Newyddlen Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

25 Medi 2020

 
  FDWIB Header 240920 W

Mae Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru'n bodoli fel llais cynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru. Mae ein rôl ni fel Bwrdd wedi bod yn arbennig o bwysig yn ystod y sialensiau digynsail a ddaeth yn sgil argyfwng Covid-19, ochr yn ochr â'r rhai a welwn yn sgil cyfnod pontio â'r UE.

FDWIB - Andy Richardson

Gyda hynny mewn golwg, ein nod bob amser fel Bwrdd yw rhannu gwybodaeth gryno, perthnasol a chyfoes â chi er mwyn sicrhau eich bod chi'n ymwybodol o'r holl ddatblygiadau sy'n effeithio ar y diwydiant.

Wrth i ni nesáu at Ionawr 2021, bydd angen i ni baratoi a sicrhau dealltwriaeth am oblygiadau ein hymadawiad â'r UE a'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar ddiwydiant bwyd a diod Cymru. Bydd hyn yn dipyn o her o ystyried nad oes yna sicrwydd o hyd ynghylch manylion llawer o oblygiadau ein perthynas fasnachol â'r Undeb Ewropeaidd a gweddill y byd.

Yn y rhifyn hwn, byddwn ni'n parhau i ganolbwyntio ar yr adnoddau a'r cymorth sydd ar gael yn dilyn trafferthion y coronafeirws, ond byddwn ni'n tynnu sylw hefyd at wybodaeth sy'n berthnasol i'r diwydiant o ran Cyfnod Pontio'r UE er mwyn helpu busnesau i baratoi cystal â phosibl ar gyfer y dyfodol.

Rydyn ni wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod y bydd y newidiadau sydd ar y gorwel yn ergyd galed i rai rhannau o'r diwydiant, ac y bydd ar y sectorau bregus yma angen cefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cymru i'w cynorthwyo yn y tymor byr.

Fel Bwrdd, rydyn ni'n deall ac yn cydnabod yr anawsterau a'r rhwystredigaeth aruthrol sydd wedi dod yn sgil y coronafeirws, a nawr wrth baratoi ar gyfer Cyfnod Pontio’r UE. Rydyn ni'n annog y sector i fanteisio ar y wybodaeth sydd ar gael ar lein a’r arwyddbyst y cyfeirir atynt yn y newyddlen hon er mwyn paratoi eu busnesau cyn gynted â phosibl.

Os oes unrhyw bryderon gennych am eich busnes neu'ch sector, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am faterion penodol o gylch y coronafeirws neu Gyfnod Pontio'r UE, cysylltwch â fi'n uniongyrchol trwy Chair.FDWIB@gov.wales. Gyda'n gilydd, a gyda chymorth Llywodraeth Cymru, byddwn ni'n eich helpu chi a'ch busnes i ymadfer yn sgil y chwalfa ac i baratoi cystal â phosibl at y dyfodol.

Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Y newyddion diweddaraf i fusnesau bwyd a diod am Covid-19 a Chyfnod Pontio'r UE

FDWIB Latest 240920

Prif straeon newyddion yr wythnos

FDWIB News 240920

Camau allweddol diweddar gan y Bwrdd

FDWIB Board 240920
  • Cafodd y Bwrdd gyfarfod gyda Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, i drafod datblygiad a chynnydd y Cynllun Adfer yn sgil Covid-19 ar gyfer y sector bwyd a diod.
  • Rhoddodd y Bwrdd ddiweddariad i'r Gweinidog am y gwaith sydd ar droed o gylch sgiliau a phrentisiaethau yn y diwydiant, a gwaith ein partneriaid yn Arloesi Bwyd Cymru er mwyn cynorthwyo'r diwydiant yn sgil Covid-19.
  • Cawsom gyfarfod gyda Llywodraeth Cymru i drafod parodrwydd ac ymwybyddiaeth y sector am drefniadau Pontio’r UE, a phwysigrwydd cyfleu'r negeseuon a'r cymorth yma trwy gysylltiadau FDWIB a thrwy Raglen Clystyrau Bwyd a Diod Cymru.
  • Rydyn ni wrthi'n cyfweld ag Aelodau newydd i ymuno â’r Bwrdd yn dilyn ein hymgyrch recriwtio ddiweddar i sicrhau cynrychiolaeth ehangach o'r gwahanol sectorau a meysydd arbenigedd.
  • Cynhaliodd y Bwrdd a Llywodraeth Cymru gyfarfod i drafod y gwaith cynllunio strategol parhaus sy'n ymwneud ag allforion a masnach ddomestig, ochr yn ochr ag adferiad gwyrdd wrth baratoi ar gyfer Cyfnod Pontio’r UE.
  • Cafodd y Bwrdd gyflwyniad gan gydlynydd Wythnos Gwin Cymru i drafod llwyddiant yr ymgyrch, ynghyd ag ymgyrchoedd bach y gall y Bwrdd gymryd rhan ynddynt yn y dyfodol - cyn ac ar ôl tymor y Nadolig – er mwyn annog pobl i barhau i brynu ac yfed gwinoedd Cymreig.
  • Yr wythnos ddiwethaf, cynhaliwyd ein trydedd gweminar, oedd yn rhoi'r cyfle i gyflogwyr yn y byd bwyd a diod drafod prentisiaethau a'r ymgynghoriad ar sgiliau a fydd bellach yn cau ar 30 Medi 2020. Gweler isod am ragor o fanylion.
  • Mae Pwyllgor Sgiliau Bwyd a Diod Cymru'n adolygu'r cynllun sgiliau a'r blaenoriaethau mewn perthynas â Covid-19 a Chyfnod Pontio'r UE, a bydd yn rhoi cyflwyniad i'r Bwrdd ar y mater dros yr wythnosau nesaf.
  • Rydyn ni wedi parhau i rannu dolenni at wybodaeth, cefnogaeth a phecynnau cymorth trwy Twitter a LinkedIn, ac wedi helpu gyda phecynnau'r cyfryngau cymdeithasol.

Cyfnod Pontio'r UE: Beth y mae angen i chi ei wybod – Labelu a phecynnu bwydydd

FDWIB Brexit 240920

Yn rhan o’r nodwedd newydd yma, byddwn ni'n tynnu sylw at wybodaeth benodol a pherthnasol ar gyfer busnesau bwyd a diod yn ein newyddlenni er mwyn cynorthwyo’r diwydiant i baratoi cystal â phosibl ar gyfer 1 Ionawr 2021.

Yn sgil ein hymadawiad â’r UE, bydd yn ofynnol i fusnesau arddangos gwybodaeth benodol, rhestru'r cynhwysion ac arddangos rhai rhybuddion. Dylid nodi bod rheoliadau penodol ynghlwm wrth labelu gwin.

Mae yna feini prawf penodol ar gyfer cynnyrch sy'n cael ei werthu'n rhydd neu mewn busnesau arlwyo hefyd. Mae’r rhain yn cynnwys nodi enw'r bwyd, a oes unrhyw gynhwysion wedi cael eu harbelydru neu wedi dod o ffynonellau sydd wedi cael eu haddasu'n enetig, rhai rhybuddion, unrhyw ychwanegion bwyd sydd wedi cael eu hychwanegu, a gwybodaeth am alergenau.

Mae yna reolau arbennig ar gyfer rhai cynhyrchion y mae angen tynnu'ch sylw atynt. Mae'r cynhyrchion yma'n cynnwys dŵr potel, pysgod, jam a chyffeithiau, a choffi – i enwi ond ychydig. Mae yna reolau annibynnol ar gyfer cynnyrch cig hefyd.

Mae yna symbolau y mae angen eu cynnwys os ydych chi'n pecynnu'r cynnyrch eich hun. Yn ogystal, mae yna feini prawf arbennig ar gyfer defnyddio plastig, serameg neu seloffen wrth becynnu, felly dylech gadw llygad ar y canllawiau cyfredol os ydych chi'n defnyddio'r deunyddiau hyn i becynnu’ch cynnyrch.

Beth arall sydd angen ei wybod?

  • Wrth labelu cynnyrch bwyd, mae yna feini prawf sy'n pwysleisio'r wybodaeth y mae angen ei darparu (e.e. arwyddlun yr UE, nodau iechyd ac adnabod yr UE, logo organig yr UE, gwlad tarddiad, ac ati)
  • Rhaid nodi niferoedd a mesurau net ond os yw’r marc ar y label, gallwch allforio eich cynnyrch i wlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) heb orfod bodloni gofynion y wlad honno o ran pwysau neu fesuriadau
  • Rhaid cynnwys labeli rhybudd ar gynnyrch ag alcohol
  • Rhaid i chi arddangos manylion gwlad tarddiad: y rhan fwyaf o gynnyrch cig, pysgod a physgod cregyn, mêl, olew olewydd, gwin, ffrwythau a llysiau
  • Os ydych chi'n allforio cynnyrch organig, rhaid i chi fod wedi cael ardystiad un o'r cyrff rheoli organig er mwyn cael gwerthu neu labelu eich cynnyrch fel rhai organig. Bydd angen i chi ddilyn y rheolau ar gyfer labelu cynnyrch organig hefyd. Mae trafodaethau'n parhau rhwng Llywodraeth y DU a'r UE ynghylch cyrchu marchnadoedd yr UE i werthu cynnyrch organig y DU ar ôl 31 Rhagfyr.

I gael rhagor o fanylion am y newidiadau i’r rheolau labelu a phecynnu bwyd a ddaw i rym yn Ionawr 2021, ewch i www.gov.uk/food-labelling-and-packaging.

Am gyngor ac arweiniad ar oblygiadau Cyfnod Pontio’r UE i'r diwydiant, neu i siarad ag ymgynghorydd busnes Cyfnod Pontio'r UE ewch i borth Busnes Cymru www.businesswales.gov.wales/brexit/cy.

Yr ymgynghoriad ar brentisiaethau bwyd a diod: yn cau ar 30 Medi 2020

Beth yw pwrpas yr ymgynghoriad? Rhaglenni dysgu wedi eu dylunio o gylch anghenion y cyflogwr i helpu i recriwtio a hyfforddi staff yw prentisiaethau bwyd a diod Cymru. Gall rhaglenni prentisiaeth drawsnewid busnesau trwy gynnig llwybr at dalent newydd a ffres â sgiliau yn eu sector. Mae prentisiaethau'n cynnig cyfle i weithwyr profiadol ennill sgiliau ychwanegol wrth gael hyfforddiant allanol gan ddarparydd hyfforddiant cymeradwy hefyd.

Mae ymgynghoriad ar droed ynghylch newidiadau arfaethedig i'r prif lwybrau at brentisiaethau y mae busnesau'n eu defnyddio. Mae cyngor sgiliau'r sector, yr Academi Sgiliau Cenedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod, yn cynnal dau ymgynghoriad ar-lein  y naill ar gynlluniau prentisiaeth Lefel 2 sy'n recriwtio talent newydd i'r sector, a'r llall ar gynlluniau prentisiaeth Level 3 sydd wedi eu dylunio i ddarparu sgiliau ychwanegol ar gyfer gweithwyr sy'n brofiadol eisoes. Bydd y dolenni'n mynd â chi at fanylion y newidiadau arfaethedig i bob cynllun.

Yr wythnos ddiwethaf, fe gynhalion ni weminar i fusnesau bwyd a diod ar bwysigrwydd prentisiaethau sgiliau ar gyfer y diwydiant bwyd a diod. Aelod o'r Bwrdd, Justine Fosh, Prif Weithredwraig Cogent Skills, Louise Codling, Prif Weithredwraig yr Academi Sgiliau Bwyd a Diod Cenedlaethol a Wayne Scoberg o Lywodraeth Cymru gynhaliodd y weminar lle bu trafodaethau am brentisiaethau yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, y newidiadau sydd ar y gweill ar gyfer prentisiaethau a'r ymgynghoriad.

Os na fu modd i chi fynychu'r weminar, cewch wylio'r recordiad, a gaiff ei lwytho ar ein gwefan maes o law. Cadwch lygad ar ein newyddlenni am ragor o wybodaeth.

Cadwch mewn cysylltiad i gael diweddariadau ar Twitter a LinkedIn. Ymunwch â'n Grŵp Facebook i rannu gweithluoedd. Cysylltwch â ni trwy e-bost yn Chair.FDWIB@gov.wales

 
 
 

AMDANOM NI

Y newyddion diweddaraf, gwybodaeth a chymorth i sector bwyd a diod Cymru, gan Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@FoodDrinkWIB

 

Dilynwch ni ar LinkedIn:

Food and Drink Wales Industry Board

 

Dilynwch ni ar Facebook:

Welsh food and drink workforce collaboration