Ar frys – Cais i Fusnesau Llety Gwyliau i ddarparu llety ar gyfer grwpiau bregus

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

23 Hydref 2020


covid

Ar frys – Cais i Fusnesau Llety Gwyliau i ddarparu llety ar gyfer grwpiau bregus 

Rydym yn gwneud cais brys i ddarparwyr llety gwyliau helpu drwy gynnig llety i bobl fregus. 

Yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol, ac ers hynny, rydym wedi gweld gwaith anhygoel ledled Cymru i sicrhau nad oes neb heb le diogel a chefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn.  Diolch yn fawr i bawb sydd wedi ac sy’n parhau i’n helpu gyda’r gwaith hwn. 

Nid yw canllawiau Llywodraeth Cymru wedi newid; dylai pawb fod â llety sy’n eu galluogi i ddilyn canllawiau iechyd y cyhoedd ar gadw pellter cymdeithasol, hylendid a hunan-ynysu os oes angen.  Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod gwasanaethau tai o dan bwysau mawr.  Mewn rhai ardaloedd mae llety brys eisoes yn llawn ac mae pwysau’r gaeaf yn dechrau cynyddu.  Bydd y cyfnod atal byr yn gwaethygu’r heriau o ran sichrau llety ychwanegol ac o bosibl yn cynyddu’r nifer o bobl sydd angen llety.   

Rydym felly’n gofyn i fusnesau llety ledled Cymru a fyddai’n bosibl iddynt helpu Awdurdodau Lleol i ddarparu llety brys o safon yn ystod y cyfnod atal a thu hwnt i hynny.  Mae rhai busnesau eisoes yn darparu llety ar gyfer Gweithwyr Allweddol a grwpiau bregus, sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr.  Fodd bynnag, yr her bresennol yw i sicrhau digon o lety ar gyfer grwpiau bregus, nifer ohonynt wedi gorfod symud o ganlyniad i’r pandemig – mae hyn yn cynnwys pobl ddi-gartref a’r rhai sydd o dan fygythiad o fod yn ddi-gartref, fel y bobl hynny nad oes modd iddynt bellach aros gyda theuluoedd neu ffrindiau, neu unigolion sydd â’u perthynas wedi chwalu. 

Mae’r Rheoliadau i gau busnesau yn golygu bod pob mathau o lety i ymwelwyr yn wag ledled Cymru.  Mae’r un rheoliadau yn galluogi awdurdodau lleol neu Weinidogion Cymru i wneud cais i fusnesau ail-agor er mwyn darparu llety diogel i bobl fregus, tra hefyd yn derbyn cymorth drwy’r Cynllun Cefnogi Swyddi a chronfa Cyfnod Clo Llywodraeth Cymru.   

Mae rhagor o gyllid ar gael i gefnogi Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd i sicrhau y llety hanfodol hwn ac i ddarparu’r staff cymorth sydd ei angen fel y gall yr unigolion bregus hyn  dderbyn cefnogaeth gofleidiol i fodloni eu hanghenion. 

Os ydych yn cefnogi’r gwaith hwn bydd Busnesau felly yn:

  • Llunio contract gyda’u Hawdurdod Lleol ar gyfer y costau uniongyrchol.
  • Gymwys i dderbyn y gefnogaeth ychwanegol i fusnesau sydd ar gael – gan gynnwys y Cynllun Cefnogi Swyddi a Cronfa Fusnes Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod clo (gan ddibynnu ar werth ardrethol y Busnes gallai hwn fod yn £1,000 neu yn £5,000.)  

Os y gallwch helpu, cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol ble rydym wedi darparu enw cyswllt a chyfeiriad e-bosb ac anfon copi at quality.tourism@llyw.cymru.  Ar gyfer yr ardaloedd hynny lle nad yw manylion cyswllt eich Awdurdod Lleol wedi’i nodi cysylltwch â Llywodraeth Cymru  quality.tourism@llyw.cymru a byddwn yn casglu’r wybodaeth a’i darparu i’ch ALl er mwyn creu’r cyswllt.    

  1. Rhowch fanylion y llety y gallech ei ddarparu i bobl fregus. Byddwn am gael manylion nifer yr ystafelloedd neu unedau, eu math, lleoliad a pha mor hir rydych yn rhagweld y bydd ar gael.
  2. Rhowch enw cyswllt yn eich busnes a chyfeiriad e-bost a rhif ffôn cyswllt.

Er bod angen ledled Cymru, mae angen brys am lety yn yr ardaloedd canlynol ac rydym wedi darparu ebost cyswllt yr ALl ichi, er mwyn ichi gysylltu â hwy yn uniongyrchol.                          

Diolch eto i’r nifer o fusnesau yng Nghymru fu yn ein helpu yn gynharach eleni – gobeithio y gallwn sicrhau help gan y diwydiant eto.



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram