Newyddlen Cyfnod Pontio UE Bwyd a Diod

02 Hydref 2020

 
 

Newyddlen Cyfnod Pontio UE Bwyd a Diod

Croeso i’r gyntaf mewn cyfres newydd o gylchlythyron i helpu Busnesau Bwyd a Diod i Baratoi yn ystod Cyfnod Pontio’r UE.

Yn yr wythnosau i ddod, byddwn yn rhoi gwybodaeth bwysig i chi am yr hyn y dylech ei wneud i baratoi’ch busnes ar gyfer Ionawr 2021.

Eich cyfrifoldeb chi fydd gwybod a gwneud popeth sydd ei angen ond gallwn eich helpu trwy ddangos ichi ble i gael help a chael gafael ar wybodaeth all fod yn ddefnyddiol.

Beth gallwch chi ei wneud nawr i fod yn barod i fasnachu â’r UE ar 1 Ionawr 2021?

Cael rhif EORI GB

Bydd angen rhif EORI arnoch chi i wneud datganiadau tollau.  Cofrestrwch am ddim trwy fynd i www.gov.uk/eori (Saesneg yn unig)

Penderfynu sut i wneud datganiadau tollau

Gall asiantwyr tollau, cwmnïau anfon nwyddau a dosbarthwyr cyflym eich helpu â’ch datganiadau a sicrhau’ch bod yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol.  Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma (Saesneg yn unig) 

A oes modd ichi ddefnyddio’r drefn tri cham i fewnforio’ch nwyddau

Bydd y rhan fwyaf o fasnachwyr sydd â hanes o gydymffurfio yn cael gohirio cyflwyno datganiadau mewnforio ar gyfer y rhan fwyaf o nwyddau am hyd at 6 mis ar ôl 1 Ionawr 2021. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma (Saesneg yn unig)

Eich helpu chi

Cofrestrwch ar gyfer gweminar ddi-dâl DEFRA yma (Saesneg yn unig). O ddydd Iau, 15 Hydref, bydd DEFRA yn cynnal cyfres o weminarau ar allforio anifeiliaid byw a chynnyrch anifeiliaid.  Dyma rai o’r pynciau: dau ben y daith allforio, Tystysgrifau Iechyd Allforio (EHC) a safonau marchnata / marciau ID iechyd / labelu.

Mae’n gyfnod o straen a phwysau ar y gadwyn gyflenwi bwyd. Mae Arloesi Bwyd Cymru felly wedi agor llinellau cymorth rhanbarthol

Beth am ymuno â Chlystyrau Llywodraeth Cymru

Dysgwch am labeli bwyd

Darllenwch gyngor yr HMRC (Saesneg yn unig) ar yr hyn y gallwch ei wneud i baratoi’ch busnes

Cadw’ch bys ar byls pethau

Cofrestrwch ar gyfer gwasanaeth e-byst am ddim HMRC www.gov.uk/hmrc/business-support (Saesneg yn unig) a chliciwch ar ‘Sign up to help and support emails from HMRC’.

Cofrestrwch i gael cylchlythyron Llywodraeth Cymru ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod https://llyw.cymru/cofrestrwch-ar-gyfer-cylchlythyr-bwyd-diod-cymru

 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN

E-gylchlythyr cwarterol ar gyfer y diwdiant bwyd a diod gan Is-Adran Fwyd Llywodraeth Cymru. 

Newyddion, digwyddiadau a materion syín berthnasol iín diwydiant.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/bwydadiodcymru

Dilyn ar-lein: @BwydaDiodCymru