|
Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, wedi cyhoeddi bod £15.7m arall yn cael ei roi er mwyn cynyddu maint y gweithlu olrhain cysylltiadau yng Nghymru ar gyfer y gaeaf – bydd y gweithlu presennol yn cael ei ddyblu bron â bod.
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi croesawu’r newyddion y gallai brechlyn COVID-19 fod yn barod eleni, ond mae wedi rhybuddio “mai dyddiau cynnar iawn yw’r rhain”.
Wrth i’r cyfnod atal byr yng Nghymru ddod i ben, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi gofyn i bawb feddwl sut gallan nhw ddiogelu eu teuluoedd rhag y feirws.
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi croesawu’r newyddion y gallai brechlyn COVID-19 fod yn barod eleni, ond mae wedi rhybuddio “mai dyddiau cynnar iawn yw’r rhain”
Mae cylch newydd gwerth £3.5m o Gronfa’r Economi Gylchol er mwyn cefnogi cyrff cyhoeddus i ymateb ar ôl COVID a chefnogi adferiad gwyrdd yng Nghymru yn agor heddiw.
Mae’r prifysgolion yn gweithio ar y cyd i helpu myfyrwyr i wneud trefniadau teithio mwy diogel ar gyfer diwedd y tymor.
Mae Gweinidog yr Economi Ken Skates wedi cyhoeddi y bydd busnesau yng Nghymru yn gallu hawlio hyd at £3,000 am bob prentis newydd y maent yn ei recriwtio sydd dan 25 oed.
“Mae’n rhaid i’r Celfyddydau a Diwylliant yng Nghymru oroesi’r pandemig hwn,” meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Dywedodd Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru fod Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid ar draws gogledd Cymru yn parhau i weithio gyda’i gilydd i gefnogi’r rhanbarth wrth iddo fynd i’r afael ag effaith dybryd y pandemig a chynllunio at y dyfodol.
Canllawiau ynghylch rheolau’r coronafeirws fydd yn eu lle o ddydd Llun 9 Tachwedd.
Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wedi cadarnhau sut y bydd Cymru yn mynd ati i roi cymwysterau yn 2021, ac na fydd arholiadau ar ddiwedd y flwyddyn ar gyfer dysgwyr TGAU, UG na Safon Uwch.
Mae cwmni LSN Diffusion, sydd wedi’i leoli yn Rhydaman ac sy’n gweithgynhyrchu powdrau arbenigol i’w defnyddio yn y sector peirianneg, yn ehangu ei waith ac yn creu swyddi newydd yn sgil cymorth sylweddol gan Lywodraeth Cymru.
Fe allech chi gael taliad o £500 i helpu os ydych wedi colli enillion o ganlyniad i orfod hunanynysu ac na allwch weithio gartref.
Sut i hunanynysu ac edrych ar ôl eich hun yn y tŷ os oes haint coronafeirws posibl yn eich cartref.
Cymorth i weithwyr gofal y mae'n ofynnol iddynt aros adref o'r gwaith oherwydd achos gwirioneddol o COVID-19 neu achos a amheuir neu oherwydd bod yn rhaid iddynt hunanynysu.
Gwiriwch a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun ychwanegiad at dâl salwch statudol ar gyfer COVID-19 i staff gofal cymdeithasol.
Cymorth i bobl sy'n hunanynysu.
Pa reolau dylech eu dilyn ar ôl y cyfnod atal byr.
Canllawiau i ddiogelu eich hun yn ystod cyfnod y coronafeirws a pha reolau sydd yn eu lle i ddiogelu pobl.
Canllawiau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 21 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.
Cael prawf i ddarganfod a oes gennych coronafeirws.
Canllawiau ar reoliad 8 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020.
Esbonio pwy fydd wedi eu heithrio rhag rheolau ffiniau newydd Cymru a gyflwynwyd o ganlyniad i'r coronafeirws. Bydd y rheolau yn berthnasol i deithwyr i'r DU o 8 Mehefin 2020.
Mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates wedi dweud bod cennad newydd Llywodraeth Cymru i'r Emiraethau Arabaidd Unedig yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gryfhau presenoldeb Cymru ar draws y byd.
Mae’r Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas wedi cyhoeddi enwau Cadeirydd ac Aelodau Bwrdd Anweithredol cyntaf Cymru Greadigol.
Mae Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan wedi ei gyflwyno i leihau’r risg o heintio yn dilyn achosion diweddar wedi’u cadarnhau yn Lloegr, meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, wedi cyhoeddi pum aelod newydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru.
Mae Gweinidog yr Economi Ken Skates wedi ysgrifennu at ddegau o filoedd o fusnesau yng Nghymru yn eu hannog i sicrhau eu bod yn cymryd y camau angenrheidiol i baratoi ar gyfer diwedd cyfnod pontio'r UE.
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar sefydlu cronfa newydd i roi cymorth ychwanegol i bobl anabl ymgeisio am swydd etholedig yn etholiadau'r Senedd yn 2021 ac etholiadau Llywodraeth Leol yn 2022.
Gyda 50 diwrnod ar ôl tan ddiwedd y cyfnod pontio, heddiw gwnaeth Jeremy Miles atgoffa’r cyhoedd y bydd newid sylweddol iawn y flwyddyn nesaf, ni waeth a fydd cytundeb ai peidio. Dywedodd hefyd fod Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ei gallu i geisio cyfyngu ar y niwed y bydd y newid hwn yn ei achosi i fywoliaethau yng Nghymru.
Gwybodaeth i helpu gweinidogion ymateb i bandemig COVID-19 mewn modd sydd ym mudd pennaf pobl Cymru.
Adolygiad o dystiolaeth ar blant a phobl ifanc men addysg ar ôl y cyfnod atal byr.
Deunydd hyrwyddo Profi, Olrhain a Diogleu gan gynnwys deunydd hyrwyddo am ap newydd COVID-19 y GIG
Adnoddau ymarferol i helpu cyflogwyr i gadw eu gweithwyr yn ddiogel yn y gweithle.
Ydych chi’n defnyddio ap COVID-19 y GIG? Mae'r ap yn eich galluogi i adrodd am symptomau, archebu prawf coronafeirws, a chofrestru mewn lleoliadau drwy sganio côd QR. Mae'r ap yn gwneud hyn wrth ddiogelu eich anhysbysrwydd. Os ydych eisioes wedi lawrlwytho’r ap, cofiwch ei ddefnyddio - po fwyaf o bobl sy'n defnyddio'r ap, po fwyaf ein siawns o leihau lledaeniad y feirws. Mae’r ap yn rhan bwysig o'n rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu.
Astudiaeth Symptomau COVID
Helpwch ni i ymladd coronafeirws trwy adrodd ar eich iechyd yn ddyddiol, hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n iawn.
Gallwch chi helpu’r GIG yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws drwy gwblhau arolwg iechyd dyddiol ar yr ap Astudiaeth Symptomau COVID. Mae’r ap hwn yn addas ar gyfer pawb, nid i’r unigolion sydd â symptomau yn unig.
Bydd yr app yn ein helpu i ddeall symptomau a lledaeniad COVID-19. Drwy ateb rhai cwestiynau cyflym, gallwch chi ein helpu i gynllunio ein hymateb i coronafeirws.
Ni fyddwn yn rhannu eich atebion y tu hwnt i’r GIG a sefydliadau y gellir ymddiried ynddynt sy’n gweithio’n uniongyrchol â’r GIG i ymateb i’r coronafeirws.
Mae ymgyrch ar y gweill i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a gweithwyr allweddol o strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu Llywodraeth Cymru. Mae'r wybodaeth ddiweddara am y strategaeth, gan gynnwys canllawiau i gyflogwyr, ar y wefan. (https://gov.wales/test-trace-protect-coronavirus).Mae deunydd fideo wedi cynhyrchu i ddefnyddio mewn ymgyrchoedd ac i rhanddeiliaid rhannu ar ei sianelu. Mae modd i chi lawrlwytho'r deunydd digidol fan hyn a byddem yn gwerthfawrogi os fyddech yn rhannu ar eich sianelu cymdeithasol, er mwyn rhannu gwybodaeth am y strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu.
 |
|
Canllawiau ar coronafeirws i rieni, pawb sy'n gweithio mewn addysg a darparwyr gofal plant
|
 |
|
Cymorth i helpu busnesau a sefydliadau'r trydydd sector yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws
|
 |
|
Aros gartref, hunanynysu, cael cefnogaeth fel person eithriadol o fregus
|
 |
|
Canllawiau’r coronafeirws ar gyfer y GIG a phobl sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol, cymunedol a phreswyl
|
 |
|
Canllawiau i landlordiaid, cartrefi mewn parciau (symudol) a gwasanaethau cysgu allan yn ystod y pandemig coronafeirws
|
 |
|
Cyngor am y coronafeirws i bobl sy’n dod nôl o wlad dramor neu’n bwriadu teithio
|
 |
|
Gwirfoddoli yn ystod pandemig y coronafeirws, cymorth i’r trydydd sector
|
 |
|
Cynllunio, tân, cam-drin domestig a thrais rhywiol
|
 |
|
Help gyda budd-daliadau, i aros yn y gwaith a chael sgiliau newydd
|
Dolenni defnyddiol
Llywodraeth Cymru
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Busnes Cymru
Edrych ar ol ein gilydd
Gwirfoddoli Cymru
|