Newyddlen Cyfnod Pontio UE Bwyd a Diod

13 Tachwedd 2020

 
 

Newyddlen Cyfnod Pontio UE Bwyd a Diod

Gyda llai na 50 diwrnod i fynd cyn diwedd y Cyfnod Pontio, byddwn yn rhannu rhywfaint o'r wybodaeth allweddol â chi am yr hyn y mae angen ichi ei wneud nawr i'ch helpu i baratoi eich busnes ar gyfer Ionawr 2021.

Chi sy'n gyfrifol am wirio a gweithredu ar wybodaeth berthnasol, ond rydym am eich cefnogi drwy eich cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth a chanllawiau defnyddiol. 

Arolwg parodrwydd busnesau

Oes gennych bum munud i ateb wyth cwestiwn ynghylch pa mor barod yw eich busnes ar gyfer diwedd y Cyfnod Pontio, a'ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol?

Cliciwch yma i gwblhau’r arolwg. 

Beth allwch chi ei wneud yn awr i fod yn barod i fasnachu â'r UE o 1 Ionawr 2021 ymlaen?

Cael rhif EORI GB

Bydd angen rhif EORI (Rhif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd) arnoch er mwyn llenwi datganiadau tollau. Gallwch gofrestru’n rhad ac am ddim yma www.gov.uk/eori (Saesneg yn unig).

Penderfynwch sut rydych yn mynd i wneud datganiadau tollau

Gall asiantau tollau, y rheini sy'n anfon nwyddau, a gweithredwyr sy’n cludo nwyddau’n gyflym eich helpu gyda datganiadau, a sicrhau eich bod yn darparu'r wybodaeth sydd ei hangen. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma (Saesneg yn unig). 

Gweld a yw’r nwyddau rydych yn eu mewnforio yn gymwys ar gyfer dulliau rheoli fesul cam

Bydd y rhan fwyaf o fasnachwyr sydd â hanes da o ran cydymffurfio yn gallu gohirio datganiadau mewnforio ar y rhan fwyaf o nwyddau am hyd at 6 mis ar ôl 1 Ionawr 2021. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma (Saesneg yn unig).

Os byddwch yn symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, gallwch gofrestru i ddefnyddio'r Gwasanaeth Cymorth Masnachwyr (TSS) (Saesneg yn unig), sy’n rhad ac am ddim.

Ydych yn cyflogi staff o’r tu allan i’r DU? Mae gwybodaeth am y rheolau a’r trefniadau newydd o 1 Ionawr 2021 ar gael yma (Saesneg yn unig).

Cliciwch yma (Saesneg yn unig) i ddarllen am y rheolau a'r logos ar gyfer cynlluniau Dynodiadau Daearyddol annibynnol newydd y DU, sy’n rhoi statws arbennig i gynhyrchion poblogaidd a thraddodiadol.

Mae rhagor o wybodaeth am fasnachu â’r UE yn y dyfodol ar gael yma (Saesneg yn unig). 

Eich cefnogi chi

Ewch i'r dudalen bwrpasol ar y we, ‘Paratoi eich busnes bwyd a diod ar gyfer 1 Ionawr’ 2021’ (Saesneg yn unig) ar Gov.UK, lle gallwch ddod o hyd i'r holl wybodaeth ddiweddaraf am bontio mewn un lle.

Ewch i’r hwb ymadael â’r UE (Saesneg yn unig) sy’n benodol i’r sector bwyd-amaeth. Mae’r Ffederasiwn Bwyd a Diod, ynghyd â 50 corff masnach arall, yn cyfrannu at y wefan, sy’n darparu gwybodaeth am yr hyn a fydd yn newid ar 1 Ionawr 2021.

Mae gweminarau parodrwydd masnachwyr DEFRA bellach ar gael i’w gwylio ar-lein:

Mae BEIS hefyd wedi cynhyrchu gweminarau ar gyfer y sectorau nwyddau traul a manwerthu. Maent ar gael yma (Saesneg yn unig).

Yn y cyfnod hwn lle mae pwysau ychwanegol ar y gadwyn cyflenwi bwyd, mae Arloesi Bwyd Cymru wedi agor llinellau cymorth rhanbarthol (Saesneg yn unig).

Ystyriwch ymuno ag un o Grwpiau Clwstwr Llywodraeth Cymru.

I gael gwybodaeth am labelu bwyd.

Darllenwch ragor o wybodaeth gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi am y camau y gallwch eu cymryd nawr i baratoi eich busnes. 

Cael y wybodaeth ddiweddaraf

Tanysgrifiwch ar gyfer gwasanaeth CThEM i gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy e-bost yn rhad ac am ddim yn www.gov.uk/hmrc/business-support (Saesneg yn unig) – dewiswch ‘Sign up to help and support emails from HMRC’.

Tanysgrifiwch i gael cylchlythyr Diwydiant Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru https://llyw.cymru/cofrestrwch-ar-gyfer-cylchlythyr-bwyd-diod-cymru

 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN

E-gylchlythyr cwarterol ar gyfer y diwdiant bwyd a diod gan Is-Adran Fwyd Llywodraeth Cymru. 

Newyddion, digwyddiadau a materion syín berthnasol iín diwydiant.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/bwydadiodcymru

Dilyn ar-lein: @BwydaDiodCymru