Bwletin newyddion: COVID-19 y GIG yn lansio ledled Cymru a Lloegr

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

24 Medi 2020


covid

Ap COVID-19 y GIG yn lansio ledled Cymru a Lloegr

Mae pobl ledled Cymru a Lloegr yn cael eu hannog i lawrlwytho ap COVID-19 y GIG i helpu i atal lledaeniad y coronafeirws a gwarchod eu hunain a’u hanwyliaid wrth i nifer yr achosion gynyddu.

Mae’r ap yn lansio heddiw [dydd Iau 24] ar ôl treialon cadarnhaol a bydd yn adnodd defnyddiol i’w roi ar waith ochr yn ochr â system olrhain cysylltiadau faniwal lwyddiannus Cymru.                                                  

Bydd ar gael i bawb sy’n 16 oed neu ragor, ac mae’n rhan ganolog o raglen Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru i adnabod cysylltiadau’r rhai sydd wedi profi’n bositif am y coronafeirws.

Mae ehangu’r ap yng Nghymru’n cyd-fynd ag ymgyrch genedlaethol o ran sut gall pobl yng Nghymru gefnogi’r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru yn y ffordd orau, gan gynnwys dim ond cael prawf os ydynt yn dangos symptomau; hunanynysu pan fo angen; a gweithio gydag olrheinwyr cysylltiadau lleol os cysylltir â hwy.

Mae system olrhain cysylltiadau Cymru – sy’n wasanaeth sy’n cael ei redeg yn gyhoeddus a’i gyflwyno’n lleol – yn gweithio’n dda ac mae wedi gweld cyfradd gysylltu ac olrhain uchel iawn. Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod cyswllt llwyddiannus wedi’i sicrhau â 94% o’r rhai a gafodd prawf.     

Mae’r ap yn gweithio drwy gofnodi faint o amser rydych chi’n ei dreulio wrth ymyl defnyddwyr eraill yr ap, a’r pellter rhyngoch chi, fel ei fod yn gallu rhoi gwybod i chi os bydd rhywun rydych chi wedi bod yn agos ato’n profi’n bositif yn ddiweddarach am COVID-19 – hyd yn oed os nad ydych chi’n adnabod eich gilydd.

Bydd yr ap yn eich cynghori chi i hunanynysu os ydych chi wedi bod mewn cysylltiad agos ag achos wedi’i gadarnhau. Bydd hefyd yn galluogi i chi wirio symptomau, trefnu prawf os oes angen, a chael canlyniadau eich prawf.

Darllenwch y cyhoeddiad llawn ar gov.cymru

Mae amrywiaeth o ddeunyddiau ar gael i chi eu lawrlwytho a'u rhannu gyda'ch rhwydwaith ac ar eich sianeli cyfathrebu.

Mae fideos amlieithog am yr ap ar gael.

Beth mae hyn yn ei olygu i fusnesau

Dydy’r ap ddim yn cymryd lle yr angen i fusnesau risg uchel ledled Cymru gofnodi manylion cwsmeriaid ac ymwelwyr â’u safleoedd. Cofiwch, mae dal yn gyfraith yng Nghymru i fusnesau risg uchel gofnodi eu hymwelwyr a chadw’r manylion am 21 diwrnod.

Mae hyn yn cynnwys tafarndai, bwytai, gwasanaethau cyswllt agos fel salonau trin gwallt a siopau barbwr, canolfannau hamdden dan do a champfeydd, sinemâu, casinos a neuaddau bingo.

Cewch fwy o wybodaeth am yr ap ac i lawrlwytho'r cod QR unigryw ar gyfer eich busnes.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram