Datganiad Ysgrifenedig: Cynllun Rheoli’r Coronafeirws: Lefelau Rhybudd yng Nghymru
Heddiw rydym yn cyhoeddi diweddariad i'n Cynllun Rheoli’r Coronafeirws, sy'n adeiladu ar y fframwaith cyfyngiadau ‘goleuadau traffig’ a gyflwynwyd yn wreiddiol ym mis Mai.
Mae’r cynllun wedi’i ddiweddaru yn sefydlu pedair lefel rhybudd, sy'n cyd-fynd â'r mesurau y bydd angen inni eu rhoi ar waith i reoli lledaeniad y feirws yn ystod cyfnod anodd y gaeaf ac i ddiogelu iechyd pobl.
Mae’r cynllun yn esbonio hefyd sut a phryd y bydd Cymru’n symud rhwng y gwahanol lefelau rhybudd hyn. Mae'r mesurau hyn ar gyfer Cymru gyfan wedi'u cynllunio i fod mor syml, mor deg ac mor glir â phosibl a byddant yn rhoi mwy o sicrwydd i bobl a busnesau ynghylch pa gyfyngiadau cyfreithiol fydd yn cael eu cyflwyno, yn dibynnu ar lefel y risg, gan eu helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Yn dilyn cyngor Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau (SAGE), mae ein dull gweithredu wedi’i seilio ar yr hyn sydd wedi gweithio mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, ynghyd â’r hyn yr ydym ninnau wedi’i ddysgu yn ystod y flwyddyn.
Dyma’r pedair lefel rhybudd:
-
Lefel rhybudd 1 (risg isel): Dyma’r lefel cyfyngiadau agosaf at normalrwydd sy’n bosibl tra mae cyfraddau heintio yn isel a mesurau ataliol eraill yn parhau ar waith, megis cadw pellter cymdeithasol a gweithio gartref.
-
Lefel rhybudd 2 (risg ganolig): Mae’r lefel hon yn cynnwys mesurau rheoli ychwanegol i gyfyngu ar ledaeniad y coronafeirws. Gall y rhain gael eu hategu gan gamau gweithredu lleol wedi’u targedu’n fwy, a roddir ar waith i reoli achosion lluosog neu frigiadau penodol.
-
Lefel rhybudd 3 (risg uchel): Dyma’r cyfyngiadau llymaf heblaw am gyfnod atal byr neu gyfnod clo. Maent yn ymateb i lefelau heintio uwch neu gynyddol lle nad yw camau gweithredu lleol yn effeithiol mwyach o ran cyfyngu ar dwf y feirws.
-
Lefel rhybudd 4 (risg uchel iawn): Byddai cyfyngiadau ar y lefel hon yn cyfateb i reoliadau’r cyfnod atal byr neu’r cyfnod clo. Gellid defnyddio’r rhain naill ai fel cyfnod atal byr neu fel cyfnod clo.
Rydym yn ddiolchgar i bobl a busnesau ledled Cymru am eu hymdrechion parhaus i fynd i'r afael â'r feirws hwn.
Wrth inni ddechrau'r broses o gyflwyno'r brechlyn COVID-19, gallwn fod yn obeithiol am y dyfodol, ond rhaid inni barhau i fod yn ofalus a chymryd camau i reoli lledaneiad y coronafeirws a chadw’n gilydd yn ddiogel.
Mae angen i bob un ohonom weithio gyda'n gilydd i Gadw Cymru'n Ddiogel.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) (Diwygio) 2020
Cau atyniadau awyr agored – mae rheoliadau ar gael ar Llyw.Cymru
Datganiad Ysgrifenedig: Cau atyniadau awyr agored - darllenwch fwy ar Llyw.Cymru
Rheoliadau coronafeirws: cwestiynau cyffredin
Rheoliadau coronafeirws: Mae Cwestiynau cyffredin ar gael ar Llyw.Cym caiff rhain eu diweddaru'n rheolaidd; cofiwch wirio’n ôl .
Y Gwiriwr Cymhwystra ar gyfer y Gronfa Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth yn fyw
Mae busnesau yn y sector Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth yr effeithir arnynt gan y cyfyngiadau coronafeirws diwethaf bellach yn gallu cael gwybod faint y dylent ei dderbyn gan rownd ddiwethaf pecyn cymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau.
Y chronfa grant gwerth £180 miliwn yn benodol ar gyfer busnesau yr effeithir arnynt yn y sectorau twristiaeth, hamdden a lletygarwch.
O dan y rownd ddiweddaraf o gymorth gan Lywodraeth Cymru, gallai busnes lletygarwch arferol yng Nghymru, sy’n cyflogi staff cyfwerth â chwe swydd llawn amser, fod yn gymwys i dderbyn rhwng £12,000 a £14,000 i’w helpu yn ystod y cyfnod newydd o gyfyngiadau ac yn y Flwyddyn Newydd.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i gwiriwr cymhwysedd am gymorth COVID-19 Busnes Cymru.
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw i ddeall y mesurau sydd i’w hystyried er mwyn ail-agor y busnes yn ddiogel. Mae’r rhain yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|