Newyddlen Cyfnod Pontio UE Bwyd a Diod

29 Hydref 2020

 
 

Newyddlen Cyfnod Pontio UE Bwyd a Diod

Dim ond dau fis sydd i fynd bellach cyn diwedd y Cyfnod Pontio, ac i'ch helpu i baratoi’ch busnes ar gyfer mis Ionawr 2021, byddwn yn rhannu rhywfaint o'r wybodaeth allweddol gyda chi am yr hyn y mae angen ichi ei wneud yn awr.

Chi sy'n gyfrifol am wirio a gweithredu ar wybodaeth berthnasol ond rydym am roi help llaw ichi drwy’ch cyfeirio at ffynonellau o wybodaeth ac arweiniad defnyddiol. 

Beth allwch chi ei wneud yn awr i fod yn barod i fasnachu gyda'r UE o 1 Ionawr 2021 ymlaen?

Cael rhif EORI Prydain Fawr

Bydd angen rhif EORI (Rhif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd) arnoch er mwyn llenwi datganiadau tollau. Gallwch gofrestru am ddim drwy fynd i www.gov.uk/eori (Saesneg yn unig)

Penderfynwch sut rydych yn mynd i wneud datganiadau tollau

Gall asiantau tollau, y rheini sy'n anfon nwyddau, a gweithredwyr sy’n danfon nwyddau’n gyflym eich helpu gyda datganiadau, a sicrhau eich bod yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma (Saesneg yn unig) 

Gweld a yw’r nwyddau rydych yn eu mewnforio yn gymwys ar gyfer dulliau rheoli fesul cam

Bydd y rhan fwyaf o fasnachwyr sydd â hanes da o ran cydymffurfio yn gallu gohirio datganiadau mewnforio ar y rhan fwyaf o nwyddau am hyd at 6 mis ar ôl 1 Ionawr 2021. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma (Saesneg yn unig)

Os byddwch yn symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, gallwch gofrestru i ddefnyddio'r Gwasanaeth Cymorth Masnachwyr (TSS) (Saesneg yn unig), sy’n rhad ac am ddim.

Y cymorth sydd ar gael i chi

Ewch i'r dudalen bwrpasol ar y we, Paratoi’ch busnes bwyd a diod ar gyfer 1 Ionawr 2021 (Saesneg yn unig) ar Llyw.DU, lle gallwch ddod o hyd i'r holl wybodaeth ddiweddaraf am bontio mewn un lle.

A hithau’n adeg pan mae mwy o straen ar y gadwyn cyflenwi bwyd, mae Arloesi Bwyd Cymru wedi agor llinellau cymorth rhanbarthol (Saesneg yn unig).

Ystyriwch ymuno ag un o Grwpiau Clwstwr Llywodraeth Cymru.

Dysgwch fwy am labelu bwyd

Darllenwch ragor o’r cyngor sy’n cael ei roi gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (Saesneg yn unig) am y camau y gallwch eu cymryd yn awr i baratoi’ch busnes.

Cael yr wybodaeth ddiweddaraf

Tanysgrifiwch ar gyfer y gwasanaeth a ddarperir gan CThEM i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi drwy’r e-bost yn rhad ac am ddim www.gov.uk/hmrc/business-support (Saesneg yn unig) a dewiswch  ‘Sign up to help and support emails from HMRC’.

Tanysgrifiwch i gael cylchlythyr Diwydiant Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru https://llyw.cymru/cofrestrwch-ar-gyfer-cylchlythyr-bwyd-diod-cymru

 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN

E-gylchlythyr cwarterol ar gyfer y diwdiant bwyd a diod gan Is-Adran Fwyd Llywodraeth Cymru. 

Newyddion, digwyddiadau a materion syín berthnasol iín diwydiant.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/bwydadiodcymru

Dilyn ar-lein: @BwydaDiodCymru