Cynllunio Morol - Rhifyn 18

9 Rhagfyr 2020

 
 

Croeso

Dyma ail ar deunawfed rhifyn ein cylchlythyr i gadw'ch bys ar bỳls y datblygiadau diweddaraf wrth inni weithredu Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru. Gwnaethom gyhoeddi a mabwysiadu'r Cynllun ar 12 Tachwedd 2019. Wrth inni weithredu'r cynllun gyda'r rheini sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau, hoffem glywed eich barn chi felly cysylltwch â ni neu rhannwch y cylchlythyr hwn â'ch rhwydweithiau. I'r rheini ohonoch sydd heb ddarllen y cylchlythyr hwn o'r blaen, mae fersiynau blaenorol ohono i'w gweld yma. Fe welwch y manylion cysylltu wrth droed y cylchlythyr.

Crynodeb o'r flwyddyn

Yn ystod y flwyddyn ers lansio Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru mae’r tîm Cynllunio Morol wedi canolbwyntio ar roi’r cynllun ar waith. Er gwaetha’r heriau a fu yn ystod 2020 mae’r gwaith wedi mynd rhagddo i ddarparu adnoddau i’r Awdurdodau Cyhoeddus Perthnasol a defnyddwyr eraill y cynllun i’w helpu i roi’r cynllun ar waith. Yn ystod yr haf gwnaethom gyhoeddi’r Canllawiau Gweithredu sy’n rhoi arweiniad ymarferol ar sut i roi’r Cynllun ar waith. Dylai’r Awdurdodau Cyhoeddus Perthnasol sy’n gwneud penderfyniadau a allai effeithio ar ardal y cynllun eu hystyried.

cncc

Gan fod cynnal gweithgareddau trafod wyneb yn wyneb wedi’i atal am y tro rydym wedi creu pum gweminar a recordiwyd i esbonio mwy am y broses Cynllunio Morol a sut i roi Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru ar waith. Rydym hefyd yn cydweithio â rhanddeiliaid ar ddogfen Llywodraethu Cynllunio Morol sy’n rhoi gwybodaeth dechnegol a chanllawiau i’r cynllun ar gyfer sectorau sy’n gweithredu yn ardal Cynllun Morol Cymru.

s

Mae llawer wedi’i wneud o ran monitro ac adrodd am effeithiolrwydd y cynllun. Ym mis Ionawr, gwnaethom gyhoeddi’r Fframwaith Monitro ac Adrodd sy’n amlinellu’r dull strategol i ddatblygu dangosyddion ar gyfer monitro’r gwaith o weithredu system dan arweiniad cynllun ar gyfer dyfroedd Cymru. Ers hynny, rydym wedi bod yn gweithio i ddatblygu cyfres o ddangosyddion ar gyfer monitro’r gwaith o weithredu’r Cynllun a’i effeithiau. Y mis hwn rydym wedi lansio arolwg Monitro ac Adrodd, sy’n gofyn am safbwyntiau rhanddeiliaid. Gweler isod.

ss

Mae’r gwaith hefyd yn mynd rhagddo i ddatblygu ein dull gofodol ar gyfer Cynllunio Morol. Mae hyn yn cynnwys datblygu ymhellach y Porthol Cynllunio Morol, y prosiect Rheoli Adnoddau Naturiol Morol mewn Modd Cynaliadwy, datblygu Canllawiau Lleoliadol ar gyfer y Sectorau, ac ystyried nodi Ardaloedd Adnoddau Strategol i weithredu polisi diogelu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru. Byddwn yn parhau i ddatblygu’r gwaith hwn ymhellach yn ystod 2021.

bb

Monitro ac Adrodd – rydym eisiau eich barn

Rydym wedi comisiynu arolwg defnyddwyr i’n helpu i gasglu gwybodaeth am yr ymwybyddiaeth o Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru a sut y cafodd ei ddefnyddio yn ystod y 12 mis ers iddo gael ei fabwysiadu. Mae cymryd rhan yn yr arolwg hwn yn wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig i helpu i lywio cynllunio morol a sut i roi Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru ar waith. Rhagor o wybodaeth yma.

m&r

Y broses gydsynio forol yng Nghymru

Mae tîm Polisi Trwyddedu Morol Llywodraeth Cymru wedi llunio dau ffeithlun sy’n cynnig crynodeb:   

  • Mae ffeithlun cydsynio ynni adnewyddadwy morol yn rhoi trosolwg o’r drefn gydsynio ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy morol yn nyfroedd Cymru. Mae’r ffeithlun yn dangos pwy yw’r awdurdod cydsynio perthnasol ar gyfer prosiectau ynni ar gyfer graddfeydd gwahanol a’r ddeddfwriaeth sy’n berthnasol iddynt.
 

 

  • Mae ffeithlun Penderfyniadau ynghylch Trwyddedau Morol yn esbonio’r amrywiaeth o ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu’r broses drwyddedu forol yng Nghymru.
sss

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gweinyddu ac yn penderfynu ar geisiadau trwyddedu morol o dan Ran 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir, gan weithredu ar ran Gweinidogion Cymru. I weld rhagor o wybodaeth am drwyddedu morol cliciwch yma.

Canllawiau Lleoliadol ar gyfer Sectorau – Cysylltwch

Yn ein cylchlythyr diwethaf gwnaethom roi’r newyddion diweddaraf ar y gwaith i ddatblygu Canllawiau Lleoliadol ar gyfer Sectorau dyframaethu, ynni llif llanw ac ynni’r tonnau. Rydym eisiau sicrhau bod rhanddeiliaid yn ein helpu i lywio’r gwaith hwn ac rydym yn awyddus i glywed gennych os ydych yn gweithio yn y sectorau hyn. Yn dilyn ymholiad am gwmpas y sector sy’n canolbwyntio ar ddyframaethu gallwn gadarnhau y bydd hyn yn cynnwys pysgod asgellog, pysgod cregyn ac algâu fel is-sectorau gwahanol. Rydym yn awyddus iawn i glywed oddi wrth y rheini sy’n tyfu gwymon, oherwydd y ffordd y mae’r gweithgaredd hwn yn datblygu a’i botensial yn y dyfodol yn nyfroedd Cymru. Am ragor o wybodaeth e-bostiwch Marineplanning@llyw.Cymru

dd

Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid  Cynllunio Morol

Mae’r Grŵp yn gweithredu fel ‘ffrind beirniadol’ drwy gydol y broses cynllunio morol ac mae’n ein cynghori ar agweddau ar gynllunio morol. Rydym wedi cyfarfod â’r grŵp bum gwaith yn ystod 2020. Yn y cyfarfod ar 11 Tachwedd trafodwyd ein dull gofodol ar gyfer cynllunio morol gan gynnwys Ardaloedd Adnoddau Strategol posibl, y Canllawiau Lleoliadol ar gyfer Sectorau a’r Porthol Cynllunio Morol. Rhoddwyd y newyddion diweddaraf ar y prosiect Rheoli Adnoddau Naturiol Morol Mewn Modd Cynaliadwy. Cafwyd cyflwyniadau gan Atkins ar y contract Canllawiau Lleoliadol ar gyfer Sectorau ac oddi wrth Lywodraeth Iwerddon ar eu Fframwaith Cynllunio Morol Cenedlaethol. I weld crynodeb o’r cyfarfod cliciwch yma.

Adroddiad iawndal newydd wedi’i gyhoeddi

Rydym wedi cyhoeddi adroddiad ar y Cyfleoedd o ran iawndal a lliniaru ym maes cydsyniad morol. Mae’r adroddiad hwn yn adolygu’r gofyn i dalu iawndal statudol ac yn cyflwyno’r wybodaeth a’r arferion presennol o ran sicrhau iawndal morol (gan gynnwys taenlen ar lwybrau effeithiau a mesurau lliniaru). Gwnaeth Llywodraeth Cymru gomisiynu ABPMer i lunio’r adroddiad a thynnwyd sylw at nifer o feysydd i’w hystyried a’u trafod ymhellach â rhanddeiliaid

Newyddion Morol Cyfoeth Naturiol Cymru

Carbon ym moroedd Cymru

Mae astudiaeth newydd a gomisiynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dangos y rôl bwysig y mae’r moroedd a’r arfordiroedd yn eu chwarae wrth ddal a storio llawer o garbon. Yn ôl canlyniadau’r astudiaeth, mae cyfanswm y carbon sy’n cael ei ddal gan yr amgylchedd morol yng Nghymru bob blwyddyn yn cyfateb i allyriadau blynyddol 64,800 o geir neu 115,600 o hediadau o Gaerdydd i'r Ynysoedd Dedwydd ac yn ôl.

nrw

Mae carbon yn cael ei storio mewn organebau byw fel morwellt a physgod cregyn, ac mewn ffurfiau nad ydyn nhw’n fyw, fel mewn gwaddod ar wely’r môr ac yng nghregyn anifeiliaid morol. O’r holl gynefinoedd “carbon glas” yr edrychwyd arnynt yn yr adroddiad, roedd morfeydd heli ymhlith y rhai mwyaf effeithlon o ran dal carbon a’i roi mewn storfa hirdymor. Mae llawer o gynefinoedd “carbon glas” eisoes wedi’u diogelu drwy rwydwaith eang ardaloedd morol gwarchodedig Cymru.

Nod y gwaith o reoli’r ardaloedd hyn yw gwarchod a gwella cyflwr cynefinoedd a chryfhau ecosystemau morol. Drwy warchod, adfer a gwella cynefinoedd carbon glas, gallwn sicrhau bod yr amgylchedd morol yn parhau i chwarae rhan bwysig o ran ymateb Cymru i’r argyfwng newid hinsawdd.

Mae’r adroddiad llawn ar gael yma.

Ein Harfordir a’n Moroed: Rhoi Syniadua a’r Waith

Yn dilyn lansio'r Datganiad Ardal Forol yn gynharach eleni, rydym yn cynnal digwyddiad ar-lein morol cenedlaethol ar 13 a 14 Ionawr 2021: Ein Harfordir a’n Moroed: Rhoi Syniadua a’r Waith. Bydd y digwyddiad yn gyfle i bartneriaid a rhanddeiliaid sydd â diddordeb yn amgylchedd morol ac arfordirol Cymru ddod at ei gilydd. Bydd yn rhoi llwyfan ar gyfer cydweithredu, rhwydweithio a rhannu gwybodaeth ar raddfa leol a rhanbarthol, gyda'r nod o archwilio a datblygu syniadau ar gyfer prosiectau, y gellir eu datblygu.

Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn ein helpu i gyd i weithio gyda'n gilydd, i nodi a datblygu prosiectau ymarferol i fynd i'r afael â'r blaenoriaethau a'r cyfleoedd ar gyfer arfordiroedd a moroedd Cymru. Mae’n bosibl cofrestru nawr am gyfnod cyfyngedig. Ewch i’n Ein Harfordir a'n Moroedd i gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru.

 Rydym yn eich annog i ddosbarthu'r gwahoddiad hwn ymysg eich cydweithwyr, eich partneriaid a'ch rhwydweithiau. Os dymunwch gyfrannu i’r digwyddiad hwn cysylltwch â: marine.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Cysylltwch a ni

Os oes gennych gwestiynau am y bwletin hwn neu am unrhyw beth arall, cysylltwch â ni trwy'r blwch negeseuon e-bost neu ewch i'n gwefannau.

 
 
 

AMDANOM NI

Cyhoeddwyd y Cynllun Morol cyntaf ar 12 Tachwedd 2019. Mae'n amlinellu ein polisi ar gyfer defnyddio'n moroedd mewn ffordd gynaliadwy dros yr 20 mlynedd nesaf.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/cynllunio-morol

Dilyn ar-lein:

@LlC_pysgodfeydd

@WGMIN_rural