Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.
CYNNWYS BWLETIN – Cyfyngiadau lleol i reoli’r coronafeirws yn Rhondda Cynon Taf; Ymwelwyr o ardaloedd lle mae nifer uwch o achosion o’r coronafeirws; NODYN ATGOFFA AC ARWEINIAD: Cyfyngu ymhellach ar gwrdd yn gymdeithasol a gorfodi gorchuddion wyneb i helpu i atal argyfwng coronafeirws newydd; Ap COVID-19 y GIG – creu cod QR coronafeirws y GIG ar gyfer eich lleoliad; Cadw cofnodion ynghylch staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr: profi, olrhain, diogelu; Pecyn cyllid gwerth £14 miliwn ar gyfer sector chwaraeon a hamdden Cymru; Arolwg Baromedr Busnesau Twristiaeth; Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth COVID-19 y DU; Cynnydd yn y nifer sy’n edrych ar gynnyrch croesocymru.com – diweddaru eich manylion; Rhestru a gwybodaeth am ddim ar gyfer busnesau cyfeillgar i goetsus/grwpiau; Penodi cynrychiolwyr i hyrwyddo Cymru i’r byd fel lle da i fuddsoddi ynddo; Mwy na 100,000 o swyddi wedi’u diogelu gan gronfa Covid Llywodraeth Cymru; Dolenni i ganllawiau defnyddiol eraill, asedau a phecynnau ar COVID-19 y gall eich busnes eu lawrlwytho.
Caiff y cyfreithiau coronafeirws eu tynhau ar draws ardal Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dilyn cynnydd mawr yn yr achosion o’r feirws. Daeth amrywiaeth o fesurau newydd i rym o 6yh ddydd Iau 17 Medi, mewn ymgais i ddiogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad y feirws yn yr ardal. Bydd y cyfyngiadau newydd hyn yn berthnasol i bawb sy’n byw o fewn ardal Rhondda Cynon Taf a byddant yn cael eu hadolygu'n barhaus. Mae rhestr lawn o Gwestiynau Cyffredin ar gael nawr. Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.
Mae canllawiau ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gymryd pob mesur rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad a coronafeirws, mae hyn yn cynnwys manylion sy'n ymwneud ag ymwelwyr â llety a busnesau eraill.
Daeth gorchuddion wynebau yn orfodol mewn mannau cyhoeddus dan do ledled Cymru o ddydd Llun 14 Medi wrth i reolau gael eu tynhau i atal argyfwng coronafirws newydd. Cyhoeddwyd canllawiau wedi'u diweddaru:
Dylai busnesau gydymffurfio â’r rheol chwech o aelwydydd estynedig p’un ai bod yr archeb yn cael ei wneud gan westeion y tu allan i Gymru - ble y gallai rheolau gwahanol fod yn berthnasol - ai peidio.
Mae dal angen i fusnesau sydd â chanolfannau y tu allan i Gymru gydymffurfio â Rheoliadau Cymru ar gyfer unrhyw ran o’u busnes sy’n gweithredu yng Nghymru.
Bydd ap COVID-19 y GIG yn cael ei lansio ddydd Iau 24 Medi yng Nghymru a Lloegr gan gynnwys cofrestru QR mewn lleoliadau. Mae busnesau’n cael eu hannog i lawrlwytho codau QR y GIG.
Bydd codau QR yn ffordd bwysig i unigolion gofnodi eu symudiadau gan helpu system Profi, Olrhain, Diogelu y GIG. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.
Ni fydd Ap newydd COVID-19 y GIG (a grybwyllir uchod) yn ddewis arall i fusnesau lletygarwch a lleoliadau risg uchel eraill gadw cofnodion staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr i helpu gyda profi, olrhain a diogelu, rhag ofn y bydd achosion yn codi. Golyga hyn y bydd yn parhau yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru mewn tafarndai, bariau, caffis a bwytai i gasglu a chadw gwybodaeth staff, ymwelwyr a chwsmeriaid am 21 niwrnod, p’un eu bod yn arddangos poster cod QR swyddogol sy’n gysylltiedig â’r Ap COVID-19 newydd ai peidio. Er y bydd busnesau yn cael eu hannog i arddangos y poster cod QR, nid yw’r Ap yn cynnwys y gofyniad sy’n gysylltiedig â’r canllawiau hyn, felly bydd yr angen i gasglu manylion yn parhau fel ar hyn o bryd.
Er nad yw busnesau twristiaeth wedi’u cynnwys yn y canllawiau gorfodol hyn, caiff cwmnïau llety eu hatgoffa o bwysigrwydd parhau i gasglu manylion cwsmeriaid wrth archebu, ac i gefnogi gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu y GIG gyda’r wybodaeth hon os oes angen.
Mae canllawiau ar Gadw cofnodion staff, cwsmeriaid, ac ymwelwyr: profi, olrhain, diogelu ar gael ar GOV.UK.
Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cyhoeddi pecyn cyllid i gefnogi sector chwaraeon a hamdden Cymru. Bydd y ‘Gronfa Adfer Chwaraeon a Hamdden’ yn cefnogi’r sector gyda’r heriau parhaus sydd wedi deillio o bandemig COVID-19 ac yn sicrhau cynaliadwyedd yn y tymor hwy. Nod y gronfa yw darparu cymorth hanfodol i glybiau a sefydliadau chwaraeon, darparwyr annibynnol a digwyddiadau chwaraeon sydd wedi wynebu heriau sylweddol yn ystod yr argyfwng ac sy’n parhau i ddioddef effeithiau difrifol. Bydd y gronfa'n helpu i ysgogi arloesedd mewn ganolfannau hamdden awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau hamdden ac yn ychwanegu ac y gronfa caledi ar gyfer llywodraeth leol.
Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn ar Llyw.Cymru.
Rydym yn parhau i olrhain effaith COVID-19 er mwyn helpu i gefnogi y diwydiant twristiaeth a chafodd pumed rownd arolwg ffȏn busnesau twristiaeth ei lansio yr wythnos hon (16 Medi) – a bydd galwadau ffȏn yn cael eu cynnal am oddeutu pythefnos. Golyga hyn y gallai rhai sefydliadau twristiaeth dderbyn galwad gan ein partner ymchwil Strategic Research & Insight (SRI) i gynnal yr arolwg, heb fod wedi dewis gwneud hyn. Mae hyn oherwydd bod y rhestr y mae SRI yn ei defnyddio yn seiliedig ar nifer o setiau data sy’n cael eu darparu gennym. Bydd ein partner ymchwil yn cyflwyno eu hunain fel rhai sy’n galw o Strategic Research & Insight (SRI), ar ran Croeso Cymru, a’r busnes sydd i ddewis a ydynt am gymryd rhan. Mae’r arolwg yn darparu data hanfodol inni, gan helpu i benderfynu ar effaith barhaus COVID ar y sector twristiaeth.
Os bydd SRI yn cysylltu â chi byddwn yn gwerthfawrogi eich cyfraniad yn fawr.
Os ydych yn dymuno gwybod mwy anfonwch e-bost at ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru.
Mae Croeso Cymru yn parhau i gydweithio gyda VisitBritain a VisitScotland ac o fis Awst, cynhelir yr arolwg bob yn ail wythnos, a bydd y canlyniadau cyntaf, yn cynnwys 31 Awst – 4 Medi, i’w gweld ar wefan VisitBritain.
Mae’r prif ganfyddiadau yn cynnwys bod 27% o oedolion wedi mynd ar daith ddomestig dros nos yn ystod Gorffennaf ac Awst. Ym mis Mehefin, pan ofynwyd i bobl am eu bwriad o ran mynd ar daith, dim ond 15% oedd yn credu y byddent yn mynd ar daith ddomestig yn ystod yr haf. Mae disgwyl i oddeutu 19% o oedolion fynd ar daith dros nos yn ystod Medi-Hydref; o bosibl mwy os fydd y gyfradd ymweliadau â ffrindiau a pherthnasau yn parhau i’r cyfnod hwn.
Rydym yn gweld cynnydd enfawr yn nifer y chwiliadau ar croesocymru.com ar gyfer llety, atyniadau a phethau i’w gwneud, ac yn rhagweld y bydd y galw hwnnw yn debygol o barhau yn ystod yr hydref wrth inni barhau gyda’n negeseuon Addo i Gymru.
Os nad ydych wedi diweddaru eich manylion ar www.croeso.cymru ers tro, edrychwch i weld a oes angen gwneud hynny drwy fynd ar y rhestr; ble y cewch hefyd ddiweddaru eich manylion ar gyfer Ymwelwyr, y Diwydiant Teithio a Digwyddiadau Busnes.
Os ydych angen cymorth i gofrestru, defnyddiwch y safle Cymorth i Gofrestru, neu os nad ydych yn gallu cofio eich manylion cofrestru cysylltwch â Stiward Data Croeso Cymru ar vw-steward@nvg.net neu 0330 808 9410. Mae cymorth ar gyfer defnyddio’r rhestr neu gyngor ar gynnwys neu gymorth hefyd ar gael drwy anfon e-bost at cronfadddata.cynnyrch@llyw.cymru.
Helpu i gadw ein hymwelwyr yn ddiogel
Hoffem ddiolch ichi am weithio mor galed i addasu eich busnes i’w wneud yn ddiogel i ymwelwyr. Rydym yn falch o ddweud bod dros 1,400 o’r busnesau sydd wedi’u rhestru ar croesocymru.com wedi eu cofrestru o dan y cynllun ‘Barod Amdani’ ac mae eu logo i’w weld ar eu manylion. Gall pobl sy’n chwilio bellach hidlo eu canlyniadau chwilio drwy edrych ar gynnyrch sydd wedi’i gymeradwyo.
Mae’r Coach Tourism Association yn paratoi rhestr o atyniadau cyfeillgar i grwpiau sydd wedi ail-agor ac yn croesawu grwpiau o goetsus ar eu gwefan. Mae wedi’i gynllunio i fod yn gyfeiriadur cynhwysfawr fydd yn darparu cysylltiadau uniongyrchol, amseroedd ailagor, prosesau archebu a’r newyddion diweddaraf ar weithdrefnau ar gyfer grwpiau yn y lleoliadau i helpu cwmnïau coetsus a grwpiau wrth gynllunio ymweliadau yn y dyfodol. Maent wedi ehangu’r cyfle hwn i’r rhain nad ydynt yn aelodau – cewch ychwanegu eich gwybodaeth yma. Unwaith y bydd busnesau wedi cyflwyno y ffurflen bydd y ddolen yn mynd yn fyw ar y wefan ar unwaith.
Mae gwefan y diwydiant teithio Croeso Cymru yn cael ei diweddaru gyda gwybodaeth gyffredinol i gwmnïau coets/grwpiau sy’n cynnwys pdf i’w lawrlwytho y gallech ei ddarparu i gysylltiadau perthnasol.
Mae tri chynrychiolydd sy’n angerddol dros Gymru wedi cael eu penodi gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo’r wlad dramor. Mae’r cynrychiolwyr yn rhan o Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru, a phrif elfen honno yw codi ymwybyddiaeth am Gymru ledled y byd. Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn ar Llyw.Cymru.
Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd wedi helpu i warchod dros 100,000 o swyddi ledled Cymru yn ystod y pandemig, yn ȏl ffigurau newydd. Hyd yma, mae’r gronfa wedi darparu bron £300 miliwn o gymorth i dros 13,000 o gwmnïau yng Nghymru, sydd wedi bod yn hanfodol i helpu busnesau i reoli heriau ac effeithiau economaidd y coronafeirws. Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn ar Llyw.Cymru.
Rydym yn deall ei bod yn anodd cadw i fyny weithiau â phopeth sydd ar gael. Bydd y dolenni isod yn eich helpu i weld pa adnoddau a phecynnau sydd ar gael i’ch helpu.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|