Bwletin Newyddion: Canllawiau Swigod Nadolig, Hunanynysu Coronafeirws a cwarantin wedi'i leihau, Trafodaeth Pontio'r UE gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, Marchnad rithiol Britain & Ireland Marketplace (BIM) 2021

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

9 Rhagfyr 2020


cv

Canllawiau swigod Nadolig

Mae canllawiau swigod Nadolig ar-lein. Mae'n cynnwys eitemau fel: 

Aros dros nos mewn llety gwyliau - Gallwch aros mewn gwesty neu fathau eraill o lety gwyliau fel llety rhentu gwyliau yn ystod cyfnod y Nadolig, ond yng Nghymru ni allwch ond wneud hyn gyda phobl rydych chi'n byw gyda nhw (neu rywun sydd gyda chi i ddarparu gofal i berson sy'n agored i niwed).


Lleihau cyfnod Coronafeirws a hunan-ynysu i ddeng niwrnod yng Nghymru

O ddydd Iau Rhagfyr 10fed bydd yr amser y mae’n rhaid i bobl hunan-ynysu yn cael ei leihau o 14 niwrnod i ddeg yng Nghymru.

Caiff teithwyr sy’n dychwelyd o wledydd nad ydynt wedi’u heithrio eu gosod dan gwarantin am ddeng niwrnod, yn hytrach na 14, fel rhan o’r newidiadau i’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.

Darllenwch y cyhoeddiad llawn ar llyw.cymru.



NEWYDDION ERAILL:

Llythyr Pontio'r UE a Thrafodaeth gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru – dydd Iau 10 Rhagfyr

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates a'r Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi cyhoeddi llythyr ar y cyd yn tynnu sylw at y camau y mae angen i chi eu cymryd i baratoi ar gyfer y newidiadau a fydd yn digwydd ac effeithio ar weithrediadau busnes o 1 Ionawr 2021.

Byddant yn cynnal gweminar ar y cyd i siarad yn uniongyrchol â busnes yng Nghymru am yr heriau a'r cyfleoedd y mae diwedd y Cyfnod Pontio yn eu cyflwyno. Bydd yn cael ei gynnal ar 10 Rhagfyr 2020, rhwng 11.30am a 12.15pm. Cofrestrwch yma.


Lleoedd ar gael ar gyfer Britain & Ireland Marketplace (BIM) 2021 – 26 Ionawr 2021

Mae Britain & Ireland Marketplace (BIM) 2021 yn weithdy B2B blynyddol sy’n cael ei drefnu gan Gymdeithas Gweithredwyr Teithiau Ewrop (ETOA) a fydd yn cael ei gynnal ar-lein.

I sbarduno cynlluniau adfer busnesau yn sgil COVID-19, bydd Croeso Cymru yn talu costau i hyd at 12 o gwmnïau cymwys fynychu’r digwyddiad hwn; bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i gyflenwyr llety. Bydd meini prawf dethol Croeso Cymru yn gymwys i’ch cais.

Mae’r digwyddiad yn arbennig o addas ar gyfer y grwpiau canlynol a rhaid bod gennych ddiddordeb a’r gallu i gontractio / gwerthu drwy’r diwydiant teithio i gymryd rhan:

  • Gwestai
  • Atyniadau
  • Gweithredwyr ymweld ag atyniadau

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 18 Rhagfyr 2020.

Ewch i wefan y diwydiant twristiaeth am ragor o wybodaeth.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram