 |
|
Her y Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) – Gwell Bywydau yn Nes at Adref
Mae gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan Ragoriaeth SBRI gyllid ar gyfer cefnogi prosiectau arloesol sy’n helpu cymunedau, busnesau neu’r sector cyhoeddus i addasu i fygythiadau parhaus COVID-19.
Bydd gan fusnesau hyd at 27 Tachwedd i gyflwyno eu syniadau.
Mwy o wybodaeth yma
|
Her Deintyddiaeth ar gyfer Busnesau Blaengar
Mae Canolfan Ragoriaeth SBRI, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, yn galw ar fusnesau i gyflwyno atebion blaengar y mae modd eu gweithredu’n gyflym er mwyn mynd i’r afael â her allweddol y mae Gwasanaethau Deintyddol yn ei wynebu yn sgil COVID-19. Mae gan fusnesau hyd 4 Rhagfyr i gyflwyno cais am hyd at £50,000.
Darllenwch fwy yma
|
|
 |
Tai cymdeithasol yn allweddol i hybu’r adferiad gwyrdd a’r uchelgais i ddatgarboneiddio miloedd o gartrefi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo £10 miliwn ychwanegol ar gyfer cyflwyno rhaglen newydd a phwysig a fydd yn trawsnewid tai cymdeithasol ar draws Cymru, gan hybu’r economi a chreu diwydiant Cymreig newydd. Mae hyn yn rhan o gynllun ar gyfer adferiad gwyrdd – fel y nodir yn yr adroddiad Ad-drefnu Covid: Heriau a Blaenoriaethau a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Darllenwch fwy yma
Rhith-daith ddysgu COHES3ION yn parhau
Bydd Llywodraeth Cymru, sy’n bartner ym mhrosiect COHES3ION
yn cynnal y rhith-ymweliad nesaf o ranbarthau partner. Bydd cyfle i bobl ar draws Ewrop ddysgu o arferion gorau ym maes arloesedd yng Nghymru.
Darganfyddwch fwy am y prosiect yma
Digwyddiad Briffio - Her y Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) – Gwell Bywydau yn Nes at Adref
12 Tachwedd 2020, 10:00 - 11:00
Ymunwch â’r weminar ryngweithiol am awr lle y bydd cyfle i chi ddysgu mwy am Her y Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) – Gwell Bywydau yn Nes at Adref a deall yn well y broses ar gyfer cyflwyno cais am brosiect.
Cofrestrwch yma
Digwyddiad Briffio – Her Mygydau Wyneb y Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI)
23 Tachwedd 2020, 10:00 - 11:00
Ymunwch â’r weminar ryngweithiol am awr lle y bydd cyfle i chi ddysgu mwy am Her Mygydau Wyneb y Fenter Ymchwil Busnesau Bach a deall yn well y broses ar gyfer cyflwyno cais am brosiect.
Archebwch eich lle yma
Cymhorthfa Ar-lein ar gyfer Cyllid Arloesi
Mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd ag Innovate UK, y Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth a Rhwydwaith Menter Ewrop yn cynnal Cymhorthfa ar gyfer Cyllid Arloesi er mwyn helpu rhai cwmnïau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru i baratoi eu hunain yn well er mwyn:-
- Manteisio ar gyllid ar gyfer Ymchwil a Datblygu
- Cynnal prosiectau Ymchwil a Datblygu mwy effeithiol
- Masnacheiddio’r canlyniadau
3 Rhagfyr 2020, 10:00 - 16:45
13 Ionawr 2021, 10:00 - 16:45
Cliciwch yma i gofrestru
Autolink 2020
26 Tachwedd 2020, 10:00 - 12:30
Mae'r digwyddiad Autolink hwn sydd wedi ei drefnu gan Fforwm Modurol Cymru yn gweld fformat newydd sbon sy'n cynnwys sesiwn lawn rithwir.
Darllenwch fwy ac archebwch eich lle yma
|