfa a herio stereoteipio.
Diogelu dysgwyr rhag trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: cam-drin domestig. Arolwg defnyddwyr
Mae Dysgu a Gwaith Cymru yn galw am enwebiadau ar gyfer tiwtoriaid rhagorol yng Nghymru y mae eu hymrwymiad, gwybodaeth a sgiliau wedi rhoi’r her a’r sgiliau i oedolion gyflawni eu huchelgais. Bydd gwobr arbennig eleni i gydnabod cefnogaeth i unigolion a chymunedau o’r sector oedolion mewn ymateb i’r pandemig. Dyddiad cau: 8 Ionawr 2021. Mwy o wybodaeth.
Rydym yn falch iawn o lansio ein hadnoddau a'n gwybodaeth newydd sy'n ymwneud â thema Diwrnod Cofio'r Holocost – Byddwch yn Olau yn y Tywyllwch.
|