|
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford mai pobl ac nid rheolau sydd wrth wraidd ymateb Cymru i bandemig y coronafeirws, wrth iddo gyhoeddi’r mesurau newydd a fydd ar waith yng Nghymru ar ôl y cyfnod atal byr.
Bydd y cyfyngiadau ar deithio rhwng Cymru a Lloegr yn parhau wrth i gyfnod atal byr Cymru ddod i ben a chyfnod clo mis o hyd Lloegr ddechrau, meddai Gweinidog yr Economi a’r Gogledd, Ken Skates, heddiw.
Bydd cyllid ychwanegol o bron i £3 miliwn yn cefnogi rhai o’r defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl mwyaf agored i niwed yng Nghymru yn ystod pandemig COVID-19.
Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, wedi croesawu’r ffaith bod y cynllun ffyrlo wedi’i ymestyn tan fis Mawrth y flwyddyn nesaf, ond mae'n rhybuddio bod tro pedol munud olaf Llywodraeth y DU eisoes wedi achosi niwed anfesuradwy i fywydau pobl.
Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod arian ar gael i gefnogi busnesau sy’n darparu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol a fydd yn helpu cymunedau a'r sector cyhoeddus i ymaddasu i effaith barhaus pandemig y coronafeirws.
Mae cwmni gweithgynhyrchu o Ynys Môn, Joloda Hydraroll, yn buddsoddi yn ei safle yng Ngaerwen, gan greu swyddi newydd a diogelu swyddi eraill, diolch i gymorth gan Lywodraeth Cymru.
O ddydd Iau 5 Tachwedd, bydd ap COVID-19 y GIG ar gyfer olrhain cysylltiadau yn cydweddu ag apiau tebyg yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, Jersey a Gibraltar.
Canllawiau ynghylch rheolau’r coronafeirws fydd yn eu lle o ddydd Llun 9 Tachwedd.
Esbonio pwy fydd wedi eu heithrio rhag rheolau ffiniau newydd Cymru a gyflwynwyd o ganlyniad i'r coronafeirws. Bydd y rheolau yn berthnasol i deithwyr i'r DU o 8 Mehefin 2020.
Gwybodaeth a chanllawiau ategol i helpu darparwyr gofal plant a rhieni i ddiogelu plant.
Profion COVID-19 PCR mewn cartrefi gofal. Rheoli trigolion a staff sy'n profi'n bositif am COVID-19 a threfniadau adrodd.
Mae’r canllawiau hyn yn rhoi cyngor ar y dysgu a’r addysgu y gallai ysgolion a lleoliadau ddymuno eu darparu yn nhymor yr Hydref.
Canllaw hawdd ei ddarllen i'ch helpu i fod yn barod i aros gartref ac i arbed coronafeirws rhag lledaenu.
Mae ynni adnewyddadwy yn allweddol i’n hadferiad gwyrdd a’n hymateb i argyfwng yr hinsawdd – dyna neges Lesley Griffiths wrth i adroddiad newydd ddangos bod Cymru’n cymryd camau breision at gwrdd â’i thargedau adnewyddadwy uchelgeisiol.
Mae lleoliadau ledled Cymru wedi eu clustnodi fel “safleoedd enghreifftiol” ar gyfer y Fforest Genedlaethol – rhwydwaith cysylltiedig o goedwigoedd fydd yn datblygu ledled Cymru.
Mae cytundeb newydd rhwng Sefydliad Iechyd y Byd a Llywodraeth Cymru wedi cael ei lansio, gan gadarnhau ymrwymiad Cymru i weithio’n agosach â’r sefydliad rhyngwladol i fynd i’r afael â thegwch iechyd a sicrhau ffyniant i bawb.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r golau gwyrdd a £10 miliwn arall i raglen newydd fawr a fydd yn trawsnewid tai cymdeithasol ledled Cymru, yn rhoi hwb i'r economi ac yn agor y drws i ddiwydiant newydd yng Nghymru.
Mae partneriaeth yng Nghymru sy’n mewnforio coffi yn helpu ffermwyr o Uganda i ymdopi ag effaith y newid yn yr hinsawdd diolch i gyllid gan Raglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru.
Gwybodaeth i helpu gweinidogion ymateb i bandemig COVID-19 mewn modd sydd ym mudd pennaf pobl Cymru.
Deunydd hyrwyddo Profi, Olrhain a Diogleu gan gynnwys deunydd hyrwyddo am ap newydd COVID-19 y GIG
Adnoddau ymarferol i helpu cyflogwyr i gadw eu gweithwyr yn ddiogel yn y gweithle.
Astudiaeth Symptomau COVID
Helpwch ni i ymladd coronafeirws trwy adrodd ar eich iechyd yn ddyddiol, hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n iawn.
Gallwch chi helpu’r GIG yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws drwy gwblhau arolwg iechyd dyddiol ar yr ap Astudiaeth Symptomau COVID. Mae’r ap hwn yn addas ar gyfer pawb, nid i’r unigolion sydd â symptomau yn unig.
Bydd yr app yn ein helpu i ddeall symptomau a lledaeniad COVID-19. Drwy ateb rhai cwestiynau cyflym, gallwch chi ein helpu i gynllunio ein hymateb i coronafeirws.
Ni fyddwn yn rhannu eich atebion y tu hwnt i’r GIG a sefydliadau y gellir ymddiried ynddynt sy’n gweithio’n uniongyrchol â’r GIG i ymateb i’r coronafeirws.
Mae ymgyrch ar y gweill i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a gweithwyr allweddol o strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu Llywodraeth Cymru. Mae'r wybodaeth ddiweddara am y strategaeth, gan gynnwys canllawiau i gyflogwyr, ar y wefan. (https://gov.wales/test-trace-protect-coronavirus).Mae deunydd fideo wedi cynhyrchu i ddefnyddio mewn ymgyrchoedd ac i rhanddeiliaid rhannu ar ei sianelu. Mae modd i chi lawrlwytho'r deunydd digidol fan hyn a byddem yn gwerthfawrogi os fyddech yn rhannu ar eich sianelu cymdeithasol, er mwyn rhannu gwybodaeth am y strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu.
 |
|
Canllawiau ar coronafeirws i rieni, pawb sy'n gweithio mewn addysg a darparwyr gofal plant
|
 |
|
Cymorth i helpu busnesau a sefydliadau'r trydydd sector yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws
|
 |
|
Aros gartref, hunanynysu, cael cefnogaeth fel person eithriadol o fregus
|
 |
|
Canllawiau’r coronafeirws ar gyfer y GIG a phobl sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol, cymunedol a phreswyl
|
 |
|
Canllawiau i landlordiaid, cartrefi mewn parciau (symudol) a gwasanaethau cysgu allan yn ystod y pandemig coronafeirws
|
 |
|
Cyngor am y coronafeirws i bobl sy’n dod nôl o wlad dramor neu’n bwriadu teithio
|
 |
|
Gwirfoddoli yn ystod pandemig y coronafeirws, cymorth i’r trydydd sector
|
 |
|
Cynllunio, tân, cam-drin domestig a thrais rhywiol
|
 |
|
Help gyda budd-daliadau, i aros yn y gwaith a chael sgiliau newydd
|
Dolenni defnyddiol
Llywodraeth Cymru
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Busnes Cymru
Edrych ar ol ein gilydd
Gwirfoddoli Cymru
|