Newyddlen Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

3 Rhagfyr 2020

 
  031220 FDWIB Header W

Does dim dwywaith amdani, rydyn ni'n byw trwy gyfnod ymestynnol i'n gwlad a'n diwydiant. Wrth i ni ddechrau cymryd camau petrus i ailagor yn dilyn y cyfnod atal diweddar yng Nghymru, ac wrth i ni nesáu at ddiwedd Cyfnod Pontio'r UE, rydyn ni'n cydnabod heb os nac oni bai, bod gan ein diwydiant 'lawer ar ei blât'.

FDWIB - Andy Richardson

Gyda chyfyngiadau a chanllawiau newydd o gylch gwahardd gwerthu alcohol a chau am 6pm yn dod i rym i fusnesau lletygarwch dydd Gwener, 4 Rhagfyr, rydyn ni'n gwybod bod pryderon lu'n wynebu busnesau bwyd a diod Cymru. Ein nod yw bod yn gadarn fel Bwrdd – a gweithio gyda'n diwydiant a'r Llywodraeth i glustnodi'r materion niferus sy'n effeithio ar ein maes a mynd i'r afael â nhw, a darparu atebion brys ac ymarferol lle bo modd.

Hwyrach eich bod chi wedi darllen bod y Gweinidog wedi gwneud penodiadau newydd i'n Bwrdd yn ddiweddar. Bydd y rhain yn cryfhau ein profiad, ein hamrywiaeth a'n cynrychiolaeth. Rwy'n falch o gael gweithio gyda Bwrdd sy'n hollol benderfynol o wneud gwahaniaeth i'n diwydiant. Felly'r cwestiwn yw, sut gallwn ni helpu?

Ynghyd â'r grwpiau clwstwr, gall y Bwrdd a'i aelodau ddarparu arweiniad a chymorth i helpu'r diwydiant i ffeindio'i ffordd trwy'r sialensiau hyn. O wybodaeth am ffyrdd o agor y sector lletygarwch yn ddiogel, i fanylion y rheoliadau masnach newydd, gallwn ni eich cyfeirio chi at y wybodaeth sydd ei hangen nawr, a lleisio'ch pryderon a'ch cwestiynau i'r Llywodraeth, yng Nghymru a San Steffan.

Mae aelod o'r Bwrdd, James Wright, Cyfarwyddwr Marchnata Distyllfa Aber Falls, wedi bod yn rhannu sut aeth ei ddistyllfa ati i baratoi ar gyfer diwedd Cyfnod Pontio'r DU mewn ffilm newydd mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU yng Nghymru. Gallwch wylio'r ffilm yma i gael rhagor o fanylion.

Os hoffech chi gysylltu â fi'n uniongyrchol i drafod y materion y mae'ch busnes neu'ch sector yn eu hwynebu, e-bostiwch Chair.FDWIB@gov.wales. Nawr yw'r amser i weithio gyda'n gilydd, codi unrhyw bryderon a chynnig atebion er mwyn sicrhau llwyddiant a chynaliadwyedd parhaus y diwydiant.

Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Y newyddion am Covid-19 a diwedd Cyfnod Pontio'r UE i fusnesau bwyd a diod

031220 FDWIB Latest

Y newyddion diweddaraf o'r diwydiant

031220 FDWIB News

Camau allweddol diweddar gan y Bwrdd

031220 FDWIB Board
  • Cafodd y Bwrdd gyfarfod â Chroeso Cymru i drafod effaith Covid-19 ar y diwydiant lletygarwch a thwristiaeth ar draws Cymru. Mae'r Bwrdd yn gweithio gyda Chroeso Cymru i helpu i fynd i'r afael â'r sialensiau sydd wedi codi yn sgil y pandemig, ac er mwyn helpu i wella cynaliadwyedd busnesau wrth edrych tua'r dyfodol.
  • Cafodd y Bwrdd gyfarfod â FareShare Cymru i edrych ar ffyrdd y gall busnesau ddod at ei gilydd i gynorthwyo cymunedau bregus yng Nghymru. Bydd y Bwrdd yn parhau i weithio gyda FareShare Cymru i annog busnesau i gymryd rhan cyn y Nadolig ac i mewn i 2021.
  • Mae ein ffocws ar sgiliau yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru'n parhau. Rydyn ni'n helpu i dynnu sylw at yr angen am gynlluniau prentisiaeth a'u datblygiad ar draws pob sector yn y diwydiant.
  • Mae'r Bwrdd yn cydweithio'n agos â busnesau bwyd a diod BAME (pobl dduon ac Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig) hefyd er mwyn sicrhau cynrychiolaeth gyfartal a chyfathrebu o fewn y diwydiant.
  • Mae'r Bwrdd yn dal i weithio ar y cynllun cyflawni ar gyfer strategaeth adfer Covid-19 gyda ffocws ar unarddeg o bynciau allweddol, gan gynnwys gwybodaeth am y farchnad, cyngor busnes, gwerthu ar lein, cynhyrchiant a dycnwch busnes, rheoli risgiau, ychwanegu gwerth, cyllid fforddiadwy, achrediad y diwydiant, cynllun manwerthu, modelau busnes cynaliadwy wrth fasnachu'n rhyngwladol, a datblygu sgiliau newydd.
  • Mae'r Clwstwr Cynaliadwyedd yn arwain y ffordd wrth ddatblygu systemau cynhyrchu cynaliadwy ar gyfer pob busnes bwyd a diod yng Nghymru er mwyn ategu ein Brand a'i werthoedd o ran bwyd cynaliadwy.
  • Mae'r Bwrdd yn parhau i rannu dolenni at wybodaeth, cefnogaeth a phecynnau cymorth trwy Twitter a LinkedIn.

Masnach heb deithio

031220 FDWIB Trade

Y mis diwethaf, cynhaliwyd Expo Rhithwir Allforio Bwyd Ardal yr Iwerydd, ffrwyth prosiect tair blynedd wedi ei ariannu gan yr UE a Llywodraeth Cymru i gynorthwyo masnach a chydweithio ymysg cynhyrchwyr bwyd yn ardal môr Iwerydd.

Daeth yr Expo Rhithwir â chynhyrchwyr, mewnforwyr, asiantaethau a'r bobl sy'n gyfrifol am lunio polisi ym maes bwyd at ei gilydd am achlysur ar lein tri diwrnod o hyd. Ffocws yr achlysur oedd edrych sut y gall cynhyrchwyr bwyd a diod llai sydd â'u ffocws ar ansawdd gyflawni canlyniadau trwy ddilyn modelau allforio cydweithredol.

Mewn blynyddoedd blaenorol, achlysuron wyneb yn wyneb oedd achlysuron Prosiect Allforio Bwyd yr Iwerydd ar ffurf sioeau masnach oedd yn cyflwyno cynhyrchwyr bwyd â marchnadoedd rhyngwladol. Fel sawl maes gwaith arall, gorfododd pandemig y coronafeirws Brosiect Allforio Bwyd yr Iwerydd i feddwl am ffyrdd eraill o fynd ati am nad yw teithio'n bosibl.

Am fod yr achlysur ar lein, bu modd i'r Prosiect Allforio gynnal teithiau masnach rhithwir gyda'r rhai yn Llundain, Denmarc, Sweden, Gwlad Belg a'r Iseldiroedd.

Mynychodd aelod o'r Bwrdd, Alison Lea-Wilson, yr achlysur a dywedodd "Mae'r cydweithio trwy'r prosiect yma wedi gweithio ar sawl lefel wahanol. Mae cymryd rhan yn Allforio Bwyd yr Iwerydd wedi rhoi mwy o gysylltiadau i ni yn y marchnadoedd y gallwn fanteisio arnynt i'n cyflwyno i lwybrau eraill i'r farchnad.  Rydyn ni wedi cwrdd â darpar-bartneriaid sydd wedi bod yn defnyddio ein cynnyrch yn eu gweithgareddau i ddatblygu cynnyrch newydd trwy'r prosiect hefyd.”

Cynhyrchwr arall sydd wedi ymuno yn y cyfarfodydd cydweithio yn y gwahanol ranbarthau, gan gynnwys Belffast, ardal y Dordogne, a gogledd Portiwgal yw Sokhy Sandhu o Samosaco. Dywedodd, “Rhoddodd y prosiect yma gyfle i ni gwrdd â chynhyrchwyr bwyd o wledydd eraill ac ar hyn o bryd rydyn ni'n ystyried cyfle i gydweithio â chwmni yn Seville.  Rydyn ni wedi gallu rhannu gwybodaeth am ein cyflenwyr sydd wedi helpu busnesau eraill hefyd. Mae'r prosiect wedi ein cynorthwyo ni i ddeall y gwahanol farchnadoedd a beth y mae angen i ni ei wneud i ddatblygu ein presenoldeb yn y marchnadoedd hynny. Fel cynhyrchwyr cynnyrch figan, gallwn weld bod y cyfleoedd mewn marchnadoedd Ewropeaidd yn tyfu gan ddilyn tuedd y DU.”

I gael rhagor o wybodaeth am Brosiect Expo yr Iwerydd, ewch i http://atlanticfoodexport.eu/ (Saesneg yn unig)

 

Cadwch mewn cysylltiad am ddiweddariadau ar Twitter a LinkedIn Ymunwch â'n Grŵp Facebook i rannu gweithluoedd. Cysylltwch â ni trwy e-bost yn Chair.FDWIB@gov.wales

 
 
 

AMDANOM NI

Y newyddion diweddaraf, gwybodaeth a chymorth i sector bwyd a diod Cymru, gan Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@FoodDrinkWIB

 

Dilynwch ni ar LinkedIn:

Food and Drink Wales Industry Board

 

Dilynwch ni ar Facebook:

Welsh food and drink workforce collaboration