Newyddlen Cyfnod Pontio UE Bwyd a Diod

08 Rhagfyr 2020

 
 

Newyddlen Cyfnod Pontio UE Bwyd a Diod

Gyda llai na 30 diwrnod i fynd cyn diwedd y Cyfnod Pontio, dyma rannu â chi rywfaint o wybodaeth am yr hyn y mae angen ichi ei wneud nawr i'ch helpu i baratoi eich busnes ar gyfer Ionawr 2021.

Chi sy'n gyfrifol am wirio a gweithredu ar wybodaeth berthnasol, ond rydym am eich cefnogi drwy eich cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth a chanllawiau defnyddiol. 

Eich cefnogi chi

Ewch i'r dudalen bwrpasol ar y we, ‘Paratoi eich busnes bwyd a diod ar gyfer 1 Ionawr 2021’ (Saesneg yn unig) ar Gov.UK, lle gallwch weld yr holl wybodaeth ddiweddaraf am bontio mewn un lle.

Clwb Allforio: Masnachu ar ôl Ymadael â’r UE – cynghorfa wythnosol ar-lein agored

Bob bore Mawrth, o 9.30am, bydd tîm y Clwb Allforio ar gael i drafod, rhannu gwybodaeth a thrafod agweddau ar baratoi’ch busnes ar gyfer 1 Ionawr 2021.  Mae sesiynau un i un ar gael hefyd.  Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma

Gwyliwch James Wright o ddistyllfa Aber Falls (Saesneg yn unig), aelod o Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, yn esbonio sut mae’r cwmni’n paratoi ar gyfer diwedd y Cyfnod Pontio.

Yn y cyfnod anodd hwn i fusnesau bwyd a diod, rydym wedi creu cyfres o linellau cymorth arbenigol a rhanbarthol i’ch helpu

Rydym wedi datblygu erfyn hunan-asesu arbenigol ar gyfer busnesau bwyd a diod i’ch helpu i feddwl sut i ddygymod â’r hyn a ddaw a nodi’r meysydd lle mae angen help arnoch. I weld y pdf, cliciwch yma

Ewch i hwb ymadael â’r UE (Saesneg yn unig) sy’n benodol ar gyfer y sector bwyd-amaeth. Mae’r Ffederasiwn Bwyd a Diod, ynghyd â 50 o gyrff masnach arall, yn cyfrannu at y wefan, sy’n darparu gwybodaeth am yr hyn a fydd yn newid ar 1 Ionawr 2021.

Mae gweminarau parodrwydd masnachwyr DEFRA bellach ar gael i’w gwylio ar-lein (Saesneg yn unig):

Ystyriwch ymuno ag un o Grwpiau Clystyrau Llywodraeth Cymru

I gael gwybodaeth am labelu bwyd

Darllenwch ragor o wybodaeth gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi am y camau y gallwch eu cymryd nawr i baratoi eich busnes. 

Beth allwch chi ei wneud yn awr i fod yn barod i fasnachu â'r UE o 1 Ionawr 2021 ymlaen?

Darllenwch ein canllawiau diweddaraf am baratoi ar gyfer 1 Ionawr 2021 ar gyfer pysgotwyr, masnachwyr ac allforwyr masnachol

Cael rhif EORI GB

Bydd angen rhif EORI (Rhif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd) arnoch er mwyn llenwi datganiadau tollau. Gallwch gofrestru’n rhad ac am ddim yma www.gov.uk/eori

Penderfynwch sut rydych yn mynd i wneud datganiadau tollau

Gall asiantau tollau, y rheini sy'n danfon nwyddau, a gweithredwyr sy’n cludo nwyddau’n gyflym eich helpu gyda datganiadau, a sicrhau eich bod yn darparu'r wybodaeth sydd ei hangen. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma (Saesneg yn unig) 

Gweld a yw’r nwyddau rydych yn eu mewnforio yn gymwys ar gyfer dulliau rheoli fesul cam

Bydd y rhan fwyaf o fasnachwyr sydd â hanes da o ran cydymffurfio yn gallu gohirio datganiadau mewnforio ar y rhan fwyaf o nwyddau am hyd at 6 mis ar ôl 1 Ionawr 2021. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma (Saesneg yn unig) 

Os byddwch yn symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, gallwch gofrestru i ddefnyddio'r Gwasanaeth Cymorth Masnachwyr (TSS) (Saesneg yn unig), sy’n rhad ac am ddim.

Ydych yn cyflogi staff o’r tu allan i’r UE? Mae gwybodaeth am y rheolau a’r trefniadau newydd o 1 Ionawr 2021 ar gael yma (Saesneg yn unig).

Darllenwch am y rheolau a'r logos ar gyfer cynlluniau Dynodiadau Daearyddol annibynnol newydd y DU, sy’n rhoi statws arbennig i gynhyrchion poblogaidd a thraddodiadol.

Mae rhagor o wybodaeth am fasnachu â’r UE yn y dyfodol ar gael yma 

Cael y wybodaeth ddiweddaraf

Tanysgrifiwch ar gyfer gwasanaeth HMRC i gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy e-bost yn rhad ac am ddim  – dewiswch ‘Sign up to help and support emails from HMRC’ (Saesneg yn unig).

Tanysgrifiwch i gael cylchlythyr Diwydiant Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru 

Arolwg parodrwydd busnesau

Diolch i bawb a roddodd o’u hamser i ateb yr holiadur yn ein taflen newyddion ddiwethaf. Rydym yn ddiolchgar ichi am roi o’ch amser a byddwn yn defnyddio’r wybodaeth yn ein cyhoeddiadau i’r sector ac mae yn ein galluogi i nodi’r wybodaeth bwysicaf sydd ei hangen arnoch.

 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN

E-gylchlythyr cwarterol ar gyfer y diwdiant bwyd a diod gan Is-Adran Fwyd Llywodraeth Cymru. 

Newyddion, digwyddiadau a materion syín berthnasol iín diwydiant.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/bwydadiodcymru

Dilyn ar-lein: @BwydaDiodCymru