Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

12 Tachwedd 2020


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN – Canllawiau ac adnoddau lletygarwch i'w lawrlwytho; Cynlluniau benthyg coronafeirws a Chronfa’r Dyfodol yn cael eu hymestyn hyd 31 Ionawr 2021;  Llywodraeth Cymru yn herio am syniadau arloesol mewn ymateb i bandemig coronafeirws;  Cyngor Adfer ar gyfer Busnes;  Pontio’r UE;  Arolwg Traciwr Twristiaeth COVID-19 y DU;  Taliad Hunanasesu i Gyfrif wedi’i ohirio ers mis Gorffennaf 2020;  CThEM: gennych chi weithwyr yn gweithio gartref yn sgil COVID-19?; I’m A Celebrity…Get Me Out Of Here!; Gwybodaeth Defnyddiol COVID-19.


Canllawiau ac adnoddau lletygarwch i'w lawrlwytho

Ailagor lletygarwch (tafarndai, bariau, caffis a bwytai) - mae canllawiau i leihau'r feirws yng Nghymru ar ôl y cyfnod atal byr ar gael ar-lein nawr.  Fe'i cynhyrchwyd a'i diweddaru mewn ymgynghoriad â'r sector Lletygarwch ar gyfer Tafarndai, Bariau, Caffis a Bwytai sy'n ailagor y tu mewn a'r tu allan.

Mae adnoddau Diogelu Cymru ar gael i chi eu defnyddio ar eich cyfryngau cymdeithasol a'ch gwefannau eich hun, er mwyn helpu i roi gwybodaeth i gwsmeriaid. Maent yn cynnwys GIFs, fideos a baneri yn ogystal â 3 fideo ar letygarwch, tafarndai a bwytai.


Cynlluniau benthyg coronafeirws a Chronfa’r Dyfodol yn cael eu hymestyn hyd 31 Ionawr 2021

Mae’r cynlluniau a restrir isod wedi’u hymestyn hyd 31 Ionawr 2021:

  • Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws (CBILS)
  • Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnesau Mawr yn sgil y Coronafeirws (CLBILS)
  • Y Cynllun Benthyciad Adfer (BBLSS) – a Chronfa’r Dyfodol

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Llywodraeth Cymru yn herio am syniadau arloesol mewn ymateb i bandemig coronafeirws

Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod arian ar gael i gefnogi busnesau sy’n darparu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol a fydd yn helpu cymunedau a'r sector cyhoeddus i ymaddasu i effaith barhaus pandemig y coronafeirws.

Bydd Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI), a all gynnig hyd at £50,000 i brosiectau addawol sy'n gallu dechrau ym mis Ionawr 2021 ac eu cwblhau erbyn diwedd mis Mawrth, hefyd yn bwysig ar gyfer cynlluniau a all gefnogi'r sector cyhoeddus ar ôl cyfnod Pontio'r UE. Mae gan fusnesau tan 12pm ar 27 Tachwedd 2020 i gyflwyno eu syniadau.  Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Cyngor Adfer ar gyfer Busnes

Cael mynediad at gymorth am ddim gan arbenigwyr a helpu’ch busnes i ddod dros effaith y Coronafeirws.  Mae’r Sector Gwasanaethau Proffesiynol a Busnes ac Enterprise Nation, gyda chefnogaeth yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, wedi cydweithio i gynnig cyngor am ddim i fusnesau bach a chanolig i’w helpu i ddod dros effaith y Coronafeirws.  Bydd y cynnig ar gael tan 31 Rhagfyr 2020.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Pontio’r UE

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi cyhoeddi llythyr i gynorthwyo busnesau nad ydynt eto wedi'u paratoi'n llawn ar gyfer newidiadau a fydd yn digwydd ac sy'n effeithio ar weithrediadau busnes o 1 Ionawr 2021.  Yn gryno, mae'r llythyr yn amlinellu'r cymorth sydd ar gael i fusnesau i'w cynorthwyo drwy gyfnod pontio'r UE a thu hwnt. Os ydych yn ymwneud â masnachu â'r UE, bydd yn bwysig ystyried sut y gallai'r newidiadau hyn effeithio ar eich busnes. Darllenwch y llythyr yn ei gyfanrwydd yma.  


Arolwg Traciwr Twristiaeth COVID-19 y DU

Mae Croeso Cymru’n parhau i gydweithio â VisitBritain a VisitScotland i redeg traciwr twristiaeth y DU.  Cyhoeddir ei ganlyniadau bob pythefnos a gellir gweld canlyniadau 26-30 Hydref ar wefan VisitBritain.

Cafodd arolwg ei gynnal ychydig cyn cyhoeddi cyfnod clo byr Lloegr.  Mae’n dangos bod 15% o oedolion wedi bod am drip dros nos yn y DU ers dechrau mis Medi, gyda saith o bob deg o’r tripiau hynny (69%) yn wyliau.  Cymru oedd cyrchfan 8% o’r gwyliau hynny, llai nag yn yr haf.


Taliad Hunanasesu i Gyfrif wedi’i ohirio ers mis Gorffennaf 2020

Mae CThEM wedi nodi y bydd rhai cwsmeriaid Hunanasesu, a ddewisodd ohirio talu eu Taliad i gyfrif ym mis Gorffennaf 2020 yn sgil COVID-19, yn derbyn datganiad Hunanasesu yn dangos bod taliad yn ddyledus gyda llog. Mae CThEM wedi cadarnhau na fyddant yn codi unrhyw log taliadau hwyr na dirwyon ar y Taliad i Gyfrif a ohiriwyd ym mis Gorffennaf 2020, cyn belled â’i fod yn cael ei dalu yn llawn erbyn 31 Ionawr 2021. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


CThEM: gennych chi weithwyr yn gweithio gartref yn sgil COVID-19?

Os ydych chi wedi gofyn i’ch gweithwyr weithio gartref yn sgil COVID-19 yna efallai eu bod wedi gorfod ysgwyddo costau ychwanegol. Os nad ydych chi wedi ad-dalu’ch gweithwyr, gallant hawlio rhyddhad treth ar £6 yr wythnos neu £26 y mis ar gyfer y costau ychwanegol hyn. Os ydyn nhw am hawlio mwy, rhaid iddyn nhw roi tystiolaeth i’r CThEM i gefnogi eu cais.  Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


I’m A Celebrity…Get Me Out Of Here!

Wrth i'r gyfres newydd ddechrau Sul yma, rydym yn edrych ymlaen at weld tirweddau syfrdanol Cymru yn cael sylw, a Chastell Gwyrch ger Abergele yng Nghonwy (lleoliad eleni) yn edrych yn odidog. Bydd y rhaglen yn helpu i godi ymwybyddiaeth o Gymru ledled y DU a gobeithio yn ysbrydoli'r ymweliadau yn y dyfodol, yn 2021 a thu hwnt.

Mae Cymru Greadigol wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r tîm cynhyrchu I’m A Celebrity…Get Me Out Of Here!, i helpu baratoi, a hefyd i gynghori cast a chriw ar ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru i Cadw Cymru'n Ddiogel. Gall ffilmio, fel gwaith, barhau yng Nghymru ar yr amod bod cydymffurfiaeth lawn â chyfraith Cymru ac mae hynny'n cynnwys rhwymedigaeth gyfreithiol i gymryd pob cam rhesymol i gynnal ymbellhau corfforol yn y gweithle. 

Croesawodd Castell Gwrych Ant a Dec yr wythnos hon ac mae'r gyfres yn dechrau ar ITV One dydd Sul yma (15 Tachwedd).


Gwybodaeth Defnyddiol COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen yr holl ganllawiau i ddeall y mesurau i'w hystyried i ail-agor y busnes yn ddiogelu.  Mae'r rhain yn cael eu diweddaru’n gyson,  edrychwch yn ôl yn rheolaidd am y wybodaeth ddiweddaraf.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19)


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram