Newyddion Coronafeirws COVID-19 09102020

9 Hydref 2020

 
 

Penawdau Newyddion

Hwb gwerth sawl miliwn i gefnogi addewidion ar ôl COVID-19

Bydd Cymru yn adeiladu dyfodol newydd yn dilyn pandemig y coronafeirws, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, gan ddarparu £320m ar gyfer gwaith ail-greu uniongyrchol.

Cronfa i gefnogi gweithwyr llawrydd creadigol o effaith COVID-19 nawr ar agor

Mae gweithwyr llawrydd yn y sectorau creadigol a diwylliannol yng Nghymru’n bellach yn gallu ymgeisio am eu cyfran o gronfa gwerth £7 miliwn sy’n targedu’n arbennig y rheini yn y sector llawrydd sydd wedi’u taro galetaf gan bandemig y coronafeirws (COVID-19).

Ymgyrch newydd i helpu pobl i chwilio am gyfleoedd newydd

Fel rhan o’i hymateb i coronafeirws (COVID-19), mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu’r cymorth mae’n ei ddarparu ar gyfer pobl yr effeithiwyd arnyn nhw gan ddiswyddiadau, mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates wedi dweud.

“Nawr yn fwy nag erioed mae angen i bobl feddwl yn ofalus ymhle i ofyn am gyngor er mwyn osgoi rhoi pwysau ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol y gaeaf hwn.”

Dyma alwad Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wrth i’n gwasanaethau gofal iechyd a’n byrddau iechyd barhau i ymateb i bandemig y coronafeirws.

Fferyllfeydd cymunedol yn dweud bod mwy yn manteisio ar y brechlyn ffliw wrth i Gymru gynnal ar ei rhaglen frechu fwyaf

Ers y cyhoeddiad ym mis Gorffennaf gan Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y byddai Cymru’n cynnal ei rhaglen frechu fwyaf rhag y ffliw erioed, mae'r nifer sy'n manteisio ar y brechlyn eisoes yn uchel.

Cymru wedi 'arwain y ffordd' wrth ddarparu TG a gwersi ar-lein i ddisgyblion drwy gydol y pandemig

Mae'r ffordd y darparodd Llywodraeth Cymru liniaduron a dyfeisiau wi-fi i fynd i'r afael â'r diffyg mynediad at ddysgu ar-lein a achoswyd gan y pandemig coronafeirws wedi'i ddisgrifio fel un clodwiw mewn adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd

Y Prif Weinidog yn cryfhau’r tîm iechyd Gweinidogol

Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi cryfhau ymateb Llywodraeth Cymru i’r coronafeirws ymhellach drwy ad-drefnu portffolios Gweinidogol allweddol.

Mae’n rhaid i Gymru dderbyn cyfran deg o’r cyllid Ymchwil a Datblygu i gyflawni ei photensial – Gweinidog yr Economi

Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi wedi annog Llywodraeth y DU i gefnogi Cymru i gyrraedd ei photensial llawn drwy sicrhau bod cyfran deg o’r cyllid Ymchwil, Datblygu ac Arloesi yn cael ei gyfeirio tuag at brosiectau Cymru.

Cadw dysgwyr yn ddiogel mewn addysg

Gwybodaeth a chanllawiau ategol i helpu ysgolion a darparwyr eraill i gadw dysgwyr yn ddiogel.

Ymweld ag ysbytai yn ystod y coronafeirws: canllawiau

Sut y gall y GIG helpu pobl i ymweld ag ysbytai mewn modd diogel sydd wedi’i drefnu yn ystod pandemig y coronafeirws.

Canllawiau ar dacsis a cherbydau hurio preifat

Gwybodaeth ar gyfer y diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat.

Chwaraeon a hamdden: canllawiau ar gyfer dychwelyd yn raddol

Canllawiau i bobl sy'n gweithio yn y diwydiannau chwaraeon a hamdden.

Datganiad Ysgrifenedig: Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru)

Newyddion Eraill

OECD yn cydnabod 'gweledigaeth glir Cymru ar gyfer ei system addysg a'i dysgwyr' mewn adroddiad annibynnol newydd

Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) wedi cyhoeddi adroddiad annibynnol ar y cynnydd a wnaed o ran cyflawni cwricwlwm newydd i Gymru.

Gweinidogion Cyllid yn galw am eglurhad ar frys am yr Adolygiad o Wariant a Chyllid y Trysorlys

Mae Gweinidogion Cyllid y gwledydd datganoledig wedi uno i alw am hyblygrwydd, tegwch ac eglurder gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Gwahodd y cyhoedd i ddysgu am lygredd aer fel rhan o Ddiwrnod Aer Glân (2020)

Bydd cyrff a mudiadau o bob rhan o Gymru’n cymryd rhan mewn digwyddiadau ar-lein fel rhan o’r Diwrnod Aer Glân, a gwahoddir aelodau’r cyhoedd i ddysgu am lygredd aer, i rannu gwybodaeth ac i wneud aer Cymru’n lanach ac yn iachach er lles pawb.

Gwybodaeth am Gyfyngiadau Lleol

Deddfwriaeth, Cyngor Technegol ac Ystadegau

Cyngor ar y coronafeirws gan y Gell Cyngor Technegol

Gwybodaeth i helpu gweinidogion ymateb i bandemig COVID-19 mewn modd sydd ym mudd pennaf pobl Cymru.

Deunydd Hyrwyddo a Phecynnau Cymorth

Deunydd hyrwyddo Diogelu Cymru

Deunydd hyrwyddo Profi, Olrhain a Diogelu

Deunydd hyrwyddo Profi, Olrhain a Diogleu gan gynnwys deunydd hyrwyddo am ap newydd COVID-19 y GIG

 

Pecyn Cymorth Busnes Cymru

Adnoddau ymarferol i helpu cyflogwyr i gadw eu gweithwyr yn ddiogel yn y gweithle.

Astudiaeth Symptomau COVID

Helpwch ni i ymladd coronafeirws trwy adrodd ar eich iechyd yn ddyddiol, hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n iawn.

Gallwch chi helpu’r GIG yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws drwy gwblhau arolwg iechyd dyddiol ar yr ap Astudiaeth Symptomau COVID. Mae’r ap hwn yn addas ar gyfer pawb, nid i’r unigolion sydd â symptomau yn unig.

Bydd yr app yn ein helpu i ddeall symptomau a lledaeniad COVID-19. Drwy ateb rhai cwestiynau cyflym, gallwch chi ein helpu i gynllunio ein hymateb i coronafeirws.

Ni fyddwn yn rhannu eich atebion y tu hwnt i’r GIG a sefydliadau y gellir ymddiried ynddynt sy’n gweithio’n uniongyrchol â’r GIG i ymateb i’r coronafeirws.

Profi, olrhain a diogelu

Mae ymgyrch ar y gweill i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a gweithwyr allweddol o strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu Llywodraeth Cymru. Mae'r wybodaeth ddiweddara am y strategaeth, gan gynnwys canllawiau i gyflogwyr, ar y wefan.  (https://gov.wales/test-trace-protect-coronavirus).Mae deunydd fideo wedi cynhyrchu i ddefnyddio mewn ymgyrchoedd ac i rhanddeiliaid rhannu ar ei sianelu. Mae modd i chi lawrlwytho'r deunydd digidol fan hyn a byddem yn gwerthfawrogi os fyddech yn rhannu ar eich sianelu cymdeithasol, er mwyn rhannu gwybodaeth am y strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu.  

Gwybodaeth

Diogelu Cymru

 

Addysg a gofal plant

Canllawiau ar coronafeirws i rieni, pawb sy'n gweithio mewn addysg a darparwyr gofal plant

Diogelu Cymru

 

Busnesau a chyflogwyr

Cymorth i helpu busnesau a sefydliadau'r trydydd sector yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws

Diogelu Cymru

 

Cyngor iechyd

Aros gartref, hunanynysu, cael cefnogaeth fel person eithriadol o fregus

Diogelu Cymru

 

Gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol

Canllawiau’r coronafeirws ar gyfer y GIG a phobl sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol, cymunedol a phreswyl

Diogelu Cymru

 

Tai

Canllawiau i landlordiaid, cartrefi mewn parciau (symudol) a gwasanaethau cysgu allan yn ystod y pandemig coronafeirws

Diogelu Cymru

 

Teithio

Cyngor am y coronafeirws i bobl sy’n dod nôl o wlad dramor neu’n bwriadu teithio

Diogelu Cymru

 

Gwirfoddoli (trydydd sector)

Gwirfoddoli yn ystod pandemig y coronafeirws, cymorth i’r trydydd sector

Diogelu Cymru

 

Gwasanaethau cymunedol

Cynllunio, tân, cam-drin domestig a thrais rhywiol

Diogelu Cymru

 

Swyddi, sgiliau a chefnogaeth ariannol

Help gyda budd-daliadau, i aros yn y gwaith a chael sgiliau newydd

Dolenni defnyddiol

Llywodraeth Cymru

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Busnes Cymru

Edrych ar ol ein gilydd

Gwirfoddoli Cymru

 
 
 

AMDANOM NI

Cylchlythyr i roi’r wybodaeth a chyngor diweddaraf gan Lywodraeth Cymru am y Coronafeirws (COVID-19).

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/coronafeirws

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlywodraethCym