Newyddlen Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

26 Hydref 2020

 
  231020 FDWIB Header W

Yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru yr wythnos ddiwethaf, mae Cymru wedi cychwyn 'cyfnod atal byr’ am ddau ddiwrnod ar bymtheg o ddydd Gwener 23 Hydref ymlaen. Mae hyn yn newyddion caled iawn i lawer o fusnesau bwyd a diod sydd wedi dioddef cymaint yn ystod ac ar ôl ton gyntaf y pandemig, ond rydyn ni i gyd yn gwybod bod angen gwneud penderfyniadau anodd er mwyn cadw'r afiechyd erchyll yma dan reolaeth.

FDWIB - Andy Richardson

Rydyn ni'n cydnabod bod y sefyllfa sydd ohoni'n un anodd a rhwystredig iawn i filoedd o fusnesau ar draws y diwydiant yng Nghymru, ond rydyn ni yma i'ch cynorthwyo ac i barhau i leisio’ch pryderon i’r bobl sydd angen eu clywed. Wrth gwrs, rwy'n eich annog i barhau i gyfathrebu â fi ac ag aelodau eraill y Bwrdd gan rannu eich pryderon, codi cwestiynau a helpu i benderfynu beth yw'r atebion gorau yn ystod y cyfnod hwn.

Mae hi’n bwysig hefyd nad yw busnesau'n anghofio am y sialensiau ychwanegol a ddaw i ran y diwydiant yn Ionawr 2021. Rydyn ni'n gwybod bod llawer o fusnesau wrthi'n delio â'r sefyllfa bresennol a mesurau'r 'cyfnod atal byr', ond mae hi'n hanfodol bod busnesau'n parhau i flaengynllunio er mwyn paratoi ar gyfer newid pellach. Fe wnawn ni'n gorau glas i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwedd Cyfnod Pontio'r UE â chi ac i fynd â'ch pryderon a'ch cwestiynau'n syth at galon Llywodraeth Cymru a San Steffan.

Mae'r dolenni isod yn cynnig manylion am reolau diweddaraf 'cyfnod atal byr' y coronafeirws i fusnesau, a chanllawiau ar gyfer diwedd Cyfnod Pontio'r UE.  Byddwn ni'n parhau i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf a mwyaf perthnasol yn ein newyddlenni, ac yn postio gwybodaeth ar ein sianeli Twitter a LinkedIn yn ddyddiol. Cofiwch fwrw golwg ar ein gwefan newydd hefyd sy'n cynnig adnoddau pellach, gan gynnwys recordiadau o'n gweminarau ac archif o'n newyddlenni sy'n rhannu gwybodaeth berthnasol.

Gadewch i ni barhau i gydweithio er mwyn sicrhau bod y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru'n parhau i lewyrchu nawr, ac yn y misoedd a'r blynyddoedd sydd i ddod.

Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Newyddion am Covid-19 a diwedd Cyfnod Pontio'r UE i fusnesau bwyd a diod

231020 FDWIB Latest

Y newyddion diweddaraf o'r diwydiant

231020 FDWIB News

Camau allweddol diweddar gan y Bwrdd

231020 FDWIB Board
  • Mae'r Bwrdd yn parhau i hyrwyddo buddiannau busnesau bwyd a diod Cymru gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan ar faterion nad ydynt wedi cael eu datganoli, wrth i ni ddod at ddiwedd Cyfnod Pontio'r UE. Mae hynny'n golygu ein bod ni'n cynnal cyfarfodydd dyddiol ag adrannau a swyddogion allweddol o'r Llywodraeth i hyrwyddo'r materion sy'n bwysig i fusnesau bwyd a diod Cymru.
  • Mae'r Bwrdd yn dal i weithio ar gynllun cyflawni’r strategaeth adfer yn sgil Covid-19 gyda ffocws ar unarddeg o bynciau allweddol, gan gynnwys gwybodaeth am y farchnad, cyngor busnes, gwerthu ar lein, cynhyrchiant a dycnwch busnes, rheoli risgiau, ychwanegu gwerth, cyllid fforddiadwy, achrediad i’r diwydiant, cynlluniau manwerthu, modelau busnes cynaliadwy wrth fasnachu'n rhyngwladol a datblygu sgiliau newydd.
  • Mae'r Bwrdd yn parhau i weithio gyda'r grwpiau clwstwr ar brosesau i bennu nodau cynaliadwy i'w cymhwyso i fwy a mwy o fusnesau a brandiau ar draws Cymru.
  • Mae'r Bwrdd wrthi'n cyfweld â darpar-Aelodau newydd yn dilyn ein hymgyrch recriwtio ddiweddar i gynnwys cynrychiolaeth ehangach o'r gwahanol sectorau a meysydd arbenigedd.
  • Mae'r Bwrdd wedi parhau i rannu dolenni at wybodaeth, cefnogaeth a phecynnau cymorth trwy Twitter a LinkedIn, a helpu gyda phecynnau'r cyfryngau cymdeithasol.

Gweminarau prentisiaethau bwyd a diod Cymru ar gyfer cyflogwyr

231020 FDWIB Skills

Mae prentisiaethau bwyd a diod Cymru'n allweddol wrth feithrin talent newydd yn y diwydiant a darparu hyfforddiant ychwanegol ar gyfer pobl sydd eisoes yn brofiadol. Mae cynlluniau prentisiaeth wedi eu teilwra’n cael eu dylunio o gylch anghenion cyflogwyr er mwyn helpu i recriwtio a hyfforddi staff – gan ei gwneud yn fenter sy'n hanfodol i gynaliadwyedd y diwydiant.

Mae'r Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod (NSAFD) yn annog busnesau i gymryd rhan. Mae'r Academi'n gweithio gyda sectorau llaeth, cig a dofednod, pobi, cynnyrch ffres, a physgod a physgod cregyn er mwyn sicrhau bod y prentisiaethau cywir ar gael i’w cynorthwyo i ddiwallu eu hanghenion.

Ym misoedd Hydref a Thachwedd, bydd NSAFD yn cynnal cyfres o weminarau lle caiff cyflogwyr y cyfle i argymell sut y dylai'r prentisiaethau gael eu hailddatblygu a'u teilwra ar gyfer rolau penodol.

I gael gwybod pryd y cynhelir gweminar eich sector penodol chi ac i gofrestru, ewch i https://nsafd.co.uk/news/food-drink-welsh-apprenticeship-reviews.

Sut y gall busnesau bwyd a diod baratoi ar gyfer y newidiadau ym maes labelu bwydydd PPDS mewn pryd ar gyfer y flwyddyn nesaf

231020 FDWIB Labelling

Bydd angen i unrhyw fwydydd sydd wedi eu pecynnu'n barod ar gyfer gwerthu uniongyrchol (PPDS) arddangos enw'r bwyd a rhestr gyflawn o'r cynhwysion, gan bwysleisio gwybodaeth am alergenau, ar y pecyn neu ar label sydd ynghlwm wrtho o 1 Hydref 2021 ymlaen yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Bydd y cyfreithiau newydd yn helpu i amddiffyn cwsmeriaid sy'n orsensitif i fwydydd.

Bwyd sy'n cael ei becynnu yn y fan lle mae'n cael ei gynnig i gwsmeriaid ac sydd yn ei becyn cyn iddo gael ei archebu neu ei ddewis yw PPDS. Gall hyn gynnwys pecynnau salad a brechdanau y mae cwsmeriaid yn eu dewis eu hunain, a phrydau wedi eu pecynnu'n barod sy'n cael eu cadw y tu ôl i gownter.

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cynhyrchu gwybodaeth ac adnoddau newydd i helpu busnesau i baratoi ar gyfer y cyfreithiau newydd. Mae yna ganllaw rhyngweithiol i weld ar ba gynnyrch fydd angen y labeli newydd ac mae pecyn e-hyfforddi rhad ac am ddim yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cael ei ddiweddaru i gynnig hyfforddiant ar y rheoliadau newydd ar PPDS.

Cadwch mewn cysylltiad i gael diweddariadau ar Twitter a LinkedIn. Ymunwch â'n Grŵp Facebook i rannu gweithluoedd. Cysylltwch â ni trwy e-bost yn Chair.FDWIB@gov.wales

 
 
 

AMDANOM NI

Y newyddion diweddaraf, gwybodaeth a chymorth i sector bwyd a diod Cymru, gan Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@FoodDrinkWIB

 

Dilynwch ni ar LinkedIn:

Food and Drink Wales Industry Board

 

Dilynwch ni ar Facebook:

Welsh food and drink workforce collaboration