Cynllunio Morol - Rhifyn 17

14 Hydref 2020

 
 

Croeso

Dyma ail ar bymthegfed rhifyn ein cylchlythyr i gadw'ch bys ar bỳls y datblygiadau diweddaraf wrth inni weithredu Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru. Gwnaethom gyhoeddi a mabwysiadu'r Cynllun ar 12 Tachwedd 2019. Wrth inni weithredu'r cynllun gyda'r rheini sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau, hoffem glywed eich barn chi felly cysylltwch â ni neu rhannwch y cylchlythyr hwn â'ch rhwydweithiau. I'r rheini ohonoch sydd heb ddarllen y cylchlythyr hwn o'r blaen, mae fersiynau blaenorol ohono i'w gweld yma. Fe welwch y manylion cysylltu wrth droed y cylchlythyr.

Datblygu Canllawiau Lleoliadol ar gyfer Sectorau

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n datblygu Canllawiau Lleoliadol ar gyfer y sectorau dyframaeth, ynni llif llanw ac ynni’r tonnau, oherwydd ein bod yn credu mai'r sectorau newydd hyn fydd yn elwa fwyaf ar ganllawiau o’r fath. Bydd y dystiolaeth a gyflwynir gan y Canllawiau Lleoliadol hyn yn cefnogi'r ffordd ofodol o weithio yr ydym yn ei defnyddio wrth helpu gyda’r gwaith o weithredu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru. Unwaith y bydd y canllawiau wedi cael eu paratoi, byddant ar gael ar ffurf adnodd ar-lein, a bydd mapio rhyngweithiol a data gofodol perthnasol yn cael eu hymgorffori i’r Porth Cynllunio.

Aqua

Bydd y Canllawiau’n cael eu datblygu yn unol ag Egwyddor Datblygu Cynaliadwy Cymru, ac yn unol hefyd ag egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy a'r pum ffordd o weithio sydd i’w gweld yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Byddant yn cael eu llywio hefyd gan Ddatganiad Polisi Morol y DU. Rydym wedi rhoi contract i ddatblygu'r gwaith dros y misoedd nesaf, ar ôl gweithio gyda'r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol (MPSRG) i ddatblygu’n ffordd o weithio. Rydym yn awyddus i glywed barn rhanddeiliaid o'r sectorau a ddewiswyd, felly, os hoffech fod yn rhan o’r gwaith hwn, anfonwch e-bost at: Marineplanning@llyw.cymru

Cysylltu a Thrafod

Rydym wedi parhau i gysylltu a thrafod â'n grwpiau rhanddeiliaid allweddol drwy gyfrwng rhith-weminarau. Mae'r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol yn gweithredu fel 'cyfaill beirniadol' drwy gydol y broses cynllunio morol ac yn ein cynghori ar sut i weithredu ym maes cynllunio morol. Cyfarfu'r grŵp hwnnw ar 24 Medi a chafwyd nifer o gyflwyniadau, gan gynnwys un ar ymgysylltu trawsffiniol a chynllunio morol gan Bartneriaeth Solway Firth, trosolwg o sector ynni morol Cymru, a’r cyfleoedd yn y sector hwnnw, gan Ynni Môr Cymru, a chyflwyniad ar Fapio Gweithgarwch yng Nghymru gan Fforwm Arfordir Sir Benfro. Mae crynodeb o'r cyfarfod i’w weld yma.

Y Cynllun Morol – Monitro ac Adrodd

Gwnaethom gyhoeddi ym mis Ionawr y Fframwaith Monitro ac Adrodd sy’n disgrifio’r dull strategol y bydd Llywodraeth Cymru, sef awdurdod cynllunio morol Cymru, yn ei ddefnyddio i ddatblygu dangosyddion ar gyfer monitro'r gwaith o weithredu system dan arweiniad cynllun ar gyfer dyfroedd Cymru. Ers hynny rydym wedi bod yn datblygu cyfres o ddangosyddion ar gyfer monitro’r gwaith gweithredu ac effeithiau’r Cynllun. Gwnaethom roi contract i ABPmer ar gyfer llunio rhestr ddrafft o ddangosyddion i ni eu mireinio a’u cymeradwyo’n derfynol ar y cyd ag arweinwyr polisi a rhanddeiliaid.

M&r

Mae’r gwaith yma bellach wedi’i gwblhau ac mae’r tîm Cynllunio Morol yn cyfarfod yn rheolaidd ag arweinwyr polisi a rhanddeiliaid drwy’r is-grŵp Monitro ac Adrodd. Mae’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol: Fframwaith Monitro ac Adrodd bellach wedi’i gyhoeddi ac rydym yn cydweithio’n agos â chydweithwyr ym maes Polisi Cynllunio er mwyn pennu cyfleoedd i rannu tystiolaeth ac arbenigedd yn y maes hwn.

Diweddariad ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

Mae’r fersiwn ddrafft o’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a’r dogfennau cysylltiedig wedi’u gosod yn y Senedd am gyfnod craffu o 60 diwrnod. Rydym yn cynnwys y ddwy ddogfen ganlynol ar ein gwefan er mwyn helpu i gefnogi’r broses graffu:

  • Drafft Gweithredol y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol: Fersiwn Medi 2020
  • Fframwaith Monitro y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

Mae dogfennau'r FfDC ar gael i'w gweld yma.

ndf

Cynllunio Morol yn y DU

Mae Datganiad Polisi Morol y DU yn darparu'r fframwaith polisi lefel uchel ar gyfer datblygu a gweithredu cynlluniau morol, gan gynnwys Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru. Mabwysiadwyd y Datganiad Polisi Morol yn 2011. Mae'n amlinellu blaenoriaethau trawslywodraethol ar gyfer ardal forol y DU ac mae holl Weinyddiaethau'r DU wedi ymrwymo iddo. Mae’r Datganiad, ochr yn ochr â Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru, yn "ddogfen polisi morol briodol" i’w defnyddio wrth wneud penderfyniadau o dan Adran 58 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir.

uk

Mae'r Datganiad Polisi Morol yn cynnwys nifer o gyfeiriadau at gyfraith yr UE. Er mwyn sicrhau bod modd parhau i’w weithredu ar ôl i Gyfnod Pontio'r UE ddod i ben, mae Defra a'r gweinyddiaethau datganoledig wedi paratoi dogfen ganllawiau fer sy'n nodi sut y dylid mynd ati o 1 Ionawr ymlaen i ddehongli’r cyfeiriadau at gyfraith yr UE sydd yn y Datganiad. Nid yw'r canllawiau hynny’n diwygio unrhyw un o'r blaenoriaethau polisi sydd yn y Datganiad. Eu hunig swyddogaeth yw sicrhau bod modd parhau i weithredu’r Datganiad, fel y'i cyhoeddwyd, ar ôl i’r Cyfnod Pontio ddod i ben. Bydd y canllawiau’n gymwys o 1 Ionawr 2021 ymlaen ac maent yn cael eu cyhoeddi yn awr er mwyn rhoi amser i ddefnyddwyr y Datganiad Polisi Morol , gan gynnwys datblygwyr ac Awdurdodau Cyhoeddus Perthnasol, ymgyfarwyddo â nhw.

Datganiad gan y Gweinidog ar Bolisi Pysgodfeydd yn y Dyfodol

Mae Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, wedi cyhoeddi datganiad mewn ymateb i’r ymgynghoriad Brexit a'n Moroedd a chamau nesaf y gwaith o greu polisi pysgodfeydd i Gymru yn y dyfodol.           

min

Ymgyngoriadau

Y Strategaeth Forol − Rhan Dau: rhaglenni monitro morol arfaethedig y DU

Rydym yn awyddus i glywed eich barn am y rhaglenni monitro morol arfaethedig. Bydd y rhaglenni hyn yn ein helpu i sicrhau Statws Amgylcheddol Da yn ein dyfroedd. Mae Strategaeth Forol y DU yn ymdrin ag 11 o elfennau’r ecosystem. Yn 2014, cyhoeddwyd ein rhaglenni monitro yn Ail Ran y Strategaeth Forol. Mae'r ymgynghoriad yn diweddaru’r Strategaeth wreiddiol. Mae gennych tan 17 Tachwedd i ymateb.

Mesurau rheoli cregyn moch 2020 – estyniad

Rydym wedi estyn ein hymgynghoriad gwreiddiol sy’n gofyn eich barn am sut yr ydym yn bwriadu mynd ati i warchod stoc cregyn moch Cymru. Dyma’r hyn yr ydym yn ei gynnig:

  • cyflwyno cynllun awdurdodi ar gyfer llongau trwyddedig a chofrestredig o’r DU sy'n pysgota am gregyn moch (Buccinum undatum), gan ddefnyddio potiau, ym mharth Cymru;
  • cyflwyno terfyn blynyddol ar gyfanswm y cregyn moch y caniateir iddynt gael eu cymryd o barth Cymru,
  • cyflwyno cap glanio misol hyblyg ar gyfer llongau awdurdodedig.

Mae gennych tan 1 Tachwedd i ymateb.

Cysylltwch a ni

Os oes gennych gwestiynau am y bwletin hwn neu am unrhyw beth arall, cysylltwch â ni trwy'r blwch negeseuon e-bost neu ewch i'n gwefannau.

 
 
 

AMDANOM NI

Cyhoeddwyd y Cynllun Morol cyntaf ar 12 Tachwedd 2019. Mae'n amlinellu ein polisi ar gyfer defnyddio'n moroedd mewn ffordd gynaliadwy dros yr 20 mlynedd nesaf.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/cynllunio-morol

Dilyn ar-lein:

@LlC_pysgodfeydd

@WGMIN_rural