Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

4 Rhagfyr 2020


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN Cyfyngiadau newydd o 6pm heddiw (dydd Gwener 4 Rhagfyr); Y Prif Weinidog yn cyhoeddi’r cyfyngiadau teithio diweddaraf i atal coronafeirws; Cymorth o £340m ar gyfer busnesau Cymru wrth i’r rheolau coronafeirws newydd gael eu cyhoeddi; Cronfa Gweithwyr Llawrydd Cam 3; Cyfnod Pontio’r UE: Y canllawiau diweddaraf ar gyfer busnesau a sefydliadau gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth; Beth i’w ddisgwyl pan fydd HSE yn ymweld â’ch busnes; Y Rheoleiddiwr Pensiynau: Eich atgoffa o’ch cyfrifoldebau pensiwn gweithle


Cyfyngiadau newydd o 6pm heddiw (dydd Gwener 4 Rhagfyr)

 O 6pm heddiw (dydd Gwener, 4 Rhagfyr) bydd rhai cyfyngiadau ychwanegol yn cael eu cyflwyno i adlewyrchu nifer cynyddol o achosion o coronafeirws yng Nghymru. Yn benodol:

  • bydd yn ofynnol i fwytai, caffis, bariau a thafarndai gau am 6pm ac ni ellir gweini alcohol ar unrhyw adeg. Ar ôl 6pm, dim ond gwasanaethau tecawê y byddant yn gallu eu darparu;
  • bydd angen i leoliadau celfyddydol ac adloniant, a atyniadau twristiaeth dan do gau.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael:


Y Prif Weinidog yn cyhoeddi’r cyfyngiadau teithio diweddaraf i atal coronafeirws  

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cadarnhau na chaniateir teithio rhwng Cymru ac ardaloedd o gyfraddau coronafeirws uchel y DU o 6pm heddiw (dydd Gwener 4 Rhagfyr).  Bydd rheoliadau coronafeirws Cymru’n cael eu diwygio i wahardd teithio i ac o ardaloedd haen tri yn Lloegr; ardaloedd lefel tri a phedwar yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ei chyfanrwydd gan ei bod o dan gyfyngiadau symud ar hyn o bryd.

Bydd canllawiau teithio newydd yn cael eu cyhoeddi yn cynghori pobl yng Nghymru’n gryf i beidio â theithio i rannau eraill o’r DU sydd â lefelau coronafeirws is – ardaloedd haen un a dau yn Lloegr neu ardaloedd lefel un a dau yn yr Alban – i helpu i reoli lledaeniad y feirws.

Bydd yr holl gyfyngiadau ar deithio yn y DU yn cael eu hatal rhwng 23 a 27 Rhagfyr i alluogi pobl i gwrdd ag aelodau o’u swigen Nadolig. Bydd pobl sy’n teithio i Ogledd Iwerddon, ac oddi yno, yn cael teithio y diwrnod cyn y cyfnod hwn, a’r diwrnod wedyn.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Cymorth o £340m ar gyfer busnesau Cymru wrth i’r rheolau coronafeirws newydd gael eu cyhoeddi

Cyhoeddwyd pecyn cymorth gwerth £340m gan y Prif Weinidog Mark Drakeford i gefnogi sectorau lletygarwch a thwristiaeth a sectorau cadwyn gyflenwi cysylltiedig drwy'r set newydd o gyfyngiadau sy'n cael eu cyflwyno o ddydd Gwener, 4 Rhagfyr. Bydd y gronfa'n cael ei rhannu fel a ganlyn:

  • Cronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud gwerth £160m: I ddarparu cymorth gyda chostau gweithredu ar gyfer effaith tymor byr i hyd at 60,000 o fusnesau sy’n cael eu heffeithio’n sylweddol o ganlyniad i gyfyngiadau cenedlaethol. Yn gysylltiedig â’r system ardrethi annomestig.
  • Cymorth Penodol i’r Sector gwerth £180m (cost gweithredu) wedi’i alinio â chyfyngiadau diffiniedig. 
  • Parhad y Grantiau Dewisol Lleol a gyflwynir gan awdurdodau lleol 
  • Mae’r cymorth sydd ar gael drwy’r pecyn yn ychwanegol at gynlluniau Llywodraeth y DU.

Darllenwch gyhoeddiad y Prif Weinidog yn llawn ar Gov.Wales.

Gallwch hefyd ddarllen cyhoeddiad Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru am gymorth ariannol i fusnesau yr effeithir arnynt gan gyfyngiadau ychwanegol i ddechrau ar 4 Rhagfyr 2020.

Manylion a Chwestiynau Cyffredin ar y Gronfa ERF Busnesau dan Gyfyngiadau a “Cronfa Sectorau penodol” ar gael.


Cronfa Gweithwyr Llawrydd Cam 3

Mae Cronfa Gweithwyr Llawrydd Cam 3 yn cau ar ddydd Llun 7 Rhagfyr 2020 am 5yp.  Byddwn yn cefnogi gweithwyr llawrydd sy'n gweithio mewn digwyddiadau sydd wedi cael eu heffeithio’n sylweddol gan y Pandemig, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio mewn priodasau a digwyddiadau corfforaethol, ond nid digwyddiadau chwaraeon.  Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru


Cyfnod Pontio’r UE: Y canllawiau diweddaraf ar gyfer busnesau a sefydliadau gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Os ydy eich sefydliad yn anfon gwybodaeth bersonol i wledydd yn yr UE, neu’n derbyn gwybodaeth ganddynt, mae’n rhaid i chi weithredu nawr i wneud yn siŵr bod y llif data yn gallu parhau’n gyfreithlon.

Mae’n bwysig eich bod yn gwneud yn siŵr bod eich sefydliad wedi paratoi’n briodol ar gyfer pob senario ymadael, pa un ai a ydych chi’n unig fasnachwr neu’n fusnes bach neu’n sefydliad rhyngwladol mawr.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Beth i’w ddisgwyl pan fydd HSE yn ymweld â’ch busnes

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi paratoi canllawiau ar gyfer pobl ym myd busnes sydd â dyletswyddau o dan y gyfraith iechyd a diogelwch, er enghraifft, cyflogwyr a’r rheini sy’n rheoli yn y gweithle.  Maent yn esbonio beth gallwch chi ei ddisgwyl pan fydd arolygydd iechyd a diogelwch yn galw heibio i’ch gweithle.  Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Y Rheoleiddiwr Pensiynau: Eich atgoffa o’ch cyfrifoldebau pensiwn gweithle

Mae’r Rheoleiddiwr Pensiynau wedi parhau i fonitro pensiynau gydol argyfwng y pandemig, gan sicrhau eu bod yn cefnogi cyflogwyr a’r rhai sy’n cynilo yn ystod y cyfnod anodd hwn. Efallai bod eich busnes wedi newid yn sgil COVID-19, ond nid yw eich cyfrifoldebau tuag at eich staff wedi newid.  Os yw’ch staff yn gweithio neu ar ffyrlo, ni ddylent golli eu pensiwn.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw i ddeall y mesurau sydd i’w hystyried er mwyn ail-agor y busnes yn ddiogel.  Mae’r rhain yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19)


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram