Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.
CYNNWYS BWLETIN – Y Gwiriwr Cymhwystra ar gyfer y Gronfa Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth yn mynd yn fyw; Llywodraeth Cymru yn estyn mesurau i ddiogelu busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Mawrth 2021; Canllawiau swigod Nadolig; Lleihau cyfnod Coronafeirws a hunan-ynysu i ddeng niwrnod yng Nghymru; Meini prawf cymhwysedd ar gyfer trydydd grant SEISS; Hawlio cyflogau drwy'r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws; Lleoedd ar gael ar gyfer Britain & Ireland Marketplace (BIM) 2021 – 26 Ionawr 2021; Gweminar ETOA ac UKinbound: y DU ac Iwerddon 2021-22; GWYBODAETH PONTIO'R UE: Porth Cyfnod Pontio’r UE - Casglu gwybodaeth, bod yn barod; Llythyr Pontio'r UE; Y canllawiau a’r adnoddau diweddaraf gan yr ICO; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19.
Y Gwiriwr Cymhwystra ar gyfer y Gronfa Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth yn mynd yn fyw
Mae busnesau yn y sector Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth yr effeithir arnynt gan y cyfyngiadau coronafeirws diwethaf bellach yn gallu cael gwybod faint y dylent ei dderbyn gan rownd ddiwethaf pecyn cymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau.
Yn ddiweddar cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £340 miliwn i helpu busnesau yr effeithir arnynt gan y cyfyngiadau coronafeirws a ddaeth i rym ar 4 Rhagfyr. Mae’r pecyn diweddaraf yn cynnwys Cronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau gwerth £160 miliwn, yn bennaf ar gyfer busnesau sy’n talu ardrethi annomestig, a chronfa grant gwerth £180 miliwn yn benodol ar gyfer busnesau yr effeithir arnynt yn y sectorau twristiaeth, hamdden a lletygarwch.
O dan y rownd ddiweddaraf o gymorth gan Lywodraeth Cymru, gallai busnes lletygarwch arferol yng Nghymru, sy’n cyflogi staff cyfwerth â chwe swydd llawn amser, fod yn gymwys i dderbyn rhwng £12,000 a £14,000 i’w helpu yn ystod y cyfnod newydd o gyfyngiadau ac yn y Flwyddyn Newydd.
O dan y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau gwerth £160 miliwn, bydd busnesau yr effeithir arnynt yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a hamdden, sectorau manwerthu a'u cadwyn gyflenwi sy’n talu ardrethi annomestig, yn gymwys i gael taliad untro rhwng £3,000 a £5,000.
Disgwylir i fusnesau lletygarwch a dderbyniodd gyllid yn gysylltiedig ag ardrethi annomestig o dan gyfyngiadau’r cyfnod atal byr blaenorol dderbyn taliad cyn y Nadolig. Fodd bynnag, bydd rhaid i bob busnes arall gofrestru yn y Flwyddyn Newydd i dderbyn ei daliad.
Caiff cwmnïau yr effeithir arnynt, gan gynnwys y rheini nad ydynt yn talu ardrethi busnes, hefyd wneud cais am ran o’r Gronfa Benodol i’r Sector gwerth £180 miliwn. Disgwylir i’r rhan hon o’r pecyn, sy’n cael ei chyfrifo ar sail trosiant busnes a nifer ei staff, roi cymorth i hyd at 8,000 o fusnesau yn y sector yr effeithir arnynt gan y cyfyngiadau, ac o bosibl 2,000 eraill yn y cadwyni cyflenwi cysylltiedig.
Bydd gwiriwr cymhwystra newydd a chyfrifiannell yn mynd yn fyw ar wefan Busnes Cymru ar 10am dydd Gwener 11 Rhagfyr, i helpu busnesau i gyfrifo faint o gymorth y gallant ddisgwyl ei dderbyn. Hefyd bydd canllawiau ar gael i gwmnïau i’w helpu gyda’r broses o wneud cais am y Gronfa Benodol i’r Sector, a fydd yn agor yn yr wythnos sy’n dechrau ar 11 Ionawr.
Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.
Llywodraeth Cymru yn estyn mesurau i ddiogelu busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Mawrth 2021
Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, y bydd manwerthwyr, tafarndai, bwytai a busnesau eraill yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws bellach yn cael eu diogelu rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Mawrth 2021.
Fel rhan o gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i gefnogi’r gymuned fusnes rhag effaith COVID-19, mae’r moratoriwm ar fforffedu prydles am beidio â thalu rhent, a oedd i ddod i ben ar 31 Rhagfyr, wedi cael ei estyn tan 31 Mawrth 2021.
Er y dylai busnesau barhau i dalu rhent pryd bynnag y bo hynny’n bosibl, bydd y mesur diweddaraf yn sicrhau nad oes unrhyw fusnes yn cael ei droi allan o’i safle os yw’n methu talu ei rent rhwng nawr a diwedd mis Mawrth 2021. Bydd y cam hwn yn helpu i leihau’r baich ar amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys manwerthu a lletygarwch, yn ystod cyfnod sy’n parhau i fod yn heriol iawn.
Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.
Canllawiau swigod Nadolig
Mae canllawiau swigod Nadolig ar-lein. Mae'n cynnwys eitemau fel:
Aros dros nos mewn llety gwyliau - Gallwch aros mewn gwesty neu fathau eraill o lety gwyliau fel llety rhentu gwyliau yn ystod cyfnod y Nadolig, ond yng Nghymru ni allwch ond wneud hyn gyda phobl rydych chi'n byw gyda nhw (neu rywun sydd gyda chi i ddarparu gofal i berson sy'n agored i niwed).
Lleihau cyfnod Coronafeirws a hunan-ynysu i ddeng niwrnod yng Nghymru
O ddydd Iau 10 Rhagfyr, lleihawyd yr amser sydd rhaid bobl hunanynysu o 14 diwrnod i 10 yng Nghymru. Erbyn hyn, caiff teithwyr sy’n dychwelyd o wledydd nad ydynt wedi’u heithrio eu gosod dan gwarantin am ddeng niwrnod, yn hytrach na 14, fel rhan o’r newidiadau i’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020. Darllenwch y cyhoeddiad llawn ar Llyw.Cymru..
Meini prawf cymhwysedd ar gyfer trydydd grant SEISS
Os ydych chi'n hunangyflogedig neu'n aelod o bartneriaeth ac wedi cael eich effeithio gan y coronafeirws (COVID-19), dewch i weld a allwch chi ddefnyddio'r cynllun hwn i hawlio grant. Os nad oeddech chi'n gymwys i gael y grant cyntaf a'r ail grant yn seiliedig ar yr wybodaeth yn eich ffurflenni treth Hunanasesiad, ni fyddwch chi'n gymwys ar gyfer y trydydd grant. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Busnes Cymru.
Hawlio cyflogau drwy'r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws
Hawlio cyfran o gyflogau eich gweithwyr cyflogedig os ydych chi wedi'u rhoi ar ffyrlo neu ffyrlo hyblyg oherwydd y coronafeirws (COVID-19). Nodwch fod yn rhaid gwneud ceisiadau am ffyrlo ar gyfer mis Tachwedd erbyn 14 Rhagfyr. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Busnes Cymru.
Lleoedd ar gael ar gyfer Britain & Ireland Marketplace (BIM) 2021 – 26 Ionawr 2021
Mae Britain & Ireland Marketplace (BIM) 2021 yn weithdy B2B blynyddol sy’n cael ei drefnu gan Gymdeithas Gweithredwyr Teithiau Ewrop (ETOA) a fydd yn cael ei gynnal ar-lein. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 18 Rhagfyr 2020. Ewch i wefan y diwydiant twristiaeth am ragor o wybodaeth.
Gweminar ETOA ac UKinbound: y DU ac Iwerddon 2021-22
Bydd Cymdeithas Twristiaeth Ewrop (ETOA) ac UKinbound yn cynnal gweminar y DU ac Iwerddon 2021-22 ddydd Mawrth 15 Rhagfyr am 4:00 pm a byddant yn gwahodd busnesau twristiaeth yng Nghymru i fynychu. I baratoi ar gyfer y digwyddiad busnes i fusnes ‘Marchnad Prydain ac Iwerddon’, bydd Joss Croft, UKinbound, a Tom Jenkins, ETOA, yn trafod y rhagolygon ar gyfer 2021 a 2022 i’r DU ac Iwerddon.
GWYBODAETH PONTIO'R UE:
Porth Cyfnod Pontio’r UE - Casglu gwybodaeth, bod yn barod
Mae diwedd y cyfnod pontio yn prysur agosáu a bydd hyn yn golygu newidiadau i'r rheolau presennol ar fasnachu. Ewch i Borth Pontio'r UE yn rheolaidd i gael y newyddion diweddaraf.
Llythyr Pontio'r UE
Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates a'r Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi cyhoeddi llythyr ar y cyd yn tynnu sylw at y camau y mae angen i chi eu cymryd i baratoi ar gyfer y newidiadau a fydd yn digwydd ac effeithio ar weithrediadau busnes o 1 Ionawr 2021.
Y canllawiau a’r adnoddau diweddaraf gan yr ICO
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn parhau i helpu sefydliadau a busnesau i baratoi ar gyfer pob sefyllfa a bydd yn datblygu adnoddau ar gyfer cymorth pellach. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw i ddeall y mesurau sydd i’w hystyried er mwyn ail-agor y busnes yn ddiogel. Mae’r rhain yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|