Annwyl Gyfaill
Mae’r cyfnod diweddar wedi bod yn ddigynsail. Hoffwn ddiolch yn bersonol i bob un ohonoch chi yn y gymuned fusnes am eich amynedd a’ch cydweithrediad dros gyfnod y pandemig. Dw i ddim am wneud yn fach o’r anawsterau y mae’r cyfyngiadau wedi’u hachosi ac y byddant yn parhau i’w hachosi i fusnesau wrth i ni geisio ddiogelu bywydau.
Argyfwng Covid-19 a’i effeithiau sydd wedi mynd â sylw pob un ohonom dros ran helaethaf 2020. Nid yw hynny’n syndod wrth reswm ac ni fydd pethau’n debygol o newid am beth amser eto. Felly, o gofio mor anodd fydd hi i fusnesau i ddygymod am yr hanner cant o ddiwrnodau sydd eto i fynd tan ddiwedd y cyfnod pontio, rwyf wedi penderfynu ysgrifennu atoch er mwyn helpu’r busnesau nad ydyn nhw eto wedi paratoi’n llawn ar gyfer y newidiadau a ddaw ac a fydd yn effeithio arnyn nhw o 1 Ionawr 2021.
Ar 1 Ionawr 2021, bydd y Deyrnas Unedig yn gadael Marchnad Sengl yr UE felly ni fydd ein busnesau’n cael masnachu nwyddau a gwasanaethau’n ddirwystr mwyach â gwledydd yr UE. Dyna fydd y sefyllfa, waeth a fydd cytundeb masnach rhwng y DU a’r UE neu beidio.
Rwy’n deall bod yr ansicrwydd hwn yn ei gwneud hi’n anodd paratoi ar gyfer y newid ond rydym eisoes yn gwybod y bydd rhai pethau’n wahanol a bod pethau y gallwn eu gwneud nawr i’n helpu i baratoi.
Mae Llywodraeth y DU wedi llunio traciwr fydd yn rhestru’r camau y dylai’ch busnes chi eu cymryd. Gallwch gofrestru hefyd am ddiweddariadau dros yr e-bost gan yr HMRC fydd yn rhoi gwybod ichi am newidiadau wrth iddyn nhw ddigwydd.
Porth Cyfnod Pontio’r UE - Busnes Cymru
Mae Porth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru yn rhoi cyngor ac arweiniad i fusnesau sy’n paratoi ar gyfer y newid yn Ewrop ac mae’n cynnwys dolenni i Ymgyrch Gwybodaeth Gyhoeddus Llywodraeth y DU a ddechreuodd ar 13 Gorffennaf 2020. Byddwn yn defnyddio gwefan Busnes Cymru i gadw’ch bys ar y datblygiadau diweddaraf.
Mewnforio, Allforio a Thollau
Anfonodd Llywodraeth y DU lythyr at bob busnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW ac sy’n masnachu â’r UE i roi crynodeb o’r hyn y bydd angen iddynt ei wneud. Mae’r llythyr yn esbonio sut y dylai busnesau baratoi ar gyfer y prosesau newydd ar gyfer symud nwyddau rhwng Prydain a’r UE o 1 Ionawr 2021, gan gynnwys:
- Gwneud yn siŵr eu bod wedi cael rhif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwr Economaidd (EORI) yn y DU.
- Penderfynu sut i wneud datganiadau i’r tollau.
- Cadarnhau a oes angen datganiadau ar gyfer y nwyddau y maent yn eu mewnforio (staged import controls).
Ar 12 Mehefin 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai’n cyflwyno mesurau newydd ar gyfer rheoli mewnforion o'r UE i Brydain Fawr fel a ganlyn:
- fis Ionawr 2021: Bydd angen i fasnachwyr sy’n mewnforio nwyddau safonol, popeth o ddillad i nwyddau electronig, baratoi ar gyfer trefniadau sylfaenol y tollau, megis cadw cofnodion digonol am y nwyddau a fewnforir. Bydd ganddynt hyd at 6 mis i gwblhau datganiadau tollau. Er y bydd angen talu tariffau ar yr holl fewnforion, gellir gohirio eu talu tan y bydd y datganiadau tollau wedi’u gwneud. Bydd nwyddau rheoledig fel alcohol a thybaco yn gorfod cael eu harchwilio. Bydd gofyn i fusnesau ystyried sut y byddant yn cyfrif TAW ar y nwyddau y byddant yn eu mewnforio. Bydd archwiliadau ffisegol yn cael eu cynnal ym mhen y daith neu ar safle cymeradwy arall o bob anifail neu blanhigyn uchel ei risg.
- fis Ebrill 2021: Bydd angen rhoi rhaghysbysiad a chyflwyno dogfennau iechyd perthnasol ar gyfer pob cynnyrch sy’n deillio o anifail – er enghraifft cig, bwyd anifeiliaid anwes, mêl, llaeth neu gynnyrch wyau – ac ar gyfer planhigion a chynnyrch planhigion sydd wedi’u rheoleiddio.
- fis Gorffennaf 2021: Bydd masnachwyr sy’n symud unrhyw nwyddau’n gorfod cyflwyno datganiadau yn y man mewnforio a thalu’r tariffau perthnasol. Bydd angen datganiadau iechyd a datganiadau diogelwch a bydd yn rhaid cynnal mwy o archwiliadau ffisegol o nwyddau iechyd anifeiliaid a phlanhigion (SPS) a gofyn am fwy o samplau: bydd anifeiliaid, planhigion a’u cynnyrch yn cael eu harchwilio o hyn ymlaen ar safleoedd rheoli wrth ffin Prydain Fawr.
Ni fydd y trefniadau hyn yn newid, pa beth bynnag fydd canlyniad trafodaethau Llywodraeth y DU â’r UE.
Gallwch hefyd gymryd y camau canlynol nawr:
- Edrych a oes angen trwydded i fewnforio neu allforio’ch nwyddau neu a fydd y gofynion labelu neu farcio’n newid.
- Bwrw golwg ar ‘godau’ch nwyddau’ a gofalu’ch bod yn defnyddio’r rhai cywir. Bydd hynny’n osgoi oedi wrth y ffin ac yn sicrhau’ch bod yn talu’r tollau cywir.
- Sicrhau bod Incoterms® yn cael eu trafod wrth ichi negodi’ch contractau i osgoi unrhyw arafwch wrth y ffin. Dyma’r telerau safonol rhyngwladol a ddefnyddir mewn contractau sy’n diffinio cyfrifoldebau sylfaenol y partïon am nwyddau ym mhob rhan o broses eu cludo o safle’r gwerthwr i safle’r prynwr.
- Os byddwch chi’n symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, dylech gofrestru ar gyfer y Cynllun Cefnogi Masnachwyr fydd yn eich tywys trwy’r newidiadau a ddaw yn sgil Protocol Gogledd Iwerddon.
- Dylai cludwyr sy’n teithio i neu drwy’r UE geisio gwybod a oes angen trwyddedau ECMT arnynt o 1 Ionawr 2021. Y dyddiad cau ar gyfer ceisio am drwydded ECMT ar gyfer 2021 yw 20 Tachwedd 2020. Cewch fwy o wybodaeth am drwyddedau ECMT a sut i’w cael yma.
Mae Llywodraeth Cymru’n gallu cynnig gwasanaeth cynghori penodol i fusnesau unigol sy’n mewnforio neu’n allforio, trwy wefan Busnes Cymru.
Gwiriwr Tariffau
Defnyddiwch wiriwr tariffau'r DU i weld beth fydd y tariff i fewnforio nwyddau i’r DU o 1 Ionawr 2021. Bydd yn dangos hefyd y gwahaniaeth rhwng yr hyn rydych chi’n ei dalu nawr a’r hyn y byddwch yn ei dalu o 1 Ionawr 2021. Bydd Tariff y DU ar yr holl nwyddau y byddwch yn eu mewnforio o 1 Ionawr 2021, er y ceir eithriadau.
Data Personol
Bydd hyn yn effeithio ar fusnesau’r DU pan fyddant yn:
- derbyn data personol oddi wrth gwmnïau tramor, gan gynnwys y rheini o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) sy’n cynnwys yr UE.
- gweithredu yn yr EEA.
Mae’r UE wedi hen sefydlu mecanwaith, sy’n seiliedig ar Benderfyniadau Digonolrwydd, sy’n caniatáu trosglwyddo data’n rhwydd i wledydd y tu allan i’r DU (gan gydymffurfio â’r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data). Ymrwymodd yr UE yn Natganiad Gwleidyddol y Comisiwn Ewropeaidd i asesu lefel ddigonolrwydd y DU cyn gynted â phosibl ar ôl i’r DU ymadael â’r UE, gan obeithio gallu gwneud penderfyniad digonolrwydd yn ystod y cyfnod pontio os byddai’r amodau wedi’u bodloni.
Gan nad yw bellach yn sicr a gaiff penderfyniad digonolrwydd ynghylch y DU ei wneud cyn diwedd y cyfnod pontio, dylech gymryd camau buan os ydych am wneud yn siŵr eich bod yn parhau i allu derbyn data personol o wledydd yr UE/EEA yn y dyfodol. Mae swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi paratoi canllawiau manwl sy’n esbonio beth sydd angen ichi ei wneud.
Pobl – Dinasyddion, Mewnfudo a Symudedd Staff yr UE
Os oes aelod o’ch teulu neu’ch staff yn dod o’r UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein, bydd angen iddynt holi a oes angen iddynt wneud cais i’r Cynllun Preswylio.
Os ydych chi’n masnachu â’r UE, mae’n bwysig eich bod yn ystyried sut y gallai’r newidiadau effeithio ar eich busnes.
HMRC
Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn parhau â'i hymgyrch lythyrau at fasnachwyr cofrestredig TAW sy'n esbonio’r hyn sydd angen ei wneud i baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio. Cyhoeddir pob llythyr yma a bydd mwy yn cael eu lanlwytho pan gânt eu hanfon allan bob mis.
Grantiau
Dysgwch ba grantiau y gallwch wneud cais amdanynt ar gyfer recriwtio, hyfforddi a gwella’ch TG os oes angen i’ch busnes lenwi datganiadau tollau.
Rwy'n cydnabod ei bod yn gyfnod anodd i fusnesau ac mae’r galw mawr am y gwerth £100m o Grantiau Datblygu Busnes sydd ar gael fel rhan o drydydd cam ein Cronfa Cydnerthu Economaidd ond yn ategu hynny. Er y bu'n rhaid cau'r broses ymgeisio ar gyfer y grantiau hyn oherwydd y nifer fawr o geisiadau a dderbyniwyd, mae'n bleser gennyf gadarnhau bod fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cyllid, wedi neilltuo cyllid ar gyfer pedwerydd cam y Gronfa Cydnerthu Economaidd i gefnogi busnesau a gweithwyr. Yr ydym wrthi'n datblygu mecanwaith i fusnesau fynegi diddordeb yn y gronfa honno yn yr wythnosau nesaf a chyhoeddir yr wybodaeth ddiweddaraf ar wefan Busnes Cymru.
Yn gywir,
|