Newyddlen Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

18 Tachwedd 2020

 
  181120 FDWIB Header W

Mae llawer o fusnesau ar draws y sector wedi dechrau ailagor eu drysau ar ôl diwedd y ‘cyfnod atal’ dau ddiwrnod ar bymtheg o hyd yng Nghymru. Rydyn ni'n cydnabod bod yr ansicrwydd a'r amgylchiadau'n dal i fod yn anodd i filoedd o fusnesau ar draws diwydiant bwyd a diod Cymru. Gyda hynny mewn golwg, rydyn ni yma i gynnig cymorth ac i barhau i godi eich pryderon gyda’r bobl sydd angen eu clywed.

FDWIB - Andy Richardson

Wrth gwrs, rwy'n eich annog i barhau i gysylltu â fi ac ag aelodau eraill y Bwrdd i rannu eich pryderon, codi cwestiynau a helpu i benderfynu beth yw'r atebion gorau yn ystod y cyfnod hwn.

Mae hi'r un mor bwysig nad yw busnesau'n anghofio am y sialensiau pellach y bydd y diwydiant yn eu hwynebu yn Ionawr 2021 pan ddaw Cyfnod Pontio'r DU i ben. Er bod llawer o fusnesau'n dal i fod wrthi'n delio â sgil-effeithiau Covid-19, mae hi'n hanfodol ein bod ni i gyd yn parhau i flaengynllunio er mwyn paratoi ar gyfer y newidiadau anochel a fydd yn effeithio ar fewnforio ac yn allforio cynnyrch. Fe wnawn ni'n gorau glas i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwedd Cyfnod Pontio'r DU dros y dyddiau hollbwysig sydd i ddod, a byddwn ni'n mynd â'ch pryderon a'ch cwestiynau'n syth at galon y Llywodraeth yng Nghymru a San Steffan.

Mae hi'n bleser mawr gen i gyhoeddi bod pum person newydd wedi cael eu penodi i'r Bwrdd gan ddod â chyfoeth o sgiliau a phrofiadau newydd o bob math yn eu sgil. Byddan nhw'n ymuno â'r Bwrdd cyfredol ac yn gweithio i helpu i adfer y diwydiant yn sgil Covid-19, wrth i ni baratoi hefyd ar gyfer diwedd Cyfnod Pontio'r DU a'n strategaeth ar gyfer twf yng Nghymru yn y dyfodol. Dyma'r pump aelod newydd: Dr Rhian Hayward, James Wright, Don Thomas, Margaret Ogunbanwo a Bryson Craske. Does dim amheuaeth gen i y bydd hyd a lled profiadau, egni ac uchelgais y Bwrdd yn sbarduno ein llwyddiant at y dyfodol.

Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Y newyddion am Covid-19 a diwedd Cyfnod Pontio'r DU i fusnesau bwyd a diod

181120 FDWIB Latest

Y newyddion diweddaraf o'r diwydiant

181120 FDWIB News

Camau allweddol diweddar gan y Bwrdd

181120 FDWIB Board
  • Cafodd y Bwrdd gyfarfod â Synnwyr Bwyd Cymru i drafod effaith Covid-19 ar dlodi bwyd ar draws Cymru. Mae'r Bwrdd yn gweithio'n ymarferol gyda Synnwyr Bwyd Cymru a Llywodraeth Cymru i geisio mynd i'r afael â'r sialensiau pwysig yma a gwella diogelwch bwyd yng Nghymru.
  • Mae'r Bwrdd yn parhau i hyrwyddo buddiannau busnesau bwyd a diod Cymru gyda Llywodraeth Cymru, a Llywodraeth San Steffan ar faterion nad ydynt wedi eu datganoli, wrth i ni ddod i ddiwedd Cyfnod Pontio'r DU. Rydyn ni'n cynnal cyfarfodydd dyddiol ag adrannau a swyddogion allweddol o'r Llywodraeth i hyrwyddo'r materion sy'n bwysig i fusnesau bwyd a diod yng Nghymru. Ein nod yw rhannu'r wybodaeth sydd ei hangen ar fusnesau bwyd a diod yng Nghymru wrth iddi godi yn ystod y cyfnod allweddol yma.
  • Mae'r Bwrdd yn dal i weithio ar y cynllun cyflawni ar gyfer strategaeth adfer Covid-19 gyda ffocws ar un ar ddeg o bynciau allweddol, gan gynnwys gwybodaeth am y farchnad, cyngor busnes, gwerthu ar lein, cynhyrchiant a dycnwch busnes, rheoli risgiau, ychwanegu gwerth, cyllid fforddiadwy, achrediad y diwydiant, cynllun manwerthu, modelau busnes cynaliadwy wrth fasnachu'n rhyngwladol, a datblygu sgiliau newydd.
  • Mae'r Bwrdd yn parhau i weithio gyda'r grwpiau clwstwr ar brosesau i bennu nodau cynaliadwy i'w cymhwyso i fwy a mwy o fusnesau a brandiau ar draws Cymru.
  • Mae'r Bwrdd yn parhau i weithio gyda Chanolfan Fwyd Zero2Five i ddatblygu cynlluniau ar gyfer arloesi mewn cadwyni bwyd ar gyfer sectorau gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd.
  • Mae'r Bwrdd yn parhau i rannu dolenni at wybodaeth, cefnogaeth a phecynnau cymorth trwy Twitter a LinkedIn.

Canllawiau'r Bwrdd:

Sut i ddargyfeirio bwyd dros ben i blatiau'r bobl sydd mewn angen

181120 FDWIB HowTo1

Un o effeithiau'r pandemig Covid-19 yw gwneud y gymdeithas yn fwy cysylltiedig â bwyd a chadwyni cyflenwi, o’r problemau o gylch prynu mewn panig mewn archfarchnadoedd i ddosbarthu bwyd i bobl sy'n gwarchod. Mae ar fwy o gymunedau yng Nghymru nag erioed o'r blaen angen bwyd, felly sut gall eich busnes neu'ch sefydliad chi helpu?

Pa gynhyrchion bwyd allaf i eu hailddosbarthu? Unrhyw fath o fwyd sydd dros ben sydd mewn cyflwr da i'w ailddosbarthu - o fwydydd a chamgymeriadau labelu, mathau o gynnyrch sydd wedi eu terfynu, a ffrwythau a llysiau sydd wedi pasio eu dyddiad ‘ar eu gorau cyn’, i gynnyrch swmp ar gyfer gweithgynhyrchu. Gall yr elusen Fare Share Cymru storio ac ailddosbarthu pob math o fwydydd ffres, wedi rhewi, aer-sefydlog ac wedi oeri yn ddiogel, gan gynnwys bwydydd brand y gwerthwr.

I ble mae'r bwyd yn mynd?  Pobl a grwpiau cymunedol ar draws Cymru sy'n elwa ar y bwydydd sydd dros ben, gan gynnwys llochesi i bobl ddigartref, banciau bwyd a chlybiau brecwast mewn ysgolion.

Pam ddylwn i ailddosbarthu bwyd sydd dros ben? Mae hi wedi bod yn flwyddyn ymestynnol i lawer ohonom, ac yn enwedig i bobl sydd mewn categorïau bregus, pobl ddigartref a theuluoedd sy'n byw mewn tlodi. Trwy ddargyfeirio bwydydd a fyddai'n mynd yn wastraff fel arall, gallwch helpu i sicrhau bod pobl yn eich cymuned yn cael y bwyd sydd ei hangen arnynt, a lleihau effaith eich sefydliad ar yr amgylchedd hefyd.

Wrth gwrs, mae llawer o fusnesau yng Nghymru o dan bwysau oherwydd y pandemig Covid-19 ac am eu bod yn paratoi ar gyfer Cyfnod Pontio'r DU, ond mae dargyfeirio gwastraff bwyd yn gyfle pwysig i helpu cymunedau Cymru, ac felly'n rhywbeth na ddylech ei ddiystyru.

Mae Canllaw ar Ddosbarthu Bwyd Sydd Dros Ben diweddaraf Fair Share Cymru'n esbonio hyn yn fwy manwl.

Cysylltwch â'r tîm yn Fare Share Cymru i gael rhagor o fanylion

Sut i gael hyfforddiant a chymorth busnes am ddim ar gyfer BBaCh Cymru yn y Sector Bwyd a Diod Iachus

181120 FDWIB HowTo2

Nid yw ffyrdd iach o fyw erioed wedi bod yn bwysicach nag yn y cyfnod anodd yma, ac ar draws Cymru gyfan mae busnesau arloesol yn gweithio'n galed i gynorthwyo defnyddwyr trwy ddarparu opsiynau bwyd a diod iachus. Mae'r Undeb Ewropeaidd yn ariannu AHFES – prosiect Ecosystemau Bwyd Iachus Ardal Môr Iwerydd – o dan y rhaglen Interreg. Mae'r rhaglen wedi cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru hefyd.

Rhwng Ionawr 2021 ac Awst 2022, bydd y rhaglen yn darparu gwasanaethau hyfforddiant a chymorth busnes ar gyfer BBaCh sy'n gweithio yn yr ardal bwysig yma, trwy bartneriaid y prosiect yng Nghymru, Gogledd Iwerddon, Sbaen, Portiwgal, Ffrainc ac Iwerddon.

Bydd yr hyfforddiant yn trafod pynciau fel casglu safbwyntiau defnyddwyr a deall y farchnad, rheoli cylch oes cynnyrch, datblygu marchnadoedd domestig a rhyngwladol, a llwybrau critigol datblygu cynnyrch. Bydd cymorth ar gael mewn meysydd fel paratoi cynlluniau busnes, hwyluso prosiectau cydweithredol, ymgeisio am gyllid, ymchwil i'r farchnad a pharatoi ar gyfer allforio.

Bydd yr hyfforddiant a'r cymorth yma ar gael yn rhad ac am ddim i fusnesau bwyd a diod bach neu ganolig yng Nghymru sy'n gweithio i dyfu eu busnes ym maes bwydydd iach a ffyrdd iachus o fyw.

Fel Partner y Prosiect yng Nghymru, mae BIC yn gwahodd BBaCh yn y sector bwyd a diod iachus yng Nghymru i dreulio ychydig funudau'n helpu i gyflunio'r hyfforddiant a'r gwasanaethau sydd ar gael trwy lenwi'r arolwg hwn.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Sut i gyrchu hyfforddiant ar lein am ddim gyda BioArloesedd Cymru.

181120 FDWIB HowTo3

Mae BioArloesedd Cymru, prosiect sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a'i weithredu gan Brifysgolion Aberystwyth ac Abertawe, yn cynnig cyrsiau dysgu o bell am ddim i bobl sy'n byw neu'n gweithio yng Nghymru. Bydd y cyrsiau ar lein yn canolbwyntio ar yr economi cylchol, gyda ffocws ar gynhyrchu a phrosesu bwyd a diod.

Bydd y cyrsiau’n cychwyn i fyfyrwyr newydd yn Chwefror 2021. Isod ceir blas ar beth y gall y myfyrwyr ei ddisgwyl:

Eplesu ar gyfer Defnyddiau Bwyd - ar gyfer unrhyw un â diddordeb datblygu neu gywreinio prosesau at ddibenion bragu, gwneud iogwrt a chaws, gwneud cynnyrch profiotig; neu gael gwerth o wastraff.

Technolegau Hidlo trwy Bilen - dysgwch am y datblygiadau diweddaraf ynghylch defnyddio technolegau pilen cost isel i reoli ac ychwanegu gwerth at 'wastraff' hylifol o fyd amaeth, a'r diwydiannau bwyd a diod.

Cynhyrchu Manwl ym maes Da Byw - archwilio'r technolegau manwl diweddaraf ac ystyried sut y gellir defnyddio'r rhain i wella gwaith monitro a meincnodi mewn systemau da byw dwys a helaeth.

Dyfodol Pecynnu – asesu’r sialensiau a'r cyfleoedd o gylch pecynnu, a darparu'r offer i alluogi busnesau i ddatblygu eu strategaethau pecynnu eu hunain.

Rheoli Adnoddau Gwastraff - canolbwyntio ar reoli adnoddau yn y sector bwyd gan dynnu sylw at y gwaith ymchwil perthnasol diweddaraf ym maes cynhyrchu, prosesu ac adwerthu.

I gofrestru am le, ewch i wefan BioArloesedd Cymru neu cysylltwch trwy biastaff@aber.ac.uk

Cadwch mewn cysylltiad am ddiweddariadau ar Twitter a LinkedIn Ymunwch â'n Grŵp Facebook i rannu gweithluoedd. Cysylltwch â ni trwy e-bost yn Chair.FDWIB@gov.wales

 
 
 

AMDANOM NI

Y newyddion diweddaraf, gwybodaeth a chymorth i sector bwyd a diod Cymru, gan Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@FoodDrinkWIB

 

Dilynwch ni ar LinkedIn:

Food and Drink Wales Industry Board

 

Dilynwch ni ar Facebook:

Welsh food and drink workforce collaboration