Newyddlen Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

9 Hydref 2020

 
  FDWIB Header 091020 W

Mae Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru'n bodoli i gynorthwyo'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru. Mae ein rôl ni fel Bwrdd wedi dod yn arbennig o bwysig yn ystod y sialensiau digynsail a ddaeth yn sgil argyfwng Covid-19 a'r cyfyngiadau lleol cysylltiedig, ochr yn ochr â'r poenau tyfu sy’n siŵr o fod o’n blaenau wrth i gyfnod Pontio'r UE ddod i ben.

FDWIB - Andy Richardson

Gyda hynny mewn golwg, ein nod bob amser yw rhannu gwybodaeth gryno, perthnasol a chyfoes â'r diwydiant er mwyn sicrhau eich bod chi'n ymwybodol o'r holl ddatblygiadau diweddaraf sy'n effeithio ar y diwydiant.

Wrth i Ionawr 2021 nesáu, dydy yw hi erioed wedi bod yn bwysicach i fusnesau yng Nghymru baratoi, a deall effaith diwedd Cyfnod Pontio'r UE ar y diwydiant. Does dim amheuaeth bod pandemig y coronafeirws wedi cael effaith ddifrifol ar y diwydiant, ac felly mae hi'n hanfodol bod busnesau'n bwrw golwg ar eu strategaethau ac yn cadw llygad arnynt - boed hynny wrth amrywio cadwyni cyflenwi, cynyddu eu presenoldeb ar lein, neu gyflwyno ffyrdd newydd o gyfoethogi profiadau’r cwsmer wrth i ni baratoi ar gyfer cyfnod arall o newid.

Rydyn ni wrthi hefyd yn edrych ar wahanol themâu ar gyfer gweminarau'r dyfodol, ac rydyn ni wedi rhannu pleidlais ar Twitter yn hynny o beth. Byddem wrth ein boddau i glywed beth rydych chi am ei drafod – ymhlith y syniadau cynnar mae cymorth ac arweiniad ar ddiwedd Cyfnod Pontio'r UE, cyngor i’r diwydiant ar allforio a chynaliadwyedd gwyrdd. Cysylltwch â ni trwy Twitter neu â mi'n uniongyrchol yn Chair.FDWIB@gov.wales i roi gwybod beth rydych am i ni ei drafod yn ein cyfres o weminarau.

Fel Bwrdd, rydyn ni'n deall ac yn cydnabod yr anawsterau a'r rhwystredigaeth aruthrol y mae'r coronafeirws wedi eu hachosi, a chychwyn perthynas newydd â'r UE hefyd. Fodd bynnag, byddem yn annog y diwydiant i ddefnyddio'r dolenni isod sy’n eu cyfeirio at gymorth, ac i ymuno â ni ar gyfer gweminarau'r dyfodol er mwyn helpu i gynllunio a pharatoi ar gyfer y newidiadau mawr sydd o'n blaenau.

Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Y newyddion diweddaraf i fusnesau bwyd a diod am Covid-19 a Chyfnod Pontio'r UE

FDWIB Latest 091020

Prif straeon newyddion yr wythnos

FDWIB News 091020

Camau allweddol diweddar gan y Bwrdd

FDWIB Board 091020
  • Cafodd y Bwrdd ddiweddariad ar y Cynllun Manwerthu gan gyfadran Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru, sy'n amlinellu'r cynllun i gynorthwyo cynhyrchwyr bwyd i fanteisio ar y cyfleoedd a'r sialensiau sy'n wynebu cynhyrchwyr bwyd a diod yn y farchnad manwerthu nawr, a'r rhai sydd ar y gorwel.
  • Rydyn ni wrthi'n cyfweld ag Aelodau newydd i ymuno â’r Bwrdd yn dilyn ein hymgyrch recriwtio ddiweddar i sicrhau cynrychiolaeth ehangach o'r gwahanol sectorau a meysydd arbenigedd.
  • Mae Pwyllgor Sgiliau Bwyd a Diod Cymru'n adolygu'r cynllun sgiliau a'r blaenoriaethau mewn perthynas â Covid-19 a diwedd Cyfnod Pontio'r UE, a bydd yn rhoi cyflwyniad i'r Bwrdd ar y mater dros yr wythnosau nesaf.
  • Rydyn ni'n parhau i amddiffyn buddiannau busnesau bwyd a diod Cymru gyda Llywodraeth Cymru, a Llywodraeth San Steffan ar faterion nad ydynt wedi cael eu datganoli, wrth i ni nesáu at ddiwedd Cyfnod Pontio'r UE.
  • Rydyn ni wedi parhau i rannu dolenni at wybodaeth, cefnogaeth a phecynnau cymorth trwy Twitter a LinkedIn, ac wedi helpu gyda phecynnau'r cyfryngau cymdeithasol.

Cyfnod Pontio'r UE: Beth y mae angen i chi ei wybod – Paratoi i allforio nwyddau o Brydain Fawr i'r UE o 1 Ionawr 2021

FDWIB Brexit 091020

Yn rhan o'r nodwedd newydd yma sy’n cynnig canllawiau ar Ddiwedd Cyfnod Pontio'r UE, yr wythnos yma byddwn ni'n dangos beth y mae angen i fusnesau, cynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd a diod ei wybod am allforio ar ôl 1 Ionawr 2021.

Yn nhrafodaeth y rhifyn hwn, byddwn ni'n edrych ar y camau allweddol y mae angen i fusnesau eu cymryd wrth allforio cynnyrch anifeiliaid o Brydain Fawr i'r UE.

Côd Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd (EORI)

  • Côd adnabod unigryw sydd ei angen ar bob busnes sy'n symud nwyddau rhwng y DU a'r UE yw côd EORI. Defnyddir y côd EORI i dracio a chofrestru manylion tollau yn yr UE hefyd.
  • O 1 Ionawr 2021 ymlaen, rhaid i bob côd EORI ddechrau gyda'r llythrennau  ‘GB’ â rhif 12 digid yn dilyn wedyn. Os oes rhif EORI gan eich busnes eisoes, sicrhewch fod y llythrennau 'GB' ar y dechrau, os nad yw'r côd yn dechrau gyda ‘GB’, bydd angen i chi ymgeisio am un newydd: https://www.gov.uk/cael-rhif-eori
  • Gall gymryd hyd at bum niwrnod gwaith i gael rhif EORI dilys.
  • Os na chewch chi gôd EORI, efallai y bydd costau uwch ac oedi o’ch blaenau. Mae’n debygol y bydd yr awdurdodau tollau'n cymryd meddiant o'r llwyth nes bod eich busnes yn gallu dangos rhif EORI dilys.

Rhestr Sefydliadau/Eiddo Cymeradw

  • Os ydych am fasnachu gyda'r UE, yna mae angen i sefydliadau unigol sy'n dosbarthu, yn paratoi neu'n darparu anifeiliaid a/neu gynnyrch anifeiliaid fod ar Restr Sefydliadau Cymeradwy'r UE.
  • Bydd angen i fusnesau sy'n gweithredu o sefydliad cymeradwy yn y DU ac sy’n allforio cynnyrch anifeiliaid i'r UE fod ar y rhestr.
  • Os nad ydych ar y rhestr, ond yn meddwl y dylech fod, yna rhaid i chi roi gwybod i'r Asiantaeth Safonau Bwyd cyn gynted â phosibl, neu erbyn dechrau Rhagfyr 2020. E-bostiwch eulistings@food.gov.uk er mwyn ychwanegu eich busnes at y rhestr.
  • O Ionawr 2021 ymlaen, bydd y broses i gael eich cynnwys ar Restr Sefydliadau Cymeradwy'r UE yn cymryd 30 diwrnod gwaith.

Nodau Iechyd ac Adnabod

  • Rhaid rhoi nodau iechyd ac adnabod ar gynnyrch bwyd sy’n tarddu o anifeiliaid er mwyn cadarnhau eu bod wedi cael eu harchwilio a'u bod yn addas i bobl eu bwyta neu yfed.
  • Rhaid i godau’r Nodau Iechyd ac Adnabod a ddefnyddir wrth labelu cynnyrch sy’n tarddu o anifeiliaid o'r DU gynnwys y côd ISO â dau ddigid (‘GB’) neu enw llawn y wlad mewn priflythrennau (‘UNITED KINGDOM’).
  • Gellir gosod cynnyrch a gynhyrchwyd yn y DU ag arnynt y côd adnabod GB ar farchnadoedd y DU, yr UE a'r tu hwnt i'r UE.

Safonau Labelu a Marchnata

  • Trafodwyd hyn yn fras yn ein newyddlen ddiwethaf, ond i bwysleisio, bydd y rheolau ar labelu bwyd yn newid o 1 Ionawr 2021 ymlaen. Bydd angen i labeli gynnwys:
    • Tarddiad y cynnyrch bwyd
    • Enw neu enw busnes a chyfeiriad y person sy'n gyfrifol am y cynnyrch yn yr UE
    • Nodau iechyd a/neu adnabod - naill ai'r cod ISO â dwy lythyren sy’n dynodi lleoliad y sefydliad, a rhif cymeradwyo'r sefydliad.
    • Unrhyw wybodaeth fandadol arall am ddulliau ffermio a safonau marchnata.

Safleoedd Rheoli Ffiniau (BCPs)

  • Safleoedd archwilio dynodedig a chymeradwy ar ffiniau'r EU yw BCPs lle cyflawnir archwiliadau ar anifeiliaid a chynnyrch anifeiliaid sy'n cyrraedd o wledydd o'r tu allan i'r UE.

Tystysgrifau Iechyd Allforio

  • Dogfen swyddogol yw Tystysgrif Iechyd Allforio sy'n cadarnhau bod eich nwyddau'n bodloni gofynion iechyd yr UE.
  • Mae angen Tystysgrif am bob anifail neu gynnyrch anifail y byddwch yn ei allforio, felly mae angen trefnu hyn am bob un o'ch cynhyrchion cyn iddynt ymadael â'ch safle, a rhaid i swyddog ardystiedig eu cymeradwyo cyn y gallwch allforio'ch nwyddau i'r UE.

Mewnforwyr yn yr UE

  • Bydd y mewnforiwr sy'n derbyn eich nwyddau yn yr UE yn cael archwiliad o'u nwyddau mewn BCP. Yn hynny o beth, rhaid i'r allforiwr anfon copi o'r Dystysgrif Iechyd Allforio at yr Asiantaeth Mewnforio, a fydd yn gorfod cyflwyno rhag-hysbysiad i'r BCP mewn perthynas â’r nwyddau. Rhaid paratoi datganiad tollau hefyd.

Cludiant

  • Er taw'r masnachwyr sy'n gyfrifol am archwiliadau tollau’r ffiniau, rhaid i'r cwmni cludo sicrhau bod gan y gyrrwr y dogfennau angenrheidiol i'w cludo yn y cerbyd ar bob cam o'r siwrnai, a sicrhau bod y gyrrwr yn ymwybodol o'r pwyntiau archwilio.

Datganiadau Tollau a Thariffau

  • O 1 Ionawr 2021 ymlaen, bydd yn rhaid i allforwyr gyflwyno datganiadau o’r tollau allforio ar gyfer eu holl nwyddau a chyflwyno gwybodaeth diogelwch.
  • O 1 Ionawr ymlaen, gall allforwyr godi TAW ar gwsmeriaid ar lefel o 0% ar y rhan fwyaf o nwyddau sy'n cael eu hallforio i'r UE.  Am ragor o fanylion am dariffau, ewch i https://bit.ly/33LP5Cl

I gael rhagor o wybodaeth am allforio nwyddau o Brydain i'r UE, ewch i GOV.UK. Cofiwch edrych ar Borth Brexit Busnes Cymru am y wybodaeth ddiweddaraf sy’n ymwneud â Chymru hefyd.

Cadwch mewn cysylltiad i gael diweddariadau ar Twitter a LinkedIn. Ymunwch â'n Grŵp Facebook i rannu gweithluoedd. Cysylltwch â ni trwy e-bost yn Chair.FDWIB@gov.wales

 
 
 

AMDANOM NI

Y newyddion diweddaraf, gwybodaeth a chymorth i sector bwyd a diod Cymru, gan Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@FoodDrinkWIB

 

Dilynwch ni ar LinkedIn:

Food and Drink Wales Industry Board

 

Dilynwch ni ar Facebook:

Welsh food and drink workforce collaboration