Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.
CYNNWYS BWLETIN – Canllawiau am reolau Coronafeirws a fydd yn weithredol o ddydd Llun 9 Tachwedd; Cronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud gwerth £200 miliwn yn parhau ar agor; Ymestyn Grant y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig; Ymestyn y Cynllun Ffyrlo; Allwch chi hawlio’r Bonws Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws o 15 Chwefror 2021?; Ymchwil ym maes Twristiaeth; Nodyn i atgoffa pawb o’r rheolau ar deithio ar draws y ffin wrth i’r cyfnod atal ddod i ben.
Canllawiau am reolau Coronafeirws a fydd yn weithredol o ddydd Llun 9 Tachwedd
Yn dilyn y cyfnod atal byr, cyflwynir set newydd o reolau cenedlaethol, yn cwmpasu sut y gall pobl gyfarfod a sut mae'r sector cyhoeddus a busnesau'n gweithredu.
Mae Cwestiynau Cyffredin ynglŷn yr uchod ar-lein, fel y mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 diweddaraf.
Mae Cwestiynau Cyffredin yn cynnwys gwybodaeth am aros mewn llety, mae hyn wedi'i gyfyngu i deuluoedd sy'n byw gyda'i gilydd, nid teuluoedd estynedig e.e.
Gyda phwy y caf i aros mewn llety gwyliau fel gwestai, pebyll, carafannau neu lety hunanddarpar?
- Yr unig bobl y cewch rannu llety gwyliau â nhw yw’r bobl rydych yn byw gyda nhw. Bydd hynny’n helpu i leihau’r risg o drosglwyddo’r coronafeirws yn fawr gan fod risg uchel o drosglwyddo’r feirws wrth gysgu’n agos at bobl eraill, hynny oherwydd yr amser hir y byddwch yn ei dreulio’n agos i’ch gilydd.
Ailagor lletygarwch (tafarndai, bariau, caffis a bwytai) - mae canllawiau i leihau'r feirws yng Nghymru ar ôl y cyfnod atal byr ar gael ar-lein nawr.
Darllenwch ddatganiad y Prif Weinidog ar y mesurau COVID cenedlaethol newydd i Gymru yn llawn ar Llyw.Cymru.
Cronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud gwerth £200 miliwn yn parhau ar agor
Gall busnesau yng Nghymru sydd wedi cael ei effeithio gan y pandemig coronafeirws barhau i gael cymorth drwy gam 3 ein Cronfa Cadernid Economaidd (ERF). Mae’r Cronfa Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud sydd werth £200m yn parhau i fod ar agor yn y rhan fwyaf o ardaloedd Cymru - mae y gronfa yma ar gael i helpu'r rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan yr heriau tymor byr o orfod cau yn ystod y cyfnod atal byr, yn ogystal â'r rhai a oedd yn destun i gyfyngiadau lleol cyn iddo ddechrau.
Mae elfen Grant Datblygu Busnes Gwerth £100m o arian ERF wedi'i hatal er mwyn prosesu'r ceisiadau a dderbyniwyd.– pwrpas y gronfa hon yw helpu cwmnïau i baratoi eu hunain ar gyfer yr heriau tymor hwy yn dyfodol, yn dilyn COVID ac ar ôl ymadael â’r UE.
Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Busnes Cymru
Darllenwch ddatganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru (5 Tachwedd) yn llawn ar Llyw.Cymru
Ymestyn Grant y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig
Mae Llywodraeth y DU yn parhau i gefnogi’r hunangyflogedig yn sgil effaith y coronafeirws (COVID-19) ac yn ymestyn ei Chynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Busnes Cymru.
Ymestyn y Cynllun Ffyrlo
Bydd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws - a elwir hefyd yn y cynllun Ffyrlo - yn parhau ar agor tan fis Mawrth 2021, a bydd gweithwyr cyflogedig yn derbyn 80% o’u cyflog cyfredol am yr oriau nad ydynt yn gweithio, hyd at uchafswm o £2,500. Bydd canllawiau ychwanegol yn cael eu cyflwyno maes o law. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.
Allwch chi hawlio’r Bonws Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws o 15 Chwefror 2021?
Edrychwch i weld a ydych chi’n gymwys i hawlio’r Bonws Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws a beth sydd angen i chi ei wneud i’w hawlio rhwng 15 Chwefror 2021 a 31 Mawrth 2021. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.
Ymchwil ym maes twristiaeth
Mae crynodeb o ymchwil diweddar ym maes twristiaeth yng Nghymru a’r DU bellach ar gael. Mae hyn yn cynnwys manylion gwaith ymchwil gan Lywodraeth Cymru ynghylch COVID-19 a dolenni i ffynonellau allanol eraill.
Nodyn i atgoffa pawb o’r rheolau ar deithio ar draws y ffin wrth i’r cyfnod atal ddod i ben
Bydd y cyfyngiadau ar deithio rhwng Cymru a Lloegr yn parhau wrth i gyfnod atal byr Cymru ddod i ben a chyfnod clo mis o hyd Lloegr ddechrau, meddai Gweinidog yr Economi a’r Gogledd, Ken Skates, heddiw.
Bydd pobl Cymru’n rhydd i deithio fel a fynnant yng Nghymru ei hun ar ôl 9 Tachwedd ond bydd y mesurau cenedlaethol newydd a ddaw i rym yn golygu bydd yn rhaid cael esgus rhesymol i deithio ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae esgus rhesymol yn ôl rheoliadau Cymru yn cynnwys teithio ar gyfer gwaith, addysg, apwyntiad meddygol, mater cyfreithiol neu ar sail dosturiol.
Mae’r cyfnod clo yn Lloegr yn golygu hefyd na fydd pobl yn cael teithio ar draws y ffin oni bai bod un o’r eithriadau yn rheoliadau Lloegr yn caniatáu hynny. Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn ar Llyw.Cymru.
Gwybodaeth Defnyddiol COVID-19
Mae'r rhain yn cael eu diweddaru’n gyson, edrychwch yn ôl yn rheolaidd am y wybodaeth ddiweddaraf.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|