 |
|
Cymorth Arbenigol i Weithgynhyrchwyr
Os ydych yn fusnes gweithgynhyrchu yng Nghymru, gallwn ni eich helpu yn ystod yr argyfwng COVID-19 a’r tu hwnt drwy Raglen Arloesedd SMART, rhaglen a ariennir gan yr UE.
Mae cymorth arbenigol ar gael i’ch helpu chi i ddychwelyd i’r gwaith mewn modd diogel, effeithlon a chynhyrchiol.
Darllenwch fwy yma
|
Gwobrau Dewi Sant 2021
Mae’r gwobrau yn cydnabod ac yn dathlu cyflawniadau eithriadol pobl o bob cefndir, gyda categori ar gyfer arloesi, gwyddoniaeth a thechnoleg. Wrth ddewis y rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Dewi Sant 2021, rhoddir sylw penodol i’r rheini a wnaeth gyfraniad arbennig yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 16 Hydref 2020.
Enwebwch yma
|
|
 |
 |
|
Cam 3 y Gronfa Cadernid Economaidd
Gall busnesau ledled Cymru ddarganfod a allant wneud cais am arian o drydydd cam y Gronfa Cadernid Economaidd.
Mwy o fanylion yma
|
Gwobrau Menywod sy’n Arloesi
Mae Innovate UK, fel rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU, yn cynnig deg Gwobrau Menywod sy’n Arloesi i fenywod entrepreneuraidd ledled y DU. Bydd yr enillwyr yn derbyn grant o £50,000 a phecyn i’r pwrpas o fentora, hyfforddi a chymorth busnes.
-
Y gystadleuaeth yn agor: dydd Mawrth 1 Medi 2020
-
Y gystadleuaeth yn cau: dydd Mercher 14 Hydref 2020 am 11am
Darllenwch mwy yma
Dyfarnu llwyddiant i brosiect dementia
Enillodd Prosiect Laugh â dderbyniodd cyllid Smart Expertise Llywodraeth Cymru i ddatblygu gwrthrychau arloesol i bobl gyda dementia ddwy wobr yng ngwobrau Tech4Good y DU: 'Gwobr Dewis y Bobl' a 'Gwobr Enillydd Enillwyr' cyffredinol!
Festival UK* 2022
Bydd yr ŵyl hon o greadigrwydd ac arloesi yn cael ei chynnal ledled y DU yn ystod 2022. Bydd y prosiect ymchwil a datblygu hwn, sy’n werth £3 miliwn, yn rhoi’r cyfle i Wyddonwyr, Technolegwyr, Peirianwyr, Artistiaid a Mathemategwyr i ddod at ei gilydd a chydweithio ar syniadau mawr. Mae’r prosiect bellach yn derbyn ceisiadau.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth
Taith rithwir COHES3ION yn parhau
Fel partner ym mhrosiect COHES3ION bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynnal ymweliadau rhithwir â rhanbarthau partner – y cyrchfan nesaf fydd Rhanbarth Deheuol Iwerddon. Cynhelir yr ymweliad hon ar 15 Hydref a bydd yn rhan o agenda wythnos digwyddiadau dinasoedd a rhanbarthau yr UE. Bydd partneriaid yn clywed am rai o’r arferion gweithio da sy’n cael eu defnyddio ledled y rhanbarth.
Cofrestrwch yma.
Cyfarfod Cymorth Cyllid Ar-Lein
Mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd ag Innovate UK, Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth a Rhwydwaith Menter Ewrop, yn cynnal Digwyddiad Llawdriniaeth ariannu arloesedd i helpu Cwmnïau dethol yng Nghymru i baratoi eu hunain yn well i:-
- cael gafael ar gyllid ymchwil a datblygu
- cynnal Prosiectau Ymchwil a Datblygu mwy effeithiol
- masnacheiddio'r canlyniadau
Cofrestrwch yma
Digwyddiad Cynllun Graddedigion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
Dydd Mercher 21 Hydref
Ydych chi'n chwilio am adnodd ychwanegol i helpu i gefnogi eich busnes? Diddordeb mewn derbyn gradd ond ansicr ble i ddechrau? Ymunwch â Prifddinas-ranbarth Caerdydd i gael gwybod mwy am y Cynllun Graddedigion.
Cofrestrwch yma
|