Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

26 Tachwedd 2020


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN –  Pedair gwlad y DU yn cytuno ar reolau newydd ar gyfer cyfnod yr ŵyl; Cynnal Cyfarfodydd ar gyfer hyd at 15 o bobl dan dô; Digwyddiadau dros y Nadolig – Cwestiynau Cyffredin; Casglu gwybodaeth, bod yn barod - diwedd cyfnod pontio'r UE; Arolwg Tracio Cwsmeriaid Twristiaeth y DU COVID-19; Deddfwriaeth ddi-fwg yng Nghymru – Canllawiau drafft;  Y Canllawiau Diweddaraf ar y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws; Sefydliad Rheoli Cyrchfan newydd ar gyfer ‘Visit Pembrokeshire’;  Rhybuddio cwsmeriaid Hunanasesu am sgamwyr sy’n hawlio eu bod nhw o Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi; Canllawiau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i gyflogwyr ar adrodd am rwymedigaethau ar gyfer taliadau a wneir yn gynnar adeg y Nadolig;  Rydyn ni am glywed eich barn – ymgynghoriad ar y Comisiynydd Busnesau Bach; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19.


Pedair gwlad y DU yn cytuno ar reolau newydd ar gyfer cyfnod yr ŵyl

Mae llywodraethau pedair gwlad y DU wedi cytuno ar gyfres eang o fesurau ar gyfer y DU gyfan i helpu pobl i ddod at ei gilydd gyda'u hanwyliaid yn ystod cyfnod yr ŵyl, mewn ffordd sydd mor ddiogel â phosibl.  Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn ar llyw.Cymru,

Mae'r cyd-ddatganiad yn tynnu sylw at y ffaith ei bod yn bwysig bod pawb yn parchu ac yn cadw at reolau pob gwlad, lle bynnag y maen nhw’n dewis treulio tymor y Nadolig – a lle mae trefniadau gwahanol ar waith, bydd y rhain yn cael eu datgan gan y gwahanol weinyddiaethau. Cyhoeddir rhagor o ganllawiau maes o law.


Cynnal Cyfarfodydd ar gyfer hyd at 15 o bobl dan dô 

Caniateir i leoliadau rheoledig gynnal cyfarfodydd ar gyfer hyd at 15 o bobl y tu mewn cyn belled â bod y lleoliad yn cydymffurfio â'r Rheoliadau. Gellir cynnal cyfarfodydd y tu mewn am hyd at 15 os gallant ddangos bod pawb sy'n bresennol yn gweithio a'i bod yn “rhesymol angenrheidiol” gwneud hynny ac nad oes “unrhyw ddewis arall rhesymol ymarferol” (ee yr angen i brofi rheswm busnes i gwrdd mewn person ar gyfer hyfforddiant ymarferol na ellir ei wneud yn rhithiol).  Mae'r Rheoliadau'n caniatáu mwy nag un cyfarfod o hyd at 15 ar yr un pryd yn yr un lleoliad, ond o wahanol sefydliadau. Mae'n ofynnol i fesurau pellhau cymdeithasol, lliniaru rhesymol ac asesiadau risg cynhwysfawr gydymffurfio.

Mae rhagor o fanylion am y Rheoliadau Coronafeirws ar gael.


Digwyddiadau dros y Nadolig – Cwestiynau Cyffredin

Mae Cwestiynau Cyffredin am ddigwyddiadau'r Nadolig, gan gynnwys sut y dylech eu cynnal os o gwbl, ar gael ichi eu gweld ar-lein. Sylwch: mae’r Cwestiynau Cyffredin hyn yn atodiad i Diogelu Cymru, Canllawiau ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch.


Casglu gwybodaeth, bod yn barod - diwedd cyfnod pontio'r UE

Gadawodd y DU yr UE ar 31 Ionawr ac mae wedi bod mewn cyfnod pontio a fydd yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2020.  Mae diwedd y cyfnod pontio yn prysur agosáu a bydd hyn yn golygu newidiadau i'r rheolau presennol ar fasnachu, yn ogystal â'r hawl i deithio heb fisâu i wledydd eraill yr UE.

I weld adnoddau defnyddiol a’r meysydd pwysig y dylai busnesau ystyried a oes angen iddyn nhw baratoi ar eu cyfer, ewch i wefan Busnes Cymru Porth Cyfnod Pontio'r UE.


Arolwg Tracio Cwsmeriaid Twristiaeth y DU COVID-19

Mae Croeso Cymru’n dal i gydweithio â VisitBritain a VisitScotland i dracio cwsmeriaid y DU.  Cyhoeddir y canlyniadau bob bythefnos ac i weld rhai cyfnod 9-13 Tachwedd (Ton 19), ewch i wefan VisitBritain.


Deddfwriaeth ddi-fwg yng Nghymru – Canllawiau drafft

Ar 29 Medi, cyhoeddodd Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y daw rheolau di-fwg newydd i rym ar 1 Mawrth 2021. Mae copi o ddatganiad y Gweinidog ar gael ichi ei weld.

Bydd llawer o’r gofynion presennol yn cael eu cadw ond rydym yn gwneud newidiadau i estyn y gwaharddiad smygu i ragor o leoedd cyhoeddus yng Nghymru. Bydd y mesurau newydd yn gwahardd smygu ar dir ysgolion ac ysbytai, mannau chwarae cyhoeddus a mannau gofalu awyr-agored i blant. Bydd newidiadau hefyd yn y sector twristiaeth. Lle bo’r hawl gan westeion ar hyn o bryd i smygu mewn  ystafelloedd gwely mewn gwestai, llety ac ati, bydd hynny’n cael ei wahardd yn raddol, a bydd yn rhaid i wyliau hunan-ddarpar a llety dros dro (fel carafanau, bythynnod, apartmentau ac ati) hefyd fod yn ddi-fwg.  Er y daw’r rhan fwyaf o’r gofynion di-fwg newydd i rym ar 1 Mawrth 2021, bydd y sector twristiaeth yn cael 12 mis i baratoi ar eu cyfer.  Felly, o 1 Mawrth 2022, rhaid i bob llety fod yn ddi-fwg.

Bydd canllaw newydd yn cael ei baratoi i helpu i esbonio’r ddeddf newydd. Os hoffech weld fersiwn ddrafft, e-bostiwch TobaccoPolicy@llyw.cymru. Bydd angen i’ch sylwadau amdano ein cyrraedd erbyn 5pm, brynhawn Llun, 7 Rhagfyr. Rydym am gyhoeddi’r canllaw terfynol erbyn diwedd Rhagfyr yn adran smygu gwefan Llywodraeth Cymru.


Y Canllawiau Diweddaraf ar y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws

Mae’r canllawiau ar hawlio ar gyfer cyflogau gweithwyr drwy’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws wedi’u diweddaru. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Busnes Cymru.


Sefydliad Rheoli Cyrchfan newydd ar gyfer ‘Croeso Sir Benfro

Ar ddydd Gwener 6 Tachwedd, pleidleisiodd aelodau Twristiaeth Sir Benfro i gymeradwyo dau benderfyniad arbennig, a gwblhaodd un o gamau olaf y broses o sefydlu Sefydliad Rheoli Cyrchfan newydd. Dyma’r sefydliad cyntaf o'i fath yng Nghymru – ac un o'r ychydig yn y DU. Mae manylion llawn ynglŷn â sut y bydd y sefydliad yn gweithio a'i Brif Weithredwr newydd ar-lein.


Rhybuddio cwsmeriaid Hunanasesu am sgamwyr sy’n hawlio eu bod nhw o Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi

Dylai cwsmeriaid Hunanasesu gadw llygad ar agor am droseddwyr sy’n hawlio eu bod nhw o Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC).  Gan fod yr adran yn cyhoeddi miloedd o negeseuon SMS ac e-bost fel rhan o’i hymgyrch flynyddol i annog pobl i lenwi eu ffurflenni treth Hunanasesu, mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn rhybuddio cwsmeriaid sy’n llenwi eu ffurflenni i osgoi cael eu twyllo gan sgamwyr. Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd ffurflenni treth yw 31 Ionawr 2021.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Canllawiau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i gyflogwyr ar adrodd am rwymedigaethau ar gyfer taliadau a wneir yn gynnar adeg y Nadolig

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn gwybod bod rhai cyflogwyr yn talu eu gweithwyr yn gynt nag arfer dros gyfnod y Nadolig, er enghraifft, efallai fod y busnes yn cau ar gyfer y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.  Os ydych chi'n talu'n gynnar, nodwch eich dyddiad talu arferol ar eich Cyflwyniad Taliad Llawn (FPS).  Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Rydyn ni am glywed eich barn – ymgynghoriad ar y Comisiynydd Busnesau Bach

Mae ymgynghoriad wedi’i lansio gyda’r nod o roi mwy o bŵer i’r Comisiynydd Busnesau Bach fel y gall gefnogi busnesau a datrys problemau taliadau hwyr.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw i ddeall y mesurau sydd i’w hystyried er mwyn ail-agor y busnes yn ddiogel.  Mae’r rhain yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19)


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram